Hysbysiad o fwraid i beidio â pharatoi datganiad amgylcheddol - Stad ddiwydiannol Pont Lecwydd

(Rheoliad 5 yr Asesiad Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draeniad Tir) Rheoliadau 1999) fel
y’u diwygiwyd gan SI 2005/1399 ac SI 2006/618

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu gwneud gwaith i wella amddiffynfeydd llifogydd ar Afon Elai yn Lecwydd, Caerdydd yn Stad Ddiwydiannol Pont Lecwydd, i’r gogledd o Heol Lecwydd (B4267) rhwng cyfeiriadau grid NGR ST 15912 75229 a NGR ST 15758 75430. Bydd y gwaith gwella arfaethedig yn cynnwys codi lefel y tir ar raddfa fechan a gwella dau ddarn byr o’r mur llifogydd (6.5 metr i gyd, uchder mwyaf 0.8m) ar hyd tua 250m o lan orllewinol Afon Elai. Bydd system ddraenio yn cael ei gosod gan gynnwys nifer o rigolau, pibellau, a bydd cefnfuriau hefyd yn cael eu codi ar yr afon I sicrhau fod y dŵr wyneb yn draenio i’r afon o’r rhannau newydd fydd yn cael eu codi.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal gwerthusiad amgylcheddol ac yn ystyried nad yw’r gwaith arfaethedig yn debygol o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd ac o’r herwydd, nid yw’n bwriadu paratoi Datganiad Amgylcheddol ar gyfer y gwaith.

Dylai unrhyw un neu unrhyw gorff sy’n dymuno gwneud sylwadau i Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas ag effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith arfaethedig, wneud hynny yn ysgrifenedig, a’u hanfon i swyddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru i’r cyfeiriad a nodir isod, o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn.

Paul Isaac (Rheolwr Prosiect), Tŷ Cambria (Llawr 1af), 29, Heol Casnewydd, Caerdydd CF24 0TP

paul.isaac@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk