Hyrwyddo addysg gorfforol actif allan yn yr amgylchedd naturiol.

Ffion Hughes


Mae cymaint o ddewis. Gallwch fynd ati i archwilio pob twll a chornel o’ch parc lleol neu gallwch ymweld â choetir deiliog neu warchodfa natur genedlaethol. Dewis arall fyddai mynd am dro egnïol a phleserus ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Mae un peth yn siŵr, fe fydd yr awyr iach a’r cyfle i gerdded neu fwynhau gweithgaredd arall yn rhoi’r cyfle i ystwytho’r corff heb sôn am ein helpu i deimlo’n dda. Mae cymaint i’w ennill o ran ymarfer corff a’n lles meddyliol - arferion ac enillion fydd gennym ni gydol ein hoes.

Mae gordewdra plant ar gynnydd ac mae Strategaeth pwysau iach Llywodraeth Cymru yn ceisio atal a lleihau gordewdra mewn sawl ffordd. Mae dysgu corfforol actif (PAL) yn ddull pedagogaidd sy’n cefnogi dysgu trwy symud. Mae gweithgareddau dysgu wedi’u paratoi fel bod angen i ddysgwyr symud. Gall integreiddio dysgu a chwarae o fewn tir lleoliad ac ardaloedd natur lleol gael effaith gadarnhaol ar gynyddu gweithgareddau corfforol a llythrennedd corfforol. Bydd hyn yn ei dro yn datblygu’r sgiliau symud sydd eu hangen ar bob plentyn fel rhedeg, hopian, taflu, dal, a neidio.

Mae Canllawiau Gweithgarwch Corfforol Prif Swyddogion Meddygol y DU yn argymell y dylai plant 5-18 oed anelu am o leiaf 60 munud o weithgarwch corfforol y dydd ar gyfartaledd drwy’r wythnos. Mae ymchwil ym mhob rhan o’r DU yn dangos yn gyson bod y lefel ar gyfer cyfanswm gweithgarwch corfforol wythnosol yn gostwng yn ystod y glasoed gyda rhai astudiaethau yn awgrymu bod y gostyngiad yn dechrau mor ifanc â chwech oed. Yng Nghymru ar hyn o bryd, mae 40% o blant rhwng 3 a 7 oed a 80% o blant rhwng 11 a 16 oed nad ydyn nhw’n cyrraedd y meincnod iechyd hwn.

Mae’r dudalen hon yn edrych ar sut y gall treulio amser yn yr amgylchedd naturiol gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol. Rydyn ni hefyd yn rhannu rhai syniadau am weithgareddau a fydd yn annog dysgwyr o bob oed i fynd allan i’r awyr agored.

Beth yw’r manteision o fod yn gorfforol actif yn yr amgylchedd naturiol? 

Bydd dysgu a chwarae yn yr amgylchedd naturiol yn annog plant a phobl ifanc i wneud y canlynol:

  • rhedeg, neidio, dringo, a rholio, gan wneud y mwyaf o’r tir agored sydd ar gael a defnyddio’u hegni
  • delio ag arwynebau anwastad
  • codi eu traed
  • defnyddio eu cyhyrau craidd trwy blygu ac ymestyn
  • asesu beth sy’n ddiogel ei wneud eu hunain a dysgu sut mae edrych ar ôl eu hunain ac eraill
  • datblygu eu synnwyr o gydbwysedd
  • meithrin ymwybyddiaeth synhwyrol sef gweld, clywed, arogli, cyffwrdd, a lle bo’n hynny’n addas, blasu.

Awydd gwybod mwy?  Rydym wedi paratoi set o bosteri i ddangos yr holl fanteision sydd i’w cael drwy ymgymryd â dysgu yn yr awyr agored:

Poster - Gall bod yn yr amgylchedd naturiol gynyddu gweithgarwch corfforol

Poster - Manteision chwarae ym myd natur

Poster - Cewch fuddion lles trwy fod yn yr amgylchedd naturiol

Poster – Gall dysgu yn yr awyr agored wella cyrhaeddiad academaidd

Poster - 5 ffordd o roi hwb i’ch iechyd a’ch lles drwy gysylltu â natur

Mae’n haws nag erioed cadw’n egnïol yn gorfforol

Mae gennym amrywiaeth enfawr o weithgareddau ac adnoddau addysgu i’ch cefnogi chi a’r dysgwyr i ddysgu yn yr amgylchedd naturiol heb sôn am ddysgu am, a dysgu ar gyfer yr amgylchedd naturiol. Bydd cynyddu gweithgarwch corfforol yn digwydd yn naturiol.

Archwilio rhyfeddodau natur drwy ymarfer corfforol

Prosesau naturiol yw’r rhyngweithio sy’n digwydd rhwng planhigion, anifeiliaid, a’r amgylchedd. Prosesau sydd, yn eu tro, yn siapio ein planed ac yn cynnal bywyd. O ddysgu am y gylchred ddŵr i sut mae coeden yn gweithio, ond drwy roi’r gorau i daflenni gwaith ac annog eich dysgwyr i ystwytho’u cyhyrau ac astudio’r prosesau hyn allan yn y maes. Ewch â nhw allan i’r amgylchedd naturiol i ddysgu am allu natur i ddylanwadu ar dirweddau ac ecosystemau drwy ddefnyddio prosesau naturiol.

Tai Chi y Gylchred ddŵr

Drwy gyfuno ymlacio a symudiadau llyfn, mae ein gweithgaredd Tai Chi y Gylchred Ddŵr yn dangos sut mae’r gylchred ddŵr yn gweithio.

Cynllun gweithgaredd - Tai Chi y Gylchred Ddŵr

Sut mae coeden yn gweithio

Datgelu bywyd cyfrinachol coeden. Bydd y gweithgaredd hwn yn annog eich dysgwyr i symud ac adeiladu coeden ddynol gan ddangos gwahanol swyddogaethau rhannau gwahanol o'r goeden.  Defnyddiwch ein poster ‘Sut mae coeden yn gweithio’ fel cymorth ar gyfer gweithgaredd ‘Sut mae coeden yn gweithio’ ar gyfer dysgwyr.

Cynllun gweithgaredd - Sut mae coed yn gweithio
Poster - Sut mae coeden yn gweithio

Gwasgariad hadau

O ddysgu ynghylch sut mae anifeiliaid yn helpu i wasgaru hadau i ddeall yr hyn sydd ei angen ar hedyn i egino’n llwyddiannus, mae pob un o’r gweithgareddau hyn yn rhyngweithiol ac wedi cael eu cynllunio i annog eich dysgwyr i symud.

Gweithgareddau a gemau - Gwasgariad hadau
Cardiau adnoddau - Gwasgariad hadau 
Cardiau adnoddau - Ar eich marciau, barod, tyfwch 
Cardiau adnoddau - Hadau, dail a choed 
Cwis - Coed a hadau
Nodyn gwybodaeth - Gwasgariad hadau 

 

Sut mae mawn yn ffurfio?

Mae ein gêm 'Ar eich marciau, barod, cronnwch!' yn gêm ar ffurf 'tag' ac mae’n esbonio i’r dysgwyr beth sydd ei angen ar fawn iddo ddechrau ffurfio. Mae hefyd yn annog trafodaeth am y ffactorau sy’n gallu effeithio ar gyfraddau cronni mawn.

Cynllun gweithgaredd – Ar eich marciau, barod, casglwch!
Cardiau adnoddau – Ar eich marciau, barod, casglwch!

Dysgu actif: Anifeiliaid, addasiadau a chadwyni bwyd

Edrychwch i fyny, edrychwch i lawr, edrychwch i bob cyfeiriad o’ch cwmpas - beth sy’n byw ar dir eich lleoliad chi? A fydd eich dysgwyr yn gallu bod yn dditectifs cadwyni bwyd? Ydyn nhw’n gallu creu cadwyn fwyd ffisegol i ddangos sut y mae egni yn cael ei drosglwyddo rhwng organebau gwahanol o fewn ecosystem? Ydyn nhw’n gallu gweithio fel tîm i greu gwe fywyd ryngweithiol i arddangos cyd-ddibyniaeth? O amffibiaid i fywyd yn y dŵr, bydd ein llyfryn ‘Anifeiliaid a chynefinoedd - gweithgareddau a gemau’ gyda chardiau adnoddau a gwybodaeth yn sbarduno awydd eich dysgwyr i ddysgu mwy am nodweddion, ymddygiad a chynefinoedd anifeiliaid.

Pa un ai yw’n archwiliad actif o ecoleoli trwy ein gweithgaredd Ystlum a Gwyfyn, neu’n ymchwiliad ymarferol i’r cysyniad o aeafgysgu trwy ein Gêm y Gaeaf gysgwyr, edrychwch ar ein llyfryn ‘Anifeiliaid a Chynefinoedd’ sydd ar gael ar ein gwe-dudalen dan y pennawd ‘Hybu Gwyddoniaeth a Thechnoleg drwy natur’

Symud mathemateg a rhifedd allan i fyd natur

Dyma eich cyfle i adael yr ystafell ddosbarth a chodi pac allan i’r awyr iach. Nid yw mathemateg a rhifedd byth yn bynciau diflas allan yn yr amgylchedd naturiol. Anogwch nhw i astudio siapiau a phatrymau trysorau natur. Ydyn nhw’n gallu cyfrif, archwilio a thrafod gwrthrychau naturiol fel rhan o’r drafodaeth ar fesur neu gasglu data? Pa onglau sydd i’w gweld ym myd natur? Mae’r amgylchedd naturiol yn rhoi cyfoeth o gyfleoedd i astudio ac archwilio mathemateg.

O gasglu deunyddiau naturiol i gwblhau ein gweithgaredd Cymesuredd naturiol i archwilio mesur ansafonol, uchder a phwysau trwy adeiladu Tyrau o frigau. Mae hwn yn gyfle i’ch dysgwyr ymarfer eu cyrff a’u meddyliau drwy ddefnyddio’r amrywiaeth o weithgareddau sydd ar gael yn ein llyfryn Mathemateg a Rhifedd.  

Naturiol iach - ymarfer ysgafn naturiol i’r corff a’r meddwl

Mae natur yn eich galluogi i fod yn gorfforol actif mewn unrhyw le. Rydym wedi datblygu amrywiaeth o weithgareddau, gemau ac adnoddau i ennyn diddordeb dysgwyr, waeth beth fo'u hoed, lefel eu ffitrwydd na'u rhyw.

Beth am hybu eich dysgwyr i gymryd rhan mewn Ymarfer gwyllt er mwyn annog mwy o weithgarwch corfforol neu eu hannog i geisio Cerdded yn droednoeth ar dir anwastad i gryfhau eu cyhyrau craidd a chefnogi cydbwysedd y corff?  Mae’r 14 o weithgareddau a gemau yn ein llyfryn Iechyd a lles yn dangos sut i wneud y mwyaf o’r amgylchedd naturiol fel lle i hyrwyddo iechyd corfforol a lles.

Chwilio am fwy o ysbrydoliaeth?

Mae ein rhestr chwarae ar YouTube Addysg, dysgu, chwarae ac iechyd yn cynnig amrywiaeth o fideos byr ‘sut-i-fynd o’i chwmpas hi’ i ysbrydoli anturiaethau actif yn yr awyr agored: 

Tyrau cerrig

Cerdded yn droednoeth

Saffari creaduriaid bychan

Helfa'r Chwilotwyr

Ydych chi’n edrych ar sut i ddenu pobl ifanc oddi wrth y sgrin a mentro allan i fyd natur?  

O fesur twyn tywod i gyfrifo faint o garbon sydd mewn coeden, mae’r amgylchedd naturiol yn cynnig cyfleoedd di-ben-draw ar gyfer gwaith maes a chasglu data. Ar yr un pryd mae’n gyfle i fod yn gorfforol actif ac yn llesol i’r meddwl! Gall ymweliad ag ardal naturiol ddod â dysgu’n rhywbeth byw, annog gwaith tîm, sgiliau datrys problemau, sgiliau arwain a gwerthfawrogiad o’r amgylchedd naturiol. Beth bynnag ydych chi am ei astudio - mawndiroedd neu dwyni tywod, mae gennym adnoddau a gwybodaeth i’ch helpu a’ch cefnogi. Chwiliwch ar ein gwe-dudalen am adnoddau dysgu yn ôl pwnc neu Cwricwlwm i Gymru, lawrlwythwch adnoddau, paciwch eich cit, a ffwrdd â chi i’r awyr agored gyda’ch criw o ddysgwyr!

Dilynwch y cod cefn gwlad  

Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ddiogelu ein cefn gwlad a'n mannau agored ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.  Ble bynnag y penderfynwch fod yn actif, cofiwch ddilyn y cod cefn gwlad. Parchwch, diogelwch a mwynhewch, ein Cod cefn gwlad yw eich canllaw i fwynhau parciau, dyfrffyrdd, yr arfordir neu gefn gwlad.

Cysylltwch â ni

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i beth ydych chi’n chwilio amdano, neu os hoffech unrhyw help neu wybodaeth bellach cofiwch gysylltu â ni:

E-bost: addysg@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ffôn: 0300 065 3000

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf