Y Cod Cefn Gwlad: cyngor i’r rhai sy’n ymweld â chefn gwlad

Eich canllaw ar gyfer mwynhau parciau, dyfrffyrdd, arfordir a chefn gwlad.

Parchwch bawb

  • byddwch yn ystyriol o'r rhai sy'n byw yng nghefn gwlad, yn gweithio ynddo ac yn ei fwynhau
  • gadewch giatiau ac eiddo fel yr oeddent
  • peidiwch â rhwystro mynediad i giatiau neu dramwyfeydd wrth barcio
  • byddwch yn gyfeillgar, dywedwch helo, rhannwch y gofod
  • dilynwch arwyddion lleol a chadwch at lwybrau wedi'u marcio oni bai bod mynediad ehangach ar gael

Ffermio, da byw ac anifeiliaid gwyllt

Gall eich gweithredoedd chi effeithio ar fywydau a bywoliaeth pobl eraill.

Cydweithiwch â phobl sy'n gweithio yng nghefn gwlad. Er enghraifft, dilynwch gyfarwyddiadau'r ffermwr pan fydd anifeiliaid yn cael eu symud neu eu casglu. Mae hyn yn helpu i gadw pawb yn ddiogel.

Gadewch giatiau ac eiddo fel yr oeddent neu dilynwch gyfarwyddiadau ar arwyddion. Pan fyddwch mewn grŵp, gwnewch yn siŵr bod y person olaf yn gwybod sut i adael y giatiau. Mae ffermwyr yn cau giatiau i gadw anifeiliaid i mewn neu’n eu gadael ar agor i roi mynediad i fwyd a dŵr.

Peidiwch ag ymyrryd â pheiriannau fferm, ceffylau na da byw. Os ydych chi'n meddwl bod anifail fferm mewn trafferth, ceisiwch rybuddio'r ffermwr.

Rhowch ddigon o le i anifeiliaid gwyllt, da byw a cheffylau. Gall eu hymddygiad fod yn anwadal, yn enwedig pan fyddant gyda'u hepil a gallech chi gael eich anafu.

Peidiwch â bwydo da byw, ceffylau nac anifeiliaid gwyllt oherwydd gall hyn eu niweidio.

Teithio a pharcio yng nghefn gwlad

Gall traffig ar ffyrdd gwledig fod yn beryglus i bobl a bywyd gwyllt.

Arafwch a gyrrwch yn ofalus wrth yrru ar ffyrdd gwledig. Gofalwch nad ydych yn rhwystro mynediad i giatiau neu dramwyfeydd wrth barcio. Gadewch fynediad ar gyfer cerbydau argyfwng bob amser.

Ystyriwch adael eich car gartref pan fyddwch yn mynd am dro yn yr awyr agored. Gallech ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ar wefan Traveline Cymru.

Cymerwch ofal a sylw ychwanegol lle mae hawl tramwy yn croesi rheilffordd. Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar ddefnyddio croesfannau rheilffordd yn ddiogel ar wefan Network Rail.

Wynebwch draffig sy'n dod atoch a dilynwch Reolau’r Ffordd Fawr pan fyddwch yn cerdded ar ffordd heb balmant.

Byddwch yn gyfeillgar, dywedwch helo, rhannwch y gofod

Pan fyddwch yn treulio amser yn yr awyr agored gall y byddwch yn dod ar draws defnyddwyr eraill ac anifeiliaid. Arafwch neu stopiwch ar gyfer ceffylau, cerddwyr a da byw wrth yrru neu feicio. Rhowch ddigon o le iddyn nhw bob amser.

Rhaid i feicwyr ildio i gerddwyr a marchogion ar lwybrau ceffylau.

Dylai beicwyr a marchogion barchu diogelwch cerddwyr, ond dylai cerddwyr hefyd ofalu peidio â'u rhwystro na'u peryglu.

Dilynwch arwyddion lleol a chadwch at lwybrau wedi'u marcio

Defnyddiwch fapiau ac arwyddion lleol i'ch helpu i ddod o hyd i'ch ffordd. Arhoswch ar lwybrau sydd wedi'u marcio, hyd yn oed os ydynt yn fwdlyd, oni bai bod mynediad ehangach ar gael, megis ar dir mynediad agored ac ar dir comin. Mae hyn yn helpu i ddiogelu cnydau a bywyd gwyllt.

Dewch i adnabod yr arwyddion a'r symbolau a ddefnyddir yng nghefn gwlad. Maen nhw’n eich helpu i nodi llwybrau’r gwahanol ddefnyddwyr drwy gefn gwlad.

Defnyddiwch giatiau, camfeydd neu fylchau mewn ffiniau caeau lle gallwch chi. Gall dringo dros ffiniau achosi difrod a rhoi da byw mewn perygl.

Cysylltwch â'r awdurdod lleol os ydych chi'n meddwl bod arwydd yn anghyfreithlon neu'n gamarweiniol. Er enghraifft, arwydd 'preifat - dim mynediad' ar lwybr troed cyhoeddus.

Diogelwch yr amgylchedd

  • ewch â'ch sbwriel adref – peidiwch â gadael unrhyw ôl o'ch ymweliad
  • peidiwch â chynnau tân - barbeciws yn unig os bydd arwyddion yn caniatáu hynny
  • cadwch gŵn dan reolaeth ac yn y golwg bob amser
  • baw cŵn – bagiwch a biniwch mewn unrhyw fin gwastraff cyhoeddus neu ewch ag ef adref
  • gofalwch am natur – peidiwch ag achosi difrod nac aflonyddwch

Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ddiogelu ein cefn gwlad a'n mannau agored ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Gofalwch am natur – peidiwch ag achosi difrod nac aflonyddwch. Gadewch greigiau, planhigion neu goed fel y maen nhw a gofalwch nad ydych yn tarfu ar fywyd gwyllt, gan gynnwys adar sy’n nythu ar y ddaear..

Peidiwch ag amharu ar adfeilion a safleoedd hanesyddol – mae ein treftadaeth mewn amgylchedd naturiol ac adeiledig yn bwysig.

Ewch â'ch sbwriel adref – peidiwch â gadael unrhyw ôl o'ch ymweliad

Cofiwch fynd â bag gyda chi ac ewch â'ch sbwriel a'ch gwastraff bwyd adref, defnyddiwch finiau cyhoeddus neu ailgylchwch os oes modd. Mae sbwriel yn difetha harddwch cefn gwlad a gall fod yn beryglus i fywyd gwyllt a da byw. Mae gollwng sbwriel a dympio gwastraff yn droseddau.

Peidiwch â chynnau tân - barbeciws yn unig os bydd arwyddion yn caniatáu hynny

Byddwch yn ofalus gyda fflamau agored a sigaréts. Defnyddiwch farbeciws dim ond pan fydd arwyddion yn nodi eu bod yn cael eu caniatáu. Diffoddwch eich barbeciw bob amser, gwnewch yn siŵr bod y lludw yn oer a gwaredwch y lludw’n gyfrifol. Gall tanau fod mor ddinistriol i fywyd gwyllt a chynefinoedd ag y maent i bobl ac eiddo.

Defnyddir tanau dan reolaeth gan rai rheolwyr tir i reoli llystyfiant, yn enwedig ar rostiroedd a gweundiroedd rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth. Ffoniwch 999 os gwelwch dân nad yw’n cael ei oruchwylio.

Cadwch gŵn dan reolaeth ac yn y golwg bob amser

Mae cefn gwlad, parciau a’r arfordir yn lleoedd ardderchog i ymarfer eich ci ond mae’n rhaid i chi ystyried defnyddwyr eraill a bywyd gwyllt.

Cadwch eich ci dan reolaeth effeithiol i sicrhau ei fod yn aros i ffwrdd o fywyd gwyllt, da byw, ceffylau a phobl eraill oni bai ei fod yn cael ei wahodd. Dylech chi:

  • gadw eich ci ar dennyn neu yn y golwg bob amser
  • bod yn hyderus y bydd eich ci yn dychwelyd ar eich gorchymyn
  • gwneud yn siŵr nad yw'n crwydro o'r llwybr neu'r ardal lle mae gennych hawl mynediad

Edrychwch ar arwyddion lleol bob amser gan fod sefyllfaoedd pan fydd yn rhaid i chi gadw'ch ci ar dennyn drwy gydol y flwyddyn neu am ran o’r flwyddyn. Gall ardaloedd lleol hefyd wahardd cŵn yn gyfan gwbl, ac eithrio cŵn cymorth. Bydd arwyddion yn rhoi gwybod i chi am y cyfyngiadau lleol hyn.

Ar yr arfordir, efallai y bydd gofyn i chi gadw'ch ci ar dennyn yn ystod tymor bridio adar, ac i rwystro’r ci rhag tarfu ar heidiau o adar sy’n gorffwys neu’n bwydo ar adegau eraill o’r flwyddyn.

Mae'n arfer da ble bynnag yr ydych i gadw'ch ci ar dennyn o amgylch da byw.

Ar dir mynediad agored, rhaid i chi roi eich ci ar dennyn o amgylch da byw. Rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf, rhaid i chi roi eich ci ar dennyn ar dir mynediad agored, hyd yn oed os nad oes da byw ar y tir. Mae'r rhain yn ofynion cyfreithiol.

Gall ffermwr saethu ci sy'n ymosod ar dda byw neu'n mynd ar eu holau. Efallai na fyddant yn atebol i ddigolledu perchennog y ci.

Gadewch eich ci oddi ar y tennyn os ydych chi'n teimlo dan fygythiad oherwydd da byw neu geffylau. Peidiwch â mentro cael eich brifo wrth amddiffyn eich ci; bydd rhyddhau eich ci yn ei gwneud yn haws i'r ddau ohonoch gyrraedd lle diogel.

Mae’r Cod Cerdded Cŵn yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi.

Baw cŵn – bagiwch a biniwch mewn unrhyw fin gwastraff cyhoeddus neu ewch ag ef adref

Glanhewch ar ôl eich ci bob amser oherwydd gall baw ci achosi salwch mewn pobl, da byw a bywyd gwyllt.

Peidiwch byth â gadael bagiau baw cŵn, hyd yn oed os ydych yn bwriadu eu codi'n ddiweddarach. Gall bagiau a chynwysyddion â diaroglyddion wneud bagiau baw cŵn yn haws i'w cario. Os na allwch chi ddod o hyd i fin gwastraff cyhoeddus dylech fynd ag ef adref a defnyddio eich bin eich hun.

Mwynhewch yr awyr agored

  • cadarnhewch eich llwybr a'r amodau lleol
  • cynlluniwch eich antur – dylech wybod beth i'w ddisgwyl a beth allwch chi ei wneud
  • mwynhewch eich ymweliad, gan gael hwyl a chreu atgofion

Mae'r awyr agored yn wych ar gyfer ein lles. Mae'n lle ar gyfer ymlacio, heddwch a gweithgarwch. Beth bynnag rydych chi’n hoff o’i wneud yn yr awyr agored, byddwch yn ei fwynhau'n fwy os byddwch yn paratoi ymlaen llaw.

Cadarnhewch eich llwybr a'r amodau lleol

Cyfeiriwch at fapiau, canllawiau neu wefannau cyfredol cyn i chi ddechrau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn adnabod eich llwybr a bod gennych y mapiau sydd eu hangen arnoch.

Gallwch ddod o hyd i gyngor ar weithgareddau arbenigol gan grwpiau hamdden awyr agored. Gall gwefannau fel GetOutside, VisitBritain neu CroesoCymru ddarparu rhestr o’r grwpiau hyn. Gall canolfannau gwybodaeth hefyd roi syniadau a chyngor ichi.

Edrychwch ar amodau tywydd, y llanw a dŵr

Edrychwch ar ragolygon y tywydd cyn i chi adael. Gall amodau newid yn gyflym ar fynyddoedd ac ar hyd yr arfordir. Peidiwch â bod ofn troi'n ôl os bydd y tywydd yn troi pan fyddwch chi allan yn crwydro.

Edrychwch ar amseroedd llanw cyn i chi adael er mwyn lleihau’r risg o gael eich torri i ffwrdd wrth i’r llanw godi. Yn ogystal â’r môr, mae newid yn y llanw yn effeithio ar rai afonydd hefyd. Byddwch yn ofalus ar greigiau llithrig a gwymon.

Edrychwch ansawdd ac amodau dŵr os ydych yn bwriadu mynd i badlo, nofio neu fwynhau’r dŵr.

Cynlluniwch eich antur – dylech wybod beth i'w ddisgwyl a beth allwch chi ei wneud

Dywedwch wrth rywun arall ble rydych chi'n mynd a phryd rydych chi'n disgwyl bod yn ôl. Efallai na fyddwch yn gweld unrhyw un am oriau ac mae signalau ffôn yn annibynadwy mewn llawer o leoedd.

Chi sy'n gyfrifol am eich diogelwch eich hun, ac eraill yn eich gofal. Gwnewch yn siŵr bod gennych y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich gweithgaredd.

Paratowch ar gyfer peryglon naturiol gan gynnwys newidiadau i'r tywydd er mwyn aros yn ddiogel. Gofalwch eich bod yn cymryd y dillad a'r offer cywir ar gyfer y gweithgareddau rydych chi wedi cynllunio’u gwneud.

Byddwch yn hyblyg rhag ofn y bydd angen i chi newid eich cynlluniau os yw rhai mannau’n brysur.

Hawliau a chaniatâd

Mae'r cod hwn yn nodi gwybodaeth am hawliau gwahanol ddefnyddwyr. Ar gyfer rhai gweithgareddau efallai y bydd angen i chi gael caniatâd gan y tirfeddiannwr, gan gynnwys:

  • gwersylla
  • nofio dŵr croyw
  • pysgota dŵr croyw

Mwynhewch eich ymweliad, gan gael hwyl a chreu atgofion

Dysgwch arwyddion a symbolau cefn gwlad

Dyma’r symbolau a ddefnyddir yng nghefn gwlad:

Llwybrau Troed Cyhoeddus

Saeth felen

Ar agor i gerddwyr a phobl sy’n defnyddio offer symud.

Wedi eu cyfeirbwyntio â saeth felen.

Llwybrau Ceffyl

Saeth las

Ar agor i gerddwyr, pobl sy’n defnyddio offer symud, beicwyr a phobl sy’n marchogaeth ceffylau.

Wedi eu cyfeirbwyntio â saeth las.

Cilffyrdd Cyfyngedig

Saeth borffor

Ar agor i gerddwyr, pobl sy’n defnyddio offer symud, beicwyr, pobl sy’n marchogaeth ceffylau a cherbydau sy’n cael eu tynnu gan geffylau.

Wedi eu cyfeirbwyntio â saeth borffor.

Cilffyrdd sydd ar Agor i bob Traffig

Saeth goch

Ar agor i gerddwyr, pobl sy’n defnyddio offer symud, beicwyr, pobl sy’n marchogaeth ceffylau, cerbydau sy’n cael eu tynnu gan geffylau a cherbydau modur.

Wedi eu cyfeirbwyntio â saeth goch.

Llwybrau Cenedlaethol

Mesen

Ar agor i gerddwyr a phobl sy’n defnyddio offer symud. Mae rhai rhannau hefyd yn addas i feicwyr a phobl sy’n marchogaeth ceffylau.

Wedi eu cyfeirbwyntio â mesen.

Llwybr Arfordir Cymru

Cragen wen

Ar agor i gerddwyr a phobl sy’n defnyddio offer symud. Mae rhai rhannau hefyd yn addas i feicwyr a phobl sy’n marchogaeth ceffylau.

Wedi ei gyfeirbwyntio â chragen wen.

Tir Mynediad Agored

Ffigwr brown

Ar agor i gerddwyr a phobl sy’n defnyddio offer symud.

Wedi ei gyfeirbwyntio â ffigwr brown.

Tir Mynediad Cyhoeddus yw mynyddoedd, rhostir, gweundir, twyndir a thir comin sydd wedi ei gofrestru (ac wedi ei fapio o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000) sydd ar gael i’w ddefnyddio heb orfod aros ar lwybrau.

Diwedd y Tir Mynediad Agored

Ffigwr wedi’i groesi

Mae’n nodi diwedd mynediad at ardal, er bod hawliau eraill efallai’n bodoli – e.e. hawliau tramwy cyhoeddus.

Wedi ei gyfeirbwyntio â ffigwr brown wedi’i groesi.

Llwybrau Caniataol

Dilynwch gyngor ar arwyddion lleol gan fod perchnogion tir yn darparu mynediad i'r llwybrau hyn yn wirfoddol ac yn dewis pwy all eu defnyddio. Mae rhai ardaloedd mynediad agored hefyd ar gael yn yr un modd.

Lluniwyd y canllawiau hyn ar y cyd â Natural England.

I roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol, ffoniwch ni ar 0300 065 3000 (24 awr).

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf