Sut y byddwn yn gwerthuso eich model hydrolig

Mathau o fodelau risg llifogydd

Mae'r dudalen hon yn egluro sut rydym yn gwerthuso modelau hydrolig o safbwynt perygl llifogydd o afonydd ac o'r môr. Nid yw'n cwmpasu sut ydym yn gwerthuso modelau o safbwynt ffynonellau eraill o lifogydd.

A oes angen i chi gyflwyno model?

Mewn rhai achosion, er enghraifft y canlynol, ni fydd angen i chi gyflwyno model.

  • datblygiadau â risg isel iawn neu weithgarwch perygl llifogydd â risg isel iawn (mae'n bosibl mai cyfrifiadau syml yn unig y bydd eu hangen arnoch heb orfod defnyddio meddalwedd modelu)
  • os yw'r model yn cefnogi cynnig cynllunio sy'n gwrthdaro â pholisi cynllunio cenedlaethol (bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn gwneud penderfyniad heb ein cyngor ni, oni bai ei fod yn gofyn amdano)
  • os ydym yn penderfynu nad yw eich model yn addas i'r diben heb ddarllen eich adroddiad model (er enghraifft, ystyrir nad yw'n addas i'r diben os ydym yn berchen ar y model ond heb ei drwyddedu ar gyfer ei ddefnyddio)
  • os gallwn gymharu allbynnau model sy'n deillio o ddatblygiadau neu weithgareddau tebyg yn yr un ardal, a'n bod yn barnu ei fod yn addas i'r diben heb wneud gwerthusiad canolradd neu fanwl ohono

Yn yr achosion hyn, byddwn yn eich cynghori ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud, yn hytrach na gwerthuso'r model.

Gwerthuso eich model

Pan fyddwch yn cyflwyno model risg llifogydd hydrolig, rydym yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar risg i benderfynu'r canlynol:

  • pa fodelau i'w gwerthuso
  • y lefel o fanylder y mae angen i ni ei gwerthuso

Drwy ddilyn dull sy'n seiliedig ar risg o werthuso modelau, rydym yn gwneud y canlynol:

  • gwneud gwerthusiad cychwynnol er mwyn deall a yw'r model yn addas i'r diben
  • sicrhau bod y gwerthusiad yn briodol o ran lefel y perygl llifogydd o amgylch datblygiad, gweithgarwch perygl llifogydd, neu gynllun llifogydd
  • ystyried yr effeithiau o gwblhau gwerthusiad llai manwl – er enghraifft, a allwn wneud penderfyniad cynllunio gwybodus?

Pennu'r lefel o fanylder ar gyfer gwerthuso'ch model

Bydd ein gwerthusiad o'ch model yn:

  • sylfaenol
  • canolradd
  • manwl

Rydym yn ystyried y lefel o fanylder, a faint o sicrwydd y bydd angen i chi eu darparu drwy roi sylw i'r canlynol:

  • yr hyn rydych yn defnyddio'r model ar ei gyfer – er enghraifft, er mwyn llywio penderfyniad cynllunio?
  • lefel y perygl llifogydd yn yr ardal rydych wedi'i modelu (tebygolrwydd a chanlyniadau)
  • effaith llifogydd oddi ar safle eich datblygiad neu weithgaredd

Tebygolrwydd llifogydd

Yn gyffredinol, bydd angen i ni werthuso i lefel fanylach po fwyaf y tebygolrwydd y bydd llifogydd yn digwydd.

Canlyniadau llifogydd

Nid oes unrhyw ddull cyson cenedlaethol o ddiffinio canlyniadau llifogydd. Byddwn yn ystyried y canlynol:

  • graddfa'r datblygiad
  • natur y datblygiad
  • y safleoedd sydd mewn perygl o lifogydd
  • llifogydd hanesyddol yn yr ardal
  • nodweddion llifogydd ar safle'r datblygiad ac oddi arno

Yn gyffredinol, bydd angen i ni werthuso i lefel fanylach po fwyaf yw'r datblygiad a'r mwyaf agored i niwed yw'r ardaloedd y mae llifogydd yn cael effaith arnynt.

Gwerthusiad sylfaenol

Fel rheol, rydym yn defnyddio gwerthusiad sylfaenol yn achos cynigion sy'n rhannu'r nodweddion canlynol:

  • arwynebedd o lai nag un hectar
  • ddim yn agored iawn i niwed (cynllunio datblygu) neu â risg isel (trwydded gweithgarwch perygl llifogydd)
    – wedi'u lleoli ym Mharth Llifogydd 2 (siawns o un ym mhob 1,000 y bydd llifogydd yn digwydd mewn unrhyw flwyddyn, gan gynnwys lwfans ar gyfer y newid yn yr hinsawdd)

Byddwn yn gwirio eich adroddiad model er mwyn sicrhau bod eich dulliau'n briodol a bod y model yn addas i'r diben.

Gwerthusiad canolradd

Fel rheol, rydym yn gwneud gwerthusiad sylfaenol ar gyfer cynigion sydd â'r nodweddion canlynol:

  • arwynebedd o lai nag un hectar
  • ddim yn agored iawn i niwed (cynllunio datblygu) neu sydd â risg isel (trwydded gweithgarwch perygl llifogydd)
    – wedi'u lleoli ym Mharth Llifogydd 3 (siawns o un ym mhob 100 y bydd llifogydd yn digwydd mewn unrhyw flwyddyn, gan gynnwys lwfans ar gyfer y newid yn yr hinsawdd)
  • yn agored iawn i niwed (cynllunio datblygu) neu â risg ganolig (trwydded gweithgarwch perygl llifogydd)
    – wedi'u lleoli ym Mharth Llifogydd 2 (siawns o un ym mhob 1,000 y bydd llifogydd yn digwydd mewn unrhyw flwyddyn, gan gynnwys lwfans ar gyfer y newid yn yr hinsawdd)
  • arwynebedd o fwy nag un hectar
    – wedi'u lleoli ym Mharth Llifogydd 2 (siawns o un ym mhob 1,000 y bydd llifogydd yn digwydd mewn unrhyw flwyddyn, gan gynnwys lwfans ar gyfer y newid yn yr hinsawdd)

Byddwn yn gwirio eich adroddiad model ac yn holi'r model a'r hydroleg. Os byddwn yn canfod unrhyw wallau, mae'n bosibl y byddwn yn penderfynu rhedeg y model ein hunain er mwyn gwneud ychydig o brofion sensitifrwydd sylfaenol.

Gwerthusiad manwl

Fel rheol, rydym yn gwneud gwerthusiad sylfaenol ar gyfer cynigion sydd â'r nodweddion canlynol:

  • arwynebedd o fwy nag un hectar
  • yn agored iawn i niwed (cynllunio datblygu) neu â risg uchel (trwydded gweithgarwch perygl llifogydd)
    – wedi'u lleoli ym Mharth Llifogydd 3 (siawns o un ym mhob 100 y bydd llifogydd yn digwydd mewn unrhyw flwyddyn, gan gynnwys lwfans ar gyfer y newid yn yr hinsawdd)
  • arwynebedd o fwy nag un hectar
    – wedi'u lleoli ym Mharth Llifogydd 3 (siawns o un ym mhob 100 y bydd llifogydd yn digwydd mewn unrhyw flwyddyn, gan gynnwys lwfans ar gyfer y newid yn yr hinsawdd)
  • datblygiad ar gyfer gwasanaethau brys

Byddwn yn gwirio eich adroddiad model ac yn holi'r model a'r hydroleg. Byddwn yn ail-redeg y model er mwyn deall eich allbynnau yn fanylach ac i ddeall sut y gwnaethoch ddatblygu'r model.

Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl i ni wirio sefydlogrwydd eich model a'r canlyniadau rydych wedi'u cyflwyno.

Mewn rhai achosion, mae'n bosibl na fydd gennym y feddalwedd ar gael i gynnal asesiad manwl o'ch model. Mewn achosion o'r fath, byddwn yn gwirio cymaint ohono â phosibl gyda chymorth yr ymgynghorydd a gynhyrchodd y model.

Costau gwerthuso modelau

Rydym yn codi tâl am gyngor cyn gwneud cais. 

Mae'n bosibl y codir tâl os ydych yn gofyn i ni adolygu eich model.

Ceir rhestr lawn o daliadau yn ein gwasanaeth i ddatblygwyr.

Diweddarwyd ddiwethaf