Arolwg o Wastraff Diwydiannol a Masnachol 2018
Casglwyd data o 1,755 o safleoedd busnes o wahanol sectorau a meintiau ledled Cymru rhwng mis Ebrill 2019 a mis Hydref 2019. Cafodd y data eu trosi’n ddata gros gan ddefnyddio data ynglŷn â phoblogaethau, hyd at lefelau rhanbarthol a chenedlaethol Cymru.
Y prif ganfyddiadau
- Amcangyfrifir bod sectorau diwydiannol a masnachol Cymru wedi cynhyrchu 2.9 miliwn o dunelli (metrig) o wastraff, sy'n ostyngiad o 22% (800k o dunelli) oddi ar gyfanswm y gwastraff a gynhyrchwyd (sef 3.7 miliwn o dunelli) ar sail yr arolwg blaenorol yn 2012
- Roedd 50% yn deillio o weithrediadau diwydiannol
- Roedd 50% yn deillio o weithrediadau masnachol
- Cafwyd cynnydd o 9 pwynt canran yng nghyfradd gyfun ‘paratoi i’w ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio’ o ran gwastraff diwydiannol a masnachol, o 58% i 67%, tra gostyngodd y gyfradd gwaredu ar dir yn sylweddol, o 26% i 11%
- Cynyddodd cyfanswm y gwastraff a losgir ar gyfer adfer ynni o 63k o dunelli yn 2012 (2% o'r cyfanswm) i 225k o dunelli (8% o'r cyfanswm)
Mathau o wastraff
Gwastraff cymysg oedd y math mwyaf sylweddol o wastraff diwydiannol a masnachol a gynhyrchwyd, gan gyfateb i 24%; yn y safle nesaf oedd papur a chardfwrdd, a gwastraff metelig, a oedd ill dau’n cyfateb i 15%; ac yna gwastraff anifeiliaid a llysiau, a oedd yn cyfateb i 11%.
Rheoli gwastraff
O ran sut y rheolwyd y gwastraff hwn:
- Ailgylchwyd 1.3 miliwn o dunelli, neu 45%
- Paratowyd 413 o filoedd o dunelli, neu 14%, i'w ailddefnyddio
- Gwaredwyd â 306 o filoedd o dunelli, neu 11%, drwy dirlenwi
- Anfonwyd 236 o filoedd o dunelli, neu 8%, i'w losgi
- Cafodd 218 o filoedd o dunelli, neu 8%, o’r gwastraff ei gompostio
- Cafodd 200 mil o dunelli, neu 7%, o’r gwastraff ei drin
- Anfonwyd 97 o filoedd o dunelli, neu 3%, ar gyfer adfer tir
- Gosodwyd y gweddill – sef 127 o filoedd o dunelli, neu 4% - yn nosbarth ‘arall’
Gwastraff peryglus
Amcangyfrifwyd bod 225 o filoedd o dunelli o wastraff peryglus wedi'i gynhyrchu gan ddiwydiant a byd masnach yn 2018, o gyfanswm o 2.9 miliwn o dunelli o wastraff a gynhyrchwyd (8%). Amcangyfrifwyd bod hyn yn ymrannu’n 137 o filoedd o dunelli o wastraff diwydiannol (61%) ac 88 mil o dunelli o wastraff masnachol (39%).
Y sectorau diwydiannol a oedd yn cynhyrchu'r swm mwyaf o wastraff peryglus diwydiannol oedd sector gweithgynhyrchu metelau sylfaenol, a chynhyrchion metel (46%); yn yr ail safle oedd sector gweithgynhyrchu dodrefn, gweithgynhyrchu o fathau eraill, a thrwsio a gosod (19%).
Darllen yr adroddiadau
Arolwg o Wastraff Diwydiannol a Masnachol a Gynhyrchir yng Nghymru 2018
Gwastraff diwydiannol a masnachol a gynhyrchwyd yng Nghymru yn 2018 (saesneg in unig)