Data gwybodaeth gwastraff Cymru 2013


Bydd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol i awdurdodau lleol, cyrff cynllunio rhanbarthol a busnesau sy'n ymwneud â chynllunio ar gyfer cyfleusterau gwastraff yn y dyfodol.

Mae'r ddogfen hon yn un o gyfres o adroddiadau blynyddol sy'n crynhoi ein data am wastraff. Gallwch ddod o hyd i dablau data manwl ar gyfer Cymru ar y dudalen hon.

Yn ystod 2013, gwnaeth cyfleusterau yng Nghymru reoli cyfanswm o 7.9 miliwn tunnell o wastraff. Ar ddiwedd 2013 roedd:

  • 31.3 miliwn metr ciwbig o gynhwysedd tirlenwi ar gael â 69% ohono ar gael mewn safleoedd masnachol heb fod yn beryglus
  • Oddeutu 10.7 mlynedd o oes tirlenwi ar ôl mewn safleoedd ar gyfer gwastraff heb fod yn beryglus yng Nghymru, ar gyfraddau mewnbwn 2013

Yn ystod 2013, cafodd dros 263,000 tunnell o wastraff peryglus ei gynhyrchu yng Nghymru, wedi'i gynhyrchu gan dros 9,000 o fusnesau a diwydiant, a chafodd dros 310,000 tunnell ei waredu yng Nghymru.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf