Beicio
Darganfod ble gallwch chi feicio yng Nghymru a...
Beth am fenthyg pecyn a darganfod mwy am yr awyr agored bendigedig
Mae ymwelwyr ifanc â dwy o ganolfannau ymwelwyr Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael cynnig help llaw i archwilio’r awyr agored bendigedig yr haf hwn.
Gallwch logi un o’n pecynnau darganfod rhad ac am ddim yn un o’r canolfannau ymwelwyr hyn:
Mae pob pecyn yn cynnwys offer defnyddiol fel binocwlars, chwyddwydr, potyn chwilod a chardiau adnabod natur, ynghyd ag arweiniad yn esbonio sut i’w defnyddio.
Mae’r pecynnau hefyd yn cynnwys ambell her i roi eich helfa natur ar waith.
Rhowch gynnig ar rwbio rhisgl, ewch ati i geisio adnabod adar, neu ewch i chwilio am fwystfilod bach yn y coedydd.
Ni chodir tâl am logi pecyn darganfod, ond gofynnir i riant neu oedolyn arall lenwi ffurflen gofrestru fer a gadael blaendal.
Bydd y pecynnau’n cael eu dosbarthu ar ôl ichi gyrraedd ac ni ellir eu neilltuo ymlaen llaw.
Beth bynnag yr ydych awydd ei wneud, byddwch yn siŵr o gael antur i’r holl deulu yn yr awyr agored bendigedig gydag un o’n pecynnau darganfod newydd!
Darllenwch mwy i gael rhagor o awgrymiadau gwych am ddyddiau allan i'r teulu yn yr awyr agored gwych.
Sylwer
Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.