Strategaeth Fasnachol 2021-2026
Rhagair
Mae Covid-19 wedi sbarduno newidiadau yn y ffordd rydyn ni’n byw o ddydd i ddydd – sut rydyn ni’n gweithio ac yn chwarae – mewn modd na fydden ni wedi ei ddychmygu ar ddechrau 2020.
Serch hynny, wrth i Gymru ddechrau dod ati ei hun wedi’r pandemig, mae busnesau ledled y wlad am geisio elwa ar gyfleoedd i fabwysiadu dulliau gwyrddach, mwy cynaliadwy yn eu gweithgareddau masnachol.
Mae CNC mewn lle perffaith i chwarae rhan allweddol yn ymdrechion Llywodraeth Cymru i ailadeiladu economi ôl-Covid-19 Cymru, wrth i ni weithio ar draws y gymdeithas er mwyn cyfrannu i’r eithaf at y genhadaeth genedlaethol o greu dyfodol mwy llewyrchus, gwyrdd a chyfartal i’r genedl.
Gall mabwysiadu agwedd wyrddach a mwy cynaliadwy at weithgareddau masnachol ein helpu i wneud mwy i’r amgylchedd ac i bobl ac economi Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Yn greiddiol i’n huchelgais a’n gweledigaeth mae creu incwm ar gyfer CNC drwy weithgareddau masnachol cynaliadwy, er mwyn i ni allu gwneud mwy dros Gymru o safbwynt lles amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol.
Mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau mai sail pob un o’n gweithgareddau masnachol yw gwerthoedd ein sefydliad, ein cyfrifoldeb i sicrhau rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol, yn ogystal â’n cyfrifoldeb ehangach i amcanion llesiant Cymru.
Mae ceisio adferiad yn sgil ein hymadawiad â’r UE a’r argyfyngau hinsawdd a natur sydd ohoni yn cynnig heriau a chyfleoedd y bydd yn rhaid i ni ymdrin â nhw’n llwyddiannus os ydym am gyflawni ein hymrwymiad i genedlaethau’r dyfodol.
Nawr yw’r amser i feddwl a gweithredu’n wahanol. Mae’n rhaid i ni fachu ar y cyfleoedd a’r syniadau newydd sy’n dod i’r amlwg o ganlyniad i’r ‘normal newydd’ er mwyn cydweithio i ddatblygu agwedd Gymreig unigryw tuag at uchelgais y genedl o weld economi wirioneddol gylchol.
Gan mai sicrhau ffyniant a budd i’r blaned a’i phobl yw sylfaen ein cenhadaeth, bydd agwedd CNC tuag at ei weithgareddau masnachol yn y dyfodol yn uchelgeisiol, wrth drafod cyfleoedd i weithio gyda’n partneriaid presennol a rhai newydd. Rydym wedi addunedu i fod yn ddewrach wrth archwilio marchnadoedd, rhwydweithiau a datblygiadau newydd.
Mae’r strategaeth hon yn disodli ein Cynllun Menter blaenorol ac yn rhoi amlinelliad o’n syniadau lefel-uchel o ran ein huchelgais a’n blaenoriaethau. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau’r gwerth gorau posib ar gyfer ein hadnoddau naturiol, er budd y bobl a’r economi, yn ogystal â’r amgylchedd, ar gyfer y genhedlaeth hon a’r un sydd i ddod.
Sarah Jennings
Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnach
Pwrpas ein strategaeth fasnachol
Mae’r strategaeth hon yn cyflwyno ein hagwedd tuag at sicrhau’r refeniw gorau posib ochr yn ochr â’n blaenoriaethau ar gyfer ‘Y Blaned’ a’r ‘Bobl’ drwy weithgareddau mwy masnachol.
Rydym eisoes yn rheoli ein gweithgareddau masnachol yng nghyd-destun Amcanion Llesiant CNC ac o fewn y cylch gwaith i gyflawni yn erbyn egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (RhANG neu SMNR yn Saesneg).
Ond ein dyhead yw gwneud rhagor, bod yn well, a sicrhau bod Cymru ar flaen y gad wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd. Nid bod yn fasnachol er mwyn bod yn fasnachol yw ein nod; mae ein strategaeth yn uchelgeisiol ac nid ydym yn ofni syniadau ac egwyddorion sylweddol.
Sylweddolwn fod gennym rôl bwysig i’w chwarae o safbwynt adferiad economaidd gwyrdd Cymru yn dilyn y pandemig Covid-19 ac rydym yn credu fod datblygiadau cynaliadwy a chefnogi economi gylchol yn allweddol i sicrhau adferiad a llwyddiant Cymru i’r dyfodol.
Mae CNC yn wynebu heriau yn sgil y gofynion cynyddol ar ein gwasanaethau a chyfyngiadau pellach ar ein hadnoddau. O’r herwydd, mae mwy o angen i ni gynhyrchu ein refeniw ein hunain.
Gyda’r mecanwaith cywir ac os y gallwn gynnal ein hincwm ein hunain, gall gweithgareddau masnachol fod o gymorth i leihau’r ddibyniaeth ar nawdd Grant in Aid a’n galluogi ni i wneud mwy dros yr amgylchedd a thros bobl Cymru.
Mae’r Strategaeth Fasnachol hon yn cynnig fframwaith newydd o amgylch amcanion a dyheadau tymor hir portffolio cyfan CNC. Mae’n ddogfen fyw, sy’n cael ei diweddaru’n flynyddol er mwyn sicrhau bod y fframwaith yn hyblyg ac yn gallu esblygu i gyd-fynd â deddfwriaethau a pholisïau cyfredol ac amgylchedd masnachol sy’n newid yn barhaus. Fe’i cefnogir gan gynlluniau manylach, sector-benodol, sydd mewn gwell sefyllfa i ystyried gofynion sy’n benodol i’r diwydiant ac ystyriaethau masnachol ar gyfer y dyfodol agos.
Cafwyd adborth gan ein rhanddeiliaid a’n partneriaid sy’n dangos eu bod yn gytûn ynglŷn â’r hyn yr hoffent ei weld o safbwynt gweithgareddau masnachol CNC yn ystod y pum mlynedd nesaf ac rydym wedi mabwysiadu hynny yn ein cynlluniau strategol:
- Mae angen cynyddol i roi’r un pwylais ar y blaned a’r bobl ag sy’n cael ei roi ar elw.
- Creu agwedd sy’n fwy cyfeillgar tuag at fusnesau a chwsmeriaid, a gweithdrefnau llywodraethu mwy hyblyg.
- Diwylliant rhagweithiol nid adweithiol.
- Pwyslais ar greu Cymru ‘ryngwladol’ er mwyn hybu buddsoddiad a gwella’r economi ymwelwyr.
- Agwedd fwy ystyrlon tuag at anghenion, gofynion a chyfleoedd wedi’u seilio ar le.
Felly, wrth i’r cyd-destun yr ydym yn gweithredu oddi mewn iddo newid, ac wrth i ddiwydiannau a marchnadoedd allanol esblygu, felly hefyd y bydd y cynllun hwn yn newid ac esblygu, gan ystyried tystiolaeth a thrwy wrando o ddifri ar ein cydweithwyr a’n rhanddeiliaid ehangach.
Y cyd-destun presennol
Covid-19
Wrth i’r strategaeth hon gael ei datblygu, bwriwyd Cymru a gweddill y byd gan y pandemig Covid-19. Mae effaith y clefyd ar yr economi eto i’w bennu’n llawn ac mae’n sicr o effeithio ar wahanol ddiwydiannau mewn ffyrdd gwahanol. Mae CNC wedi ymrwymo i weithio’n gall er mwyn i ni allu ymroi a chyfrannu at economi Cymru a chanolbwyntio ar adferiad gwyrdd. Mae’n rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod yn wydn ein cynigion a’n marchnadoedd, er mwyn i ni allu lliniaru heriau’r economi yn y dyfodol.
Gadael yr UE
Mae debygol y bydd ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd yn cynnig heriau yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer datblygiad masnachol yng Nghymru. Wrth ysgrifennu’r ddogfen hon, nid yw’r effaith ar y gwasanaethau a ddarperir gan CNC yn glir byth. Efallai na chawn wybod beth fydd ei effaith gyflawn am flynyddoedd lawer. Rydym ni’n credu mai’r ffordd orau i ni ymateb yw drwy barhau â’n gwaith creiddiol a pheidio ymatal rhag datblygu na meithrin partneriaethau newydd. Cred CNC fod hyn yn neges bositif i Gymru a’i busnesau, gyda llawer o’r diwydiannau hynny’n ddibynnol iawn ar y gadwyn gyflenwi leol. Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac yn parhau i dderbyn arweiniad ynglŷn â hyn gan Lywodraethau’r DU a Chymru.
Cyd-destun gweithgareddau masnachol CNC
Gweledigaeth a gwerthoedd
Ein gweledigaeth a’n gwerthoedd yw craidd ein sefydliad a’r ffordd yr ydym yn gweithredu ein hamcanion. Maent yn fraslun o’r hyn sy’n bwysig i ni a’r safonau yr ydym yn ymgyrraedd atynt.
Ein gweledigaeth yw sicrhau bod amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal a’u cadw’n gynaliadwy, eu cyfoethogi’n gynaliadwy a’u defnyddio’n gynaliadwy, heddiw ac yn y dyfodol.
Dyma werthoedd #TîmCNC:
- Teimlo’n angerddol am amgylchedd naturiol Cymru
- Gofalu am gyd-ddyn a chydweithwyr
- Gweithredu’n onest
- Gwneud gwahaniaeth heddiw ac ar gyfer y dyfodol
- Teimlo’n falch o allu gwasanaethau pobl Cymru
Ein hamcanion lles
Mae saith amcan lles yn greiddiol i’n holl waith.
Dyma nhw:
- Hyrwyddo amgylchedd Cymru a sut i reoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy
- Sicrhau bod tir a dŵr Cymru yn cael eu rheoli’n gynaliadwy ac mewn modd integredig
- Gwella ansawdd a gwydnwch ein hecosystemau
- Lleihau’r risg i bobl a chymunedau yn sgil peryglon amgylcheddol megis llifogydd a llygredd
- Helpu pobl i fyw bywydau llawn ac iach
- Hybu busnesau llwyddiannus a chyfrifol, gan ddefnyddio adnoddau naturiol ond heb eu niweidio
- Datblygu CNC i fod yn sefydliad heb ei ail sy’n cynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf i gwsmeriaid.
Ein rolau
Mae gan CNC gyfrifoldebau amrywiol ac eang iawn. Mae’n rhaid i’n gweithgareddau masnachol fynd law yn llaw â’r cyfrifoldebau hyn, gan gyfoethogi a chefnogi ein hamcanion cyffredinol a chydweithio â’r sefydliad cyfan.
Dyma sut y gellir disgrifio ein rolau gwahanol:
Cynghorydd: prif gynghorydd Llywodraeth Cymru, cynghorydd diwydiannau a’r sector gyhoeddus a gwirfoddol ehangach, a chyfathrebwr ynghylch materion sy’n ymwneud â’r amgylchedd a’i adnoddau naturiol
Rheoleiddiwr: yn amddiffyn pobl a’r amgylchedd, gan gynnwys y diwydiannau morol, coedwigaeth a gwastraff, ac yn erlyn y rhai sy’n torri’r rheolau yr ydym ni’n gyfrifol amdanynt
Darparwr: Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig – ardaloedd sydd o werth arbennig oherwydd y bywyd gwyllt neu’r ddaeareg, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), a Pharciau Cenedlaethol, yn ogystal â phennu Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
Ymatebydd: i ryw 9,000 o adroddiadau am ddigwyddiad amgylcheddol y flwyddyn, yn ymatebwr brys Categori 1
Ymgynghorydd statudol: i oddeutu 9,000 o geisiadau adeiladu y flwyddyn
Rheolwr/Gweithredwr: yn rheoli saith y cant o arwynebedd tir Cymru, gan gynnwys coedwigoedd, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, amddiffynfeydd dŵr a llifogydd, a gofalu am ein canolfannau ymwelwyr, adnoddau hamdden, deorfeydd a labordai
Partner, Addysgwr a Galluogwr: prif gydweithredwr â’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, yn darparu cymorth grantiau a chynorthwyo amrediad eang o bobl i ddefnyddio’r amgylchedd fel adnodd dysgu; yn gatalydd i waith eraill
Casglwr tystiolaeth: yn monitro ein hamgylchedd, comisiynu ac ymgymryd â gwaith ymchwil, datblygu ein gwybodaeth, a bod yn gorff cofnodion cyhoeddus
Cyflogwr: i bron 1,900 o staff, yn ogystal â chefnogi eraill sy’n cyflogi drwy gyfrwng gwaith ar gytundeb.
Polisi a fframwaith gyfreithiol
Nod creiddiol CNC yw ceisio rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy a chydymffurfio â’n dyletswyddau statudol wrth wneud ein gwaith.
Mae’n rhaid i holl weithgareddau masnachol CNC gydymffurfio â rheolau a deddfwriaethau perthnasol y DU a’r UE, polisïau a gweithdrefnau Llywodraeth Cymru a CNC, ac os yn briodol, rheolau gwirfoddol megis ardystiad annibynnol Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru (YCLlC).
Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (CNLC), mae’n rhaid i holl weithgareddau masnachol CNC fodloni’r gofynion a ddisgwylir gan gyrff cyhoeddus yn llawlyfr y Llywodraeth “Classification of Public Bodies: Information and Guidance”.
Er bod nifer o ddeddfau a pholisïau sy’n berthnasol o safbwynt llywodraethu gwaith CNC, mae dwy Ddeddf sy’n benodol ar gyfer Cymru: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 sy’n cyffwrdd â holl waith y tîm masnachol.
Yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a chyda’i gilydd, ac atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd. Mae’n rhaid i bob corff cyhoeddus ddatblygu Amcanion Llesiant sy’n cael eu hadolygu’n gyson a’u cyhoeddi mewn Datganiad Llesiant.
Nod Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yw hybu a gweithredu egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (RhANG neu SMNR yn Saesneg) ledled Cymru.
Mae’r ddwy Ddeddf wedi’u gosod yn agos at ei gilydd, gydag egwyddorion RhANG yn dilyn y pum dull gweithredu a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015:
- Meddwl hirdymor
- Atal
- Integreiddio
- Cydweithio
- Cynnwys
Drwy gydol datblygiad y strategaeth hon mae CNC wedi bod yn ymwybodol o’r pum dull hwn o weithio ac rydym wedi ystyried pob un yn ofalus wrth ddatblygu ein hamcanion cyffredinol.
Nid yw’r ddwy Ddeddf yma’n caniatáu i CNC gyflawni unrhyw weithgaredd masnachol y dymuna, dim ond y rhai sydd o fewn y cylch gwaith a nodwyd gan Lywodraeth Cymru. Byddai angen i Lywodraeth Cymru naill ai newid y ddeddfwriaeth neu roi’r awdurdod dirprwyedig angenrheidiol i CNC petaem yn dymuno cyflawni unrhyw weithgareddau masnachol y tu hwnt i’n pwerau cyfreithiol presennol, ar yr amod ei fod o fewn awdurdod Llywodraeth Cymru i wneud hynny.
Er mwyn cyflawni gweithgareddau masachol, mae’n rhaid i ni ddarparu ar gyfer a gweithio oddi mewn i holl bolisïau a strategaethau cyfredol CNC, gan sicrhau cysondeb yn ein dulliau gweithredu ac yn ein cyfraniad cyffredinol tuag at amcanion llesiant y sefydliad.
Dyma rai o’r dogfennau mwyaf perthnasol:
- Adferiad gwyrdd: archwilio’r sector amgylcheddol yng Nghymru. Ymateb ar y cyd i bandemig Covid-19 sy’n canolbwyntio ar egwyddorion adferiad gwyrdd, a gwerthoedd a blaenoriaethau ar y cyd.
- Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol Cymru (SoNaRR): Yn un o ofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae’r adroddiad hwn yn asesu sut mae Cymru’n gweithredu o safbwynt rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
- Datganiadau Ardal. Dyma un arall o ofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016; mae’r datganiadau yma’n mabwysiadu dulliau gweithredu sy’n canolbwyntio ar ardaloedd penodol a’u hanghenion lleol, gan rannu Cymru’n saith ardal gweithredu.
- Coetiroedd i Gymru. Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Coetiroedd a Choed yng Nghymru, sy’n cael ei diweddaru bob pum mlynedd.
- Ynni Cymru: Trawsnewidiad Carbon Isel. Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno polisi ynni a dull Llywodraeth Cymru o sicrhau economi carbon isel.
Ein hegwyddorion masnachol
Yr egwyddorion canlynol fydd yn llywio’r modd y byddwn yn cyflawni’r strategaeth hon.
- Bydd CNC yn ystyried y mesurau perfformiad cywir a fydd yn darparu’r paramedrau priodol i weithgareddau masnachol weithredu o’u mewn.
- Bydd CNC yn datblygu rhaglenni masnachol gyda dealltwriaeth o’r marchnadoedd y maent yn gweithredu ynddynt ac yn ymgysylltu’n briodol â sectorau masnachol y mae CNC yn gweithredu ac yn chwarae rhan amlwg ynddynt.
- Ble bynnag y bydd gan CNC ryddid dewis (Mewn rhai amgylchiadau, mae’n ofynnol i CNC weithio gyda thrydydd parti sydd â diddordeb cyfreithiol cyfredol neu gytundebol mewn tir sy’n cael ei reoli gan CNC, neu dir sy’n ffinio. Gall sefyllfaoedd godi hefyd pan fydd angen i CNC gynnig gwaith contract drwy gyfrwng fframwaith cytundebau Llywodraeth Cymru.) bydd yn dyfarnu contractau a chytundebau masnachol eraill drwy gystadleuaeth deg ac agored, gan ddefnyddio meini prawf a ddiffinnir yn glir a’u gwerthuso’n dryloyw a thrwy osgoi cystadleuaeth annheg.
- Bydd CNC yn galluogi ac yn hwyluso cyfleoedd yn rhagweithiol ac yn annog cystadlaethau drwy eu cynnig ar ystod o raddfeydd lle bo hynny’n ymarferol, a mynd ati i annog gwahanol ddarpariaethau lle bo hynny’n effeithiol.
- Bydd CNC yn osgoi cael effaith andwyol ar sectorau busnes drwy gystadleuaeth annheg, gan weithio i sicrhau’r gwerth gorau ac adfer costau llawn mewn pryd bob amser.
- Bydd CNC yn parhau i gydymffurfio â rheolau Cymorth Ariannol yr UE drwy gyfuniad o’r mesurau uchod a thrwy chwilio am gyngor pan nad yw’n eglur, er mwyn osgoi torri rheolau.
- Pan fydd CNC yn cynnig gwasanaeth unigryw, ni fydd CNC yn manteisio ar ddiffyg cystadleuaeth ac fe fydd yn sicrhau mai elw rhesymol fydd ynghlwm wrth y costau. Nid oes gan CNC fonopoli ar unrhyw wasanaeth ac mae’n croesawu cystadleuaeth.
- Bydd CNC yn sicrhau llywodraethiant mewnol effeithiol yng nghyswllt datblygu gweithgareddau masnachol ac asesiadau parhaus yn erbyn mesurau ariannol a pherfformiad.
- Bydd adroddiadau CNC yn ymwneud â mesurau perfformiad a data ariannol yn gywir a gonest. Bydd adroddiadau ariannol yn nodi gorsymiau net, a hefyd dangosyddion ariannol allweddol eraill yn ddibynnol ar y model gweithredu a ddefnyddir. Pan fydd mesurau perfformiad yn arwain CNC at ddarparu budd cyhoeddus neu amgylcheddol pellach, bydd CNC yn asesu costau hynny er mwyn gallu ystyried y gost/budd.
- Wrth bwyso a mesur penderfyniadau buddsoddi ac achosion busnes ar gyfer gweithgareddau masnachol, bydd CNC yn mabwysiadu dull hirdymor, gydol oes a fydd yn cynnwys refeniw, costau staff a gwerthoedd cyfalaf.
Ein gweledigaeth fasnachol ac amcanion strategol
Ein gweledigaeth fasnachol
Planed, Pobl, Ffyniant: creu incwm i CNC drwy ddatblygiadau masnachol gwyrdd a chynaliadwy sy’n caniatáu i ni wneud mwy o gyfraniad at lesiant amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru.
Busnes Cylchol
Mae model busnes cylchol yn arddangos rhesymeg sut mae sefydliad yn creu, cyflawni a sicrhau gwerth i amrywiaeth ehangach o randdeiliaid tra bydd yn lleihau costau ecolegol a chymdeithasol.
Mae gan CNC Masnachol gyfrifoldeb i hwyluso a rhoi cyfleoedd i’n cwsmeriaid, cyflenwyr a rhanddeiliaid weithio gyda’i gilydd er mwyn canfod yr effeithlonrwydd adnoddau yma a chynorthwyo busnesau Cymru i anelu tuag at fodel busnes mwy cylchol.
Mae busnesau sy’n defnyddio egwyddorion cylchol ac yn dangos ymrwymiad pendant i’r agenda ‘Pobl, Planed a Ffyniant’ yn gweithio ar draws eu cadwyni cyflenwi er mwyn lleihau modelau busnes unionlin ac maent wedi dangos mwy o wytnwch mewn argyfwng hefyd.
Mae’r cwmnïau hyn yn:
- Casglu ynghyd o’r economi yn hytrach na chronfeydd ecolegol
- Ychwanegu gwerth i ddeunyddiau, cynnyrch a gwasanaethau sy’n bodoli eisoes
- Creu mewnbynnau gwerthfawr oddi wrth fusnesau y tu hwnt i’r cwsmer
Drwy ffurfio Rhwydwaith Fasnachol, bydd CNC Masnachol yn meithrin perthnasau ar draws busnesau rhwng bob sector ac yn darparu cyfle galluogi hanfodol er mwyn hybu’r dull cylchol.
Ein hamcanion masnachol strategol
Wrth ddatblygu ein gweledigaeth, byddwn yn canolbwyntio ar yr amcanion masnachol strategol canlynol:
- Arwain y ffordd yng Nghymru ac o fewn rheoli adnoddau naturiol drwy ymgorffori’r dulliau Planed, Pobl a Ffyniant (PPFf, neu 3P yn Saesneg) yn ein holl weithgareddau masnachol.
- O fewn y sectorau masnachol, creu lle cadarn i CNC fel brand y gellir ymddiried ynddo, sy’n agored i fusnes ac yn bartner masnachol cyfrifol.
- Cefnogi Adferiad Gwyrdd Cymru mewn modd gweithredol, a datblygu Marchnad Werdd ar gyfer Cymru.
- Chwilio am bartneriaethau, cynnyrch a chysyniadau newydd a fydd yn gyrru Cymru ymlaen ac yn sicrhau enw da o safbwynt datblygiad ar y llwyfan rhyngwladol.
- Arallgyfeirio ein dulliau masnachol a sicrhau’r budd gorau ar draws y cyrhaeddiad gorau posibl.
- Defnyddio ein hincwm i ailfuddsoddi wrth hyrwyddo’r Amcanion Llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn enwedig amcanion llesiant CNC.
Ein dulliau masnachol a meysydd ffocws
Ein dulliau masnachol
Er mwyn cyflawni ein hamcanion a bod o fudd i Gymru, mae angen i CNC sicrhau ein bod yn arloesol, modern, addas i’r pwrpas, ac yn bartner deniadol i’r rhai sy’n ystyried buddsoddi yng Nghymru.
Mae saith sector o fewn CNC sy’n creu incwm neu’n hwyluso effeithlonrwydd, gan gefnogi ein busnes i ailfuddsoddi a gwneud mwy dros yr amgylchedd.
Dyma’r sectorau hynny:
- Ynni
- Pren
- Twristiaeth a Hamdden
- Diwylliant
- Gwasanaethau Dadansoddi
- Caffael
- Datblygiadau busnes erail
Mae rhai o’r sectorau hyn wedi’u sefydlu’n gadarnach nag eraill ac mae gan nifer ohonynt gyfrifoldebau sy’n gorgyffwrdd neu a fydd yn gweithio’n agos â’i gilydd.
Mae’r strategaeth hon yn pontio’r holl feysydd hyn â disgwyliadau cyffredinol, waeth beth fo’u harbenigedd.
Hefyd o fewn y busnes ceir meysydd eraill sy’n creu incwm nad ydynt wedi’u lleoli o fewn y tîm masnachol, megis ein hadrannau caniatâd a hawliau. Mae’r rhain y tu allan i gwmpawd y strategaeth hon.
Ein meysydd ffocws
Credwn fod pum maes y dylem eu gwella sy’n hanfodol i’n llwyddiant.
Cyflawni mewn partneriaeth
Bydd angen cydweithio gyda phartneriaid o fewn CNC a chyda phartneriaid allanol er mwyn cyflawni’r strategaeth hon.
Asgwrn cefn ein rhagolygon strategol yw’r angen i ni fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. Rydym wrthi’n chwilio am bartneriaid sy’n rhannu ein gwerthoedd ac yn awyddus i gydweithio â ni wrth i ni hybu economi werdd a’n hagenda amgylcheddol. Er mwyn cyflawni hyn mae’n rhaid cael rhwydweithiau cryfach ledled Cymru a rhannu arferion da.
Rydym eisoes yn cydweithio gyda nifer o bartneriaid, megis Llywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfleoedd i ddatblygu’n gynyddol, ond rydym yn awyddus i gydweithio mwy gyda’n partneriaid presennol a rhai newydd er mwyn sicrhau atebion a rhannu profiadau ynglŷn â beth sy’n gweithio orau. Bydd ehangu ein rhwydweithiau cyfredol, a’r data a’r wybodaeth a ddaw yn eu sgil, yn gymorth i ddatblygu gweithgareddau masnachol cynaliadwy yn ogystal â chynnig posibiliadau masnachol eraill a all gyfoethogi cynigion a gwella’r lles a’r effaith a ddaw ohonynt.
Er mwyn hwyluso cydweithio mewn partneriaeth, mae CNC Masnachol yn addo cydymffurfio â’r dulliau canlynol (SOFT yn y Saesneg) ym mhob gweithrediad masnachol gyda rhanddeilaid a chwsmeriaid:
Rhannu: Yn anochel, mae rhannu gwybodaeth yn arwain at gydweithio a datblygu syniadau newydd. O’r herwydd, bydd CNC Masnachol yn rhannu gwybodaeth a chynnig adborth am ein llwyddiannau yn fwy uniongyrchol.
Bod yn agored: Byddwn yn barod i ystyried a hwyluso gwahanol ddulliau o fewn ein hamrywiol gyfleoedd datblygu masnachol, gweithio gyda rhanddeiliaid ar bob lefel, gan gynnwys busnesau mawr a bach, grwpiau cymunedol a sefydliadau trydydd sector.
Rhad ac am ddim: Byddwn yn parhau i sicrhau fod ystâd Llywodraeth Cymru yn dal i gynnig mynediad rhad ac am ddim i bobl Cymru.
Ymddiriedaeth: Bydd CNC yn dryloyw o ran ei ymrwymiadau ac yn atebol i bobl Cymru wrth weithredu ei agenda fasnachol.
Hyblygrwydd
Byddwn yn datblygu prosesau a llywodraethiant mwy hyblyg o fewn CNC er mwyn gallu datblygu syniadau a’u cyflwyno i’r farchnad ynghynt, a chydymffurfio â’n hymrwymiadau cyfreithiol wrth wneud hynny.
Mae gwella llwybrau i’r farchnad yn hanfodol os ydym am greu cadwyn gyflenwi gadarn sy’n gostwng allyriadau carbon a lleihau gwastraff. Mae potensial mawr i greu cynnyrch newydd drwy adeiladu ar yr hyn sydd gennym eisoes a marchnata hynny i farchnadoedd presennol neu rai newydd. Dyma faes allweddol o safbwynt datblygu economïau cylchol drwy ddefnyddio cadwyni cyflenwi lleol a gweithredwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.
Byddwn yn datblygu mwy o wybodaeth am y farchnad gan wneud defnydd helaeth o’r setiau data a thueddiadau marchnad sydd ar gael yn fewnol ac allanol. Er bod y byd yn gyfoethog iawn o safbwynt data, yr her yw gwybod beth sydd ar gael a ble, a sut y gallwn ddefnyddio’r wybodaeth sy’n addas ar gyfer ein gofynion ni. Bydd y gydberthynas rhwng setiau data sydd wedi’u hanelu at ragolygon y dyfodol yn gymorth i ni fod yn fwy rhagweithiol. Hoffem ganfod gwell ffyrdd o gyflwyno data a gwybodaeth am y farchnad, gan ei gwneud hi’n haws i bobl ddeall a hwyluso gwneud penderfyniadau.
Mesur
Mae Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) yn arf hanfodol ar gyfer asesu cynnydd parhaus yn ystod datblygiadau yn ogystal ag er mwyn sefydlu llwyddiant cyffredinol prosiect neu weithgaredd(au) masnachol. Bydd dewis y DPA cywir ar gyfer bob datblygiad, sicrhau bod y DPA yn cael eu mesur yn gywir, a safoni DPA er mwyn croes-gymharu â datblygiadau masnachol mewn sectorau eraill yn cynnig darlun clir iawn o’r hyn yr ydym yn ei wneud yn dda, beth sydd angen ei wella a pham mae prosiectau’n methu â chyrraedd rhai o’n prif amcanion.
Bydd DPA hefyd yn sicrhau ein bod yn gallu gweithredu’n sydyn i leihau risgiau, gwella effeithlonrwydd, gwneud arbedion a sicrhau gwerth am arian.
Byddwn yn archwilio modelau ariannu eraill a mecanweithiau cytundebol newydd a fydd yn cynnig amrywiadau a hyblygrwydd pellach ledled ein hystâd, gan annog partneriaid newydd i weithio â CNC a rhoi mwy o gyfleoedd masnachol i grwpiau llai.
Syniadau newydd
Os yw CNC yn mynd i gynnig enillion cynaliadwy fel cwmnïau eraill, bydd angen iddo fod yn arloesol ac yn gallu meddwl yn greadigol yn barhaus. Bydd hi’n hanfodol ystyried technoleg newydd a’r deunyddiau a modelau cyflenwi gwasanaeth wrth gefnogi mentrau i daclo’r argyfwng hinsawdd a natur, yn enwedig wrth ddatblygu economi gylchol well.
Bydd meddylfryd greadigol yn hybu twf y byd busnes yng Nghymru ac yn dangos bod cydweithio â CNC yn atyniadol iawn. Byddwn yn cyflawni uchelgais ehangach hefyd drwy dynnu’r sector adnoddau naturiol at ei gilydd i adnabod a thrafod materion cyffredin a chanfod atebion y gellir eu cyflawni.
Bydd traws-ffrwythloni technoleg a syniadau’n bwysig os am sicrhau llwyddiant. Er enghraifft, gellir trosglwyddo technoleg a fwriadwyd ar gyfer un sector i gael ei ddefnyddio mewn modd gwahanol mewn sector arall. Gall archwilio technoleg o sectorau eraill gyfoethogi a chreu cyfleoedd masnachol neu gynnig gwelliant uniongyrchol.
Wrth ystyried syniadau newydd, byddwn yn rheoli risgiau yn hytrach na’u hosgoi. Er bod rhai datblygiadau masnachol yn methu cyflawni’r hyn a obeithiwyd, ni ddylai hynny ein rhwystro rhag ystyried technoleg neu syniad newydd os ydym yn ymwybodol o’r risg ac yn gallu ei rheoli’n effeithiol.
Ein tri maen prawf llwyddiant fydd y triawd ‘Planed, Pobl a Ffyniant’, a bydd gofyn i ni arloesi yn y maes hwnnw.
Byddwn yn cefnogi busnesau newydd a buddsoddwyr gan ddefnyddio ein gwybodaeth fasnachol i hybu a chynghori busnesau newydd. Hefyd byddwn yn ysbrydoli cynnyrch a gwasanaethau newydd er mwyn rhoi cymorth i’r economi werdd dyfu.
Arallgyfeirio
Mae’r portffolio masnachol eisoes yn amrywiol, yn ymwneud â phren, ynni a gwasanaethau dadansoddi. Serch hynny, mae lle i arallgyfeirio ymhellach i faes twristiaeth a hamdden, y celfyddydau a diwylliant.
Efallai y bydd rhai o’r marchnadoedd hyn yn fach a’u helw ariannol yn fychan ar y dechrau. Serch hynny, bydd pobl, y blaned a thwf yr economi leol yn elwa’n fawr.
Mae’n hanfodol ein bod yn tyfu’n gyfrifol gyda phrosiectau a fydd yn cynnig buddion cynaliadwy gyda deilliannau amrywiol.
Gall cysylltu cynnig craidd wrth gynnyrch a gwasanaethau o ddiddordeb arbennig gyda thwf gwirioneddol bosibl i’r dyfodol ddenu buddsoddwyr a datblygwyr. Mae’n cynnig rhinwedd gwerthu unigryw, y cyfle i gael buddion ac elw ychwanegol na fydd cystadleuwyr yn gallu eu cynnig efallai, ac mewn rhai achosion, gall leihau risg cyffredinol y datblygiad.
Mae sefydlu CNC fel partner masnachol hyfyw yn hynod bwysig. Mae angen i ddarpar bartneriaid posibl weld CNC fel gweithredwr masnachol sy’n hyrwyddo datblygiadau cyfrifol yn ogystal â bod yn gorff sector cyhoeddus neu reoleiddiwr adnoddau naturiol.
Sectorau blaenoriaeth
Dyma’r sectorau nesaf a fydd yn cael ein sylw, ynghyd ag astudiaethau achos o rai llwyddiannau diweddar yn y meysydd hyn.
Ynni: Dyfodol Gwyrdd
Cynlluniwyd rhaglen ynni CNC mewn ymateb i bolisi a thargedau ynni Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y gobaith y gall 70% o drydan Cymru gael ei gynhyrchu o ddeunyddiau adnewyddadwy erbyn 2030, a bod elfen o berchnogaeth leol gan bob prosiect ynni newydd yng Nghymru o 2020 ymlaen.
Mae CNC wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth annog datblygwyr a buddsoddwyr i ddod i Gymru i fuddsoddi mewn prosiectau gwynt ac ynni ar dir Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru.
Bwriad Llywodraeth Cymru yw ceisio sicrhau bod pobl ac economi Cymru yn elwa i’r eithaf o’r fath fuddsoddiad.
Mae’r cynlluniau ynni gwyrdd hyn yn gwbl hanfodol i helpu cymunedau Cymreig i arallgyfeirio’u cyflenwadau ynni a lleihau’r ddibyniaeth ar danwydd ffosil. Mae eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr yn net sero, maent yn cynhyrchu swyddi lleol, yn datblygu sgiliau ac yn creu cronfeydd budd cymunedol sylweddol.
Drwy gynllunio’n ofalus a gweithredu cynlluniau lliniaru, gellir gostwng effaith negyddol y fath ddatblygiadau ar dirwedd a ffactorau ecolegol lleol yn sylweddol, yn ogystal â’u gwrthbwyso i raddau helaeth.
Mae gan CNC brofiad helaeth o weithio gyda datblygwyr i gyflawni buddion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (RhANG neu SMNR yn Saesneg) drwy gyfrwng prosiectau ynni gwynt.
Byddwn yn:
- Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i adnabod y modelau gorau ar gyfer prosiectau ynni a chael gwared ag unrhyw rwystrau i’r modelau hynny
- Gwneud asesiad o leoliad a maint y datblygiadau ynni gwynt posibl ar gyfer y dyfodol
- Datblygu gweithdrefnau gwneud penderfyniadau clir ar gyfer tendro cyfleoedd gweithredol ac ymateb i gynigion dan arweiniad datblygwyr
- Edrych am fwy o bartneriaethau lleol a datblygiadau cymunedol er mwyn hwyluso perchnogaeth leol o fewn y sector ynni.
Astudiaeth Achos
Mae Fferm Wynt Pen-y-Cymoedd, a sefydlwyd gan Vattenfall UK Ltd, wedi’i lleoli ym Mharc Coedwig Afan rhwng Castell-nedd a Merthyr Tudful. Mae’n dangos yr amrywiaeth o fuddion RhANG a ddaeth i Gymru o ganlyniad i ynni adnewyddadwy.
Mae 76 o dyrbinau gwynt ar y fferm wynt, bob un yn 145m o uchder gyda’r gallu i gynhyrchu uchafswm o 228 MW o drydan (capasiti eithaf). Golyga hyn y gall y fferm gynhyrchu ynni ar gyfer tua 188,000 o gartrefi a fydd, yn ystod oes y prosiect, yn cymryd lle 6.4 miliwn tunnell o garbon deuocsid a fyddai wedi dod o danwydd ffosil.
Mae’r prosiect yn dod ag incwm rhent sylweddol i Llywodraeth Cymru.
Yn ogystal â hyn, mae’r prosiect wedi sefydlu cronfa budd cymunedol o £50 miliwn sy’n cefnogi mentrau cymunedol lleol, gan gynnwys cynllun rheoli cynefin gwerth £3 miliwn sy’n adfer mawndir ar raddfa eang.
Pren: Dulliau Newydd
Mae CNC yn gyfrifol am werthu pren o Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru.
Ar hyn o bryd, mae CNC yn cynhyrchu 850’000m3 o bren y flwyddyn, neu tua dwy ran o dair o gyfanswm y farchnad Gymreig, sy’n creu incwm gros o tua £20miliwn fel arfer.
Mae gwerthiant pren yn amrywio o 15m3 i 15000m3 y tendr ar hyn o bryd, gan gynnwys bwndeli coed tân bychain.
Mae’r pren ar yr ystâd yn cynnwys sbriws (60%) a choed llarwydd (25%) a chyfuniad o rywogaethau eraill ond gall hyn amrywio’n sylweddol ar hyd a lled y coetiroedd.
Gan fod coeden yn cymryd tua 60 mlynedd i gyrraedd ei llawn dwf ar gyfer y farchnad, gall CNC greu rhagolwg cynhyrchu er mwyn i ni allu gweld beth fydd ar gael ar gyfer y farchnad yn y tymor hir. Serch hynny, ni all CNC ragweld pa mor llewyrchus fydd y farchnad o un flwyddyn i’r llall.
Mae’r tîm Gwerthu a Marchnata Pren wedi canfod nifer o ffrydiau gwaith a all fwydo i mewn i weledigaeth gyffredinol y Strategaeth Fasnachol ar unwaith.
Dyma nhw:
- Cryfhau gwytnwch drwy ddatblygu portffolio cynnyrch pren mwy amrywiol
- Ystyried posibiliadau rheoli tir amgen sy’n cynnig ffyrdd cynaliadwy hirdymor o gynhyrchu incwm.
- Gwella prosesau a gweithdrefnau TGCh llywodraethiant, gwerthu a marchnata pren, gan wneud ein safleoedd yn haws i gwsmeriaid allanol eu defnyddio ac yn fwy effeithlon o safbwynt CNC
- Ystyried ein hymrwymiad 3P, Planed, Pobl a Ffyniant, er mwyn sicrhau bod CNC yn mesur trafodion gwerthu mewn modd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol
- Cynyddu’r defnydd o bren Cymreig yn y diwydiant adeiladu yng Nghymru – cyfoethogi’r economi gylchol drwy gadw popeth yn lleol wrth adeiladu tai a defnyddio cynnyrch lleol.
Astudiaeth Achos
Mae CNC wedi datblygu Teclyn Gwerthuso Pren newydd er mwyn sicrhau fod dulliau dibynadwy, cyson, yn seiliedig ar ddata yn cael eu defnyddio ledled ystâd CNC wrth werthu pren.
Mae’r teclyn hwn yn asesu costau gweithio, cynnyrch y cnydau a phrisiau’r cnydau fesul rhywogaeth, gan ystyried ansawdd amrywiol y pren. Rhoddir ystyriaeth bellach i leoliad, y gadwyn gyflenwi agosaf a maint y bwndeli pren.
Ym mhob dogfen brisio ceir adran sy’n egluro sut y defnyddiwyd y teclyn, gan sicrhau tryloywder ein gwaith a dangos ein bod yn anelu at y gwerth gorau am arian wrth werthu’r pren.
Mae’r ffordd hon o weithio yn decach i’n cyflenwyr hefyd ac yn gymorth i sicrhau cystadleuaeth resymol o fewn y farchnad; gall pob gwerthiant ddenu dros 25 o gwsmeriaid sy’n cynnig pris mewn arwerthiant pren.
Mantais arall yw bod y dull hwn o gyllidebu o’r gwaelod i fyny ar gyfer prisio ein pren yn rhoi cyfle i newid prisiau ar y funud olaf mewn ymateb i farchnad anwadal, gan sicrhau ein bod yn cynnal gwerth y pren ar y farchnad a rhoi hyder i CNC, a sicrwydd pan fyddwn yn penderfynu peidio gwerthu am nad yw’r cynigion yn ddigon deniadol.
Er ein bod yn osgoi gwerthu am bris isel, rydym yn cydnabod pwysigrwydd cadwyn gyflenwi gyson o bren ar gyfer y diwydiant prosesu coed yng Nghymru. Mae ein hymrwymiad i gynnig a chyflenwi pren o YCLlC yn fanteisiol i uchelgais Llywodraeth Cymru er mwyn hybu a chynnal economi gylchol fywiog y wlad.
Twristiaeth a Hamdden: Y lle i fod
Mae tua 10-12% o weithlu Cymru yn cael eu cyflogi i weithio mewn mentrau hamdden a thwristiaeth. Mae’r swyddi hyn yn y trefi mawr ac mewn ardaloedd gwledig hefyd, yn darparu refeniw a gwaith hanfodol i drigolion lleol. Er bod y sector wedi dioddef yn ddifrifol yn sgil y pandemig, deil i fod yn un o alluogwyr allweddol adferiad gwyrdd.
Mae llawer o’r safleoedd a reolir gan CNC yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r hyn sydd gan hamdden a thwristiaeth Cymru i’w cynnig i ymwelwyr a thrigolion Cymru. Maent yn lleoedd gwefreiddiol i fynd am dro a chrwydro; yn cynnig anturiaethau anhygoel ar lwybrau beicio mynydd nad oes eu gwell ym mhedwar ban byd; ceir mannau chwarae antur, nofio gwyllt, a’r cyfle i fwynhau hanes a diwylliant ysbrydoledig Cymru. Mae CNC eisiau sicrhau ein bod yn datblygu’r ddarpariaeth hamdden; ein bod yn rhoi mwy o ddewis, mwy o brofiadau a datblygiadau pellach sy’n cynnig rhywbeth i bawb. Byddwn yn gwneud hynny gan geisio osgoi gordwristiaeth a chael effaith negyddol ar hinsawdd a natur.
Mae nifer o astudiaethau wedi dangos bod mynd allan i’r awyr agored yn llesol i’r corff a’r meddwl. Mae nifer o’r astudiaethau hyn wedi dangos hefyd fod bwlch cynyddol rhwng plant a byd natur ac felly bydd ehangu ar y cyfleon i fwynhau mannau gwyrdd o les i unigolion ac i’r gymdeithas, yn ogystal â thwristiaeth.
Wrth ddatblygu gweithgareddau twristiaeth, mae’n rhaid i ni ystyried yn ofalus y pryderon ynghylch ‘gordwristiaeth’ a’r pwysau y mae hynny’n ei roi ar gymunedau a’r amgylchedd.
Ein bwriad yw bod yn fwy arloesol; bod ein hagwedd at y gwaith o fewn y sector hwn yn cael ei gymell gan ddata, gan fod yn ofalus i beidio â meddwl bod yr un syniadau yn mynd i weddu i bob datblygiad hamdden. Yn hytrach na hynny, mae’n rhaid i ni ystyried yn ofalus y math o weithgaredd a datblygiadau sy’n gweddu i’n safleoedd a derbyn nad oes angen newid pob safle yr ydym yn ei reoli.
Byddwn yn:
- Defnyddio dadansoddiad marchnad newydd ar gyfer y sector dwristiaeth a hamdden yng Nghymru yn ystod y pump i 25 mlynedd nesaf er mwyn ein helpu i asesu’r posibiliadau ar gyfer buddsoddi, proffiliau galw ac ymwelwyr, a hybu Cymru. Bydd rhywfaint o’r wybodaeth fusnes yma ar gael eisoes gan bartneriaid lleol megis Croeso Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
- Gweithio gyda phartneriaid newydd i greu mwy o ddewisiadau ar gyfer defnyddwyr yn ein canolfannau ymwelwyr a chyfleoedd pellach i fusnesau lleol ymwneud â thwristiaid ac ymwelwyr rheolaidd
- Gweithredu cynlluniau gostwng carbon ar gyfer digwyddiadau hamdden ar dir sy’n cael ei reoli gennym ni
- Hyrwyddo teithio domestig a’r economi aros yng Nghymru
- Edrych ar safleoedd cysylltiedig a thrafod â’r landlordiaid rhwng safleoedd er mwyn datblygu llwybrau cerdded a beicio hirach er mwyn osgoi ffyrdd a gallu mwynhau mwy o dirwedd Cymru
- Ystyried ffyrdd o gysylltu â safleoedd CNC drwy gyfrwng technoleg er mwyn sicrhau profiad mwy ymdrochol a modern. Mae hyn yn cynnwys anghenion mewnol megis prosesau archwilio llwybrau dibapur.
Diwylliant: Cyfleoedd Marchnad Cynyddol
Mae CNC yn rhoi pwyslais sylweddol ar amddiffyn a hyrwyddo ein diwylliant. Mae Cymru wedi’i bendithio â sectorau celfyddydol, cerddorol, llenyddol a hanesyddol amrywiol a gefnogir gan ei hiaith ei hun sy’n rhoi ymdeimlad o berthyn a hunaniaeth i bobl Cymru.
Mae busnesau creadigol yn creu trosiant blynyddol o dros £2 biliwn ac yn cyflogi tua 50,000 o bobl. Mae lefelau mynychu a chymryd rhan neu wirfoddoli mewn digwyddiadau diwylliannol yng Nghymru yn uchel, o gwmpas 80% a 40% yn eu tro. Mae isadeiledd cadarn yn ei lle a safleoedd hanesyddol yn aml yn cynnig gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Serch hynny, mae llawer o’r safleoedd yma yn ne Cymru ac nid yw’n syndod bod y rheiny o fewn cyrraedd y prif gyflenwyr trafnidiaeth. Cynigia’r hygyrchedd hwn gyfleoedd gwych i ddenu ymwelwyr i Gymru a hybu trigolion lleol i gymryd rhan.
Er bod gwaith CNC yn canolbwyntio ar reoli tir, gwyddom fod diwylliant yn grymuso ac yn cyfrannu at nifer o nodau llesiant. Mae CNC yn awyddus i ddefnyddio’r safleoedd yr ydym yn eu rheoli er budd hyrwyddo a thwf y diwylliant hwnnw.
Mae’r pandemig Covid-19 diweddar wedi taro’r sector hon yn galed gan olygu fod llawer o artistiaid annibynnol a gweithgareddau diwylliannol yn fregus, gyda theatrau a setiau cerdd a ffilm yn cau, heriau wrth gyflenwi deunyddiau a chanslo comisiynau. Hyd yma nid ydym yn gwybod pa gyfleoedd yn union fydd ar gael yn sgil ymadawiad y DU â’r UE.
Mae CNC Masnachol eisoes wedi dechrau ystyried nifer o ddatblygiadau posibl a allai liniaru rhai o’r heriau. Flwyddyn yn ôl, byddai ein hymateb wedi bod yn eithaf gwahanol ond yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi bod yn gweithio’n galed yn archwilio cyfleoedd, gan edrych nid yn unig ar yr hyn sydd ei angen a sut y gall CNC gyfrannu at amrywiol fodelau cyflawni, ond hefyd sut y gallwn wneud hynny yn sgil Brexit a Covid-19.
Bwriad cyfraniad CNC i’r byd diwylliannol yw datblygu’r weledigaeth sydd gennym i greu ‘Cymru ddigamsyniol’ ac mae ein safleoedd allanol yn bennaf yn gwbl addas ar gyfer y byd ôl-Covid lle gall rhai cyfyngiadau fodoli o hyd.
Byddwn yn gwneud hyn drwy:
- Ailddatblygu proses hawliau ffilmio CNC. Bydd yr adolygiad yn sicrhau fod y cyfraddau’n gystadleuol yn y farchnad ac yn addas i bwrpas ac fe fyddwn yn ystyried ffyrdd o farchnata ein safleoedd i’r diwydiant
- Datblygu lleoedd gweithio, dysgu, hamddena a chwarae y tu allan, yn yr awyr agored ar ein hystâd
- Cynnig gofod galeri pop-yp mewn canolfannau hamdden ac ystafelloedd te
- Datblygu tair partneriaeth/cynnal tri digwyddiad diwylliannol blynyddol canolig eu maint ar ein safleoedd
- Ystyried datblygu gofod celfyddydol naill ai fel rhan o ganolfan ymwelwyr bresennol neu yn y dyfodol gan ganolbwyntio ar artistiaid ac ymarferwyr lleol a theithiol
- Defnyddio artistiaid ac ymarferwyr i gefnogi mentrau CNC ar draws bob gwasanaeth, boed hynny drwy helpu i ddatblygu llwybrau cerdded, deunyddiau marchnata, mentrau addysgol neu ddigwyddiadau cyffredinol
- Cynnig ‘cynllun artist preswyl’ CNC.
Gwasanaethau Dadansoddi: Dull gweithredu drwy dystiolaeth
Labordy dadansoddi amgylcheddol yw Gwasanaeth Dadansoddi Adnoddau Naturiol Cymru (GDANC) a chanddo achrediad ISO/IEC17025:2017 (y safon ryngwladol gydnabyddedig ar gyfer cymhwysedd, gweithrediad diduedd a chyson mewn labordai), sy’n meddu ar arbenigedd blaengar o fewn y diwydiant o safbwynt dadansoddi gwaddodion a dŵr croyw cymhlyg.
Ers 2013 mae GDANC wedi bod yn darparu tystiolaeth, canllawiau ac atebion dadansoddol i CNC, yn ogystal â chynnig gwasanaethau dadansoddol i amrywiaeth eang o gleientiaid ledled y DU, gan gynnwys cwmnïau gwasanaethau cyhoeddus, cynghorau lleol a sefydliadau dielw. Symudodd y tîm i Brifysgol Abertawe yn 2017 a daeth cyfle i ehangu’r cyfleoedd masnachol a meithrin cysylltiadau agosach â’r byd academaidd. Mae’n rhaid i’r labordy roi blaenoriaeth bob amser i’w hymrwymiadau sefydliadol ond drwy gynyddu’r defnydd o’r capasiti dros ben ac ehangu’r portffolio dadansoddi, gall chwarae rôl allweddol yn yr Adferiad Gwyrdd.
Byddwn yn ystyried:
- Gweithredu’r System Rheoli Gwybodaeth Labordy newydd (SRhGL) er mwyn rheoli’r llif gwaith yn well, yn achos ein gwaith rheolaethol (arferol) yn ogystal â phrosiectau masnachol y dyfodol
- Ehangu ein portffolio dadansoddi i gynnwys halogyddion newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg yn ogystal â dulliau monitro newydd
- Cynnig gwell gwerth am arian i’r pwrs cyhoeddus drwy wella capasiti mapio a defnyddio’r capasiti hwnnw ar gyfer gwaith masnachol
- Archwilio ffyrdd newydd o weithio gyda’n cwsmeriaid drwy greu cysylltiadau agosach â’r byd academaidd yn ogystal ag ystyried partneriaethau gyda’n cwsmeriaid presennol, cwsmeriaid newydd a chyda sefydliadau cyfatebol ledled yr UE.
- Datblygu system brisio newydd er mwyn sicrhau fod yr holl gostau sy’n ymwneud â phrosiectau masnachol yn cael eu hadennill yn llawn, gan ystyried pob agwedd o’r gwaith, ein cwsmeriaid a’r farchnad. Bydd y gwaith hwn yn amlygu costau rhaglen fonitro CNC hefyd, gan sicrhau gwell rheolaeth ariannol ar gyfer y sefydliad.
Caffael: Partneriaethau Cynaliadwy
Mae tîm caffael CNC yn rhan allweddol o’r tîm masnachol, yn darparu dulliau hanfodol i sicrhau fod y gadwyn gyflenwi’n gweithredu mor effeithiol â phosibl, cynnig y gwerth gorau am arian, cynyddu ein dewisiadau cyflenwi, symleiddio prosesau, cynnig llwyfan tryloyw a theg i ddarpar brynwyr a phartneriaid cyflenwi, monitro cydymffurfiaeth, a rheoli cyflenwyr yn effeithiol.
Ar hyn o bryd, mae dau faes hanfodol i’w hystyried yn ystod y ddwy flynedd nesaf:
- Nid ydym yn gwybod sut y bydd ymadawiad y DU â’r UE yn newid rheolau a phrosesau caffael
- Mae angen i ni ganfod ffordd effeithiol ac ystyrlon i sicrhau a hwyluso cydymffurfiaeth o safbwynt datgarboneiddio a lles ein holl gyflenwyr.
Bydd y strategaeth yn gwella gwybodaeth ynglŷn â chaffael ymysg yr holl dimau masnachol, yn egluro opsiynau a gweithdrefnau caffael yn well ac yn sicrhau bod gan y tîm caffael ei hun y wybodaeth a’r offer angenrheidiol wrth law er mwyn hwyluso’r prif feysydd ystyriaeth.
Byddwn yn:
- Cyflwyno bocs tŵls cyflenwr gyda’r bwriad o helpu Mentrau Bach a Chanolig drwy broses caffael CNC
- Ystyried effaith carbon y gweithgareddau caffael a chynnig cefnogaeth hanfodol i gydweithwyr a chwsmeriaid a rhoi cefnogaeth gadarnhaol wrth leihau allyriadau carbon
- Mabwysiadu’r Themâu, Canlyniadau a Mesurau Cymru newydd a hwyluso datblygiad y porth gwerth cymdeithasol o fewn gweithgareddau caffael CNC, a fydd yn cael eu defnyddio i hoelio gwerth cymdeithasol mewn perthynas â’r amcanion llesiant
- Gweithredu cynllun hyfforddi i sicrhau ein bod yn gwneud y pethau sylfaenol yn iawn a’i gwneud hi’n haws i staff ddeall sut i gydymffurfio â gweithdrefnau. Bydd hyn yn cynnwys gweithio ar draws y wefan, y mewnrwyd a’r dogfennau canllaw
- Archwilio peirianweithiau er mwyn datblygu gwell perthynas â’n cyflenwyr
- Datblygu gweithdrefnau dadansoddi’r farchnad manwl er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth o’r farchnad yr ydym yn caffael ohoni a sicrhau dealltwriaeth ddyfnach o’r risgiau cysylltiedig
- Crynhoi adborth oddi wrth randdeiliaid mewnol ac allanol am sut i wella perthnasau a phrosesau o fewn prosesau caffael ffurfiol
- Creu proses arfer dda a gwersi a ddysgwyd er mwyn gwella atebolrwydd a chydymffurfiaeth ar draws deddfwriaethau cyffredinol, ac ar gyfer polisïau a gweithdrefnau mewnol.
Astudiaeth Achos
Mae CNC yn plannu cannoedd o goed bob blwyddyn ac rydym newydd ymgymryd â phroses gaffael sylweddol gwerth £9m i ganfod cyflenwr fel y gallwn blannu mwy!
Fel rhan o’r caffael hwnnw, roedd CNC eisiau sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, cynorthwyo i gyflawni nodau llesiant a phob uchelgais yn strategaeth economi gylchol arfaethedig Cymru, Mwy nag Ailgylchu.
Aeth CNC i bartneriaeth â WRAP Cymru a Resources Futures er mwyn sicrhau bod y meini prawf caffael yn annog cyflenwyr i bwyso a mesur sut y byddant yn cefnogi’r amcanion hyn.
Mae gennym ddiddordeb mawr yn yr haenen blastig sy’n cael ei defnyddio ar bob coeden i amddiffyn ei gwreiddiau ifanc cyn plannu. Roeddem yn awyddus i wybod a oedd dull mwy cynaliadwy o wneud yr un peth.
Wedi cryn ymchwil a thrafodaethau â chyflenwyr, yn anffodus nid yw hyn yn bosib ar hyn o bryd ond rydym yn bendant fod hyn yn rhywbeth yr hoffem ei ddatblygu ac mae llawer o’n cyflenwyr yn gweithio ar y mater.
Er nad ydym wedi cyflawni ein nod, mae ein disgwyliadau’n glir ac rydym wedi sefydlu dulliau i asesu’r sefyllfa’n barhaus er mwyn i ni allu newid i ddewis mwy cynaliadwy cyn gynted â phosibl.
Datblygu Busnes: Twf
Er bod meysydd gweithgaredd masnachol y gellir eu diffinio’n glir gan feysydd portffolio penodol, mae CNC hefyd yn ymwneud â nifer o weithgareddau masnachol nad ydynt yn ffitio’n union i’r portffolios hyn, neu efallai nad ydynt yn gwbl berthnasol i’r tîm masnachol ond maent yn weithgareddau sy’n berthnasol i feysydd eraill o’r busnes.
Ar hyn o bryd, mae’r math hwn o ddatblygiad masnachol yn cynnwys, er nad yw’n gyfyngedig i, hawliau a chaniatâd ffilmio, trwyddedau ar gyfer gweithgareddau ar ein tir, cloddio mwynau a’r farchnad werdd.
Canolbwyntia’r strategaeth hon hefyd ar dwf a gwytnwch, a sicrhau ein bod yn datblygu’r cyfleoedd cywir ar gyfer gwahanol ardaloedd yng Nghymru, gan annog buddiannau cymdeithasol-economaidd a hyrwyddo arloesedd. Felly, disgwyliwn i’n twf datblygu busnes fod yn fwy amrywiol yn y dyfodol.
Mae’n anodd egluro beth yw ein cynlluniau ar gyfer y pum mlynedd nesaf, ar wahân i bwysleisio’r angen i ymateb yn sydyn i farchnadoedd, ond rydym wedi amlinellu rhai o’n meysydd diddordeb nesaf.
- Gweithio mewn partneriaeth glos ac annog cwmnïau technoleg werdd a chwmnïau newydd
- Dewisiadau prynu tir o safbwynt casglu carbon a chronfeydd buddsoddi pensiwn
- Arallgyfeirio nwyddau gwyrdd sy’n dod o’r ystâd, megis gwella’r cyflenwad cig carw
- Gwasanaethau claddu naturiol
- Addysg a hyfforddiant amgylcheddol.
Gweithredu a llywodraethu
Prif nod y strategaeth hon yw egluro’r egwyddorion a phob uchelgais y bydd y tîm masnachol yn eu cyflawni.
Glasbrint ydyw sy’n dangos pa mor uchelgeisiol yw CNC yn ein hymgais i sicrhau gwedd fwy masnachol ac agwedd fusnes gadarnach ar draws y sefydliad. Dim ond drwy chwilio am atebion arloesol a chreadigol ar gyfer yr heriau sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd y gallwn gyflawni’r uchelgais honno a thaclo’r argyfwng hinsawdd a natur yn gadarn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae tîm masnachol CNC yn cydnabod fod llawer o waith i’w wneud os ydym yn dymuno bod yn fwy effeithiol o safbwynt masnach. Ein cryfderau presennol yw sylfaen ein cynllun gweithredu ond y mae hefyd yn ymdrin â’r meysydd y mae angen i ni eu datblygu.
Yn ogystal â dal ati i gyflawni’r prosiectau presennol a pharhau â’r gweithgareddau busnes fel arfer yn ystod 20/21, bydd angen i’r tîm greu fframwaith fasnachol sy’n canolbwyntio ar dwf a chynaliadwyedd.
Byddwn yn datblygu cynllun cyfathrebu a marchnata masnachol cynhwysfawr a gefnogir gan bortffolio manylach sy’n canolbwyntio ar gynlluniau cyfathrebu, megis y Cynllun Gwerthu a Marchnata Pren pum mlynedd.
Bydd y cynllun yn amlinellu sut y bydd y tîm masnachol yn gweithredu egwyddorion SOFT er mwyn cynyddu ymgysylltiad ac ymwybyddiaeth rhanddeiliaid mewnol ac allanol â’r rhai sydd â diddordeb. Bydd hyn yn cynnwys cymryd rhan masnachol mewn sioeau masnach, digwyddiadau cyhoeddus (os yn bosib) a bydd yn ymdrechu i ddangos y cyfleoedd masnachol sydd ar gael i gymunedau lleol, i’r DU ac i gymunedau rhyngwladol.
Mae cyfleu’r neges fod CNC Masnachol ‘Ar Agor’ ac yn chwilio am bartneriaid a diwydiannau posibl yn greiddiol i’r strategaeth hon.
Byddwn yn creu map clir ar gyfer partneriaid posibl yn egluro sut i ymdopi â pholisïau a gweithrefnau CNC a’r gwiriadau llywodraethiant a chydymffurfiaeth y mae’n rhaid i ni eu gweithredu. Bydd hyn yn gymorth i egluro’r disgwyliadau ynghylch beth allwn ni ei gyflawni a’r hyn na allwn ei gyflawni.
Byddwn yn comisiynu adroddiad am farchnadoedd newydd er mwyn gyrru ein strategaeth arallgyfeirio yn ei blaen a’n helpu i ddarganfod cyfleoedd newydd. Bydd hyn yn bwydo’n uniongyrchol i mewn i’n cynllun cyflawni masnachol a fydd yn tracio cyfleoedd masnachol parhaus yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Bydd dangosfwrdd perfformiad amser-real yn sicrhau bod y cynllun cyflawni yn cael ei fonitro’n effeithiol ac yn cyfoethogi’r craffu parhaus ar weithgaredd(au) masnachol.
Mae CNC yn sefydliad mawr, egnïol felly mae’n hanfodol fod y Strategaeth Fasnachol yn parhau i ffitio’n gryno i adrannau eraill o fewn y sefydliad, gan osgoi gwrth-ddweud, dryswch neu ddryswch o ran pwrpas.
Caiff CNC Masnachol ei oruchwylio gan Bennaeth Datblygiadau Masnachol Cynaliadwy, sy’n adrodd i’r Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Cwsmeriaid, a Masnach. Cefnogir y Pennaeth Datblygiad Masnachol Cynaliadwy gan y Bwrdd Busnes Masnachol (BBM), sy’n cynnwys uwch staff o amrywiol adrannau gan gynnwys Stiwardiaeth Tir; Tystiolaeth, Polisi a Chaniatâd (TPCh), a Gwasanaethau Ariannol a Chyfreithiol.
Drwy gyfrwng y Bwrdd Busnes Masnachol, byddwn yn cysylltu’n rheolaidd â ffrydiau gwaith cysylltiedig eraill ac yn eu bwydo i mewn i’r Strategaeth a’n Cynllun Cyflawni yn ôl yr angen.
Ymysg yr enghreifftiau mae:
- Gweithredu Gweledigaeth 2050 CNC
- Datblygu Marchnad Werdd CNC
- Datganiadau ardal yn seiliedig ar le
- Datblygu dull cyfrifo Planed, Pobl a Ffyniant.