Mwy o rôl i ddysgu yn yr awyr agored a’r amgylchedd naturiol yng nghwricwlwm newydd ysgolion

Mae Sue Williams, Arweinydd Tîm Iechyd, Addysg ac Adnoddau Naturiol, yn dweud wrthym am y rôl mae'r amgylchedd naturiol yn ei chwarae yn y Cwricwlwm newydd i Gymru, a sut mae ei thîm wedi helpu i ddatblygu'r ffordd y mae disgyblion yn dysgu yn yr amgylchedd naturiol, amdano ac ar ei gyfer.

Pan fydd plant yn dechrau dychwelyd i'r ysgol yng Nghymru yr wythnos hon, bydd pob ysgol gynradd, a rhai ysgolion uwchradd ym mlwyddyn 7, yn dechrau dysgu'r Cwricwlwm newydd i Gymru, yn dilyn yr adolygiad mwyaf o addysg mewn 30 mlynedd.

Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn cwmpasu pob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed. O fis Medi 2023 ymlaen, bydd holl ddisgyblion blwyddyn 7 ac 8 yn cael eu haddysgu trwy'r cwricwlwm newydd gan gyflwyno'r rhaglen flwyddyn ar flwyddyn, tan iddi gynnwys blwyddyn 11 erbyn 2026.

Erbyn hyn mae gan leoliadau'r rhyddid i ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain, a addysgir trwy 6 Maes Dysgu a Phrofiad:

  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Y Dyniaethau
  • Iechyd a Lles
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Y Celfyddydau Mynegiannol
  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Wrth ei wraidd mae'r dyhead i bob plentyn ac unigolyn ifanc yng Nghymru ddod yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau
  • cyfranwyr mentrus, creadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • dinasyddion moesegol, gwybodus yng Nghymru a'r byd
  • unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Dylanwadu ar y cwricwlwm

O Gais cynnar am Dystiolaeth yn 2016, mae ein Cynghorwyr Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau wedi bod yn rhan o lunio a datblygu'r cwricwlwm newydd.

Rydym wedi sicrhau y gellir addysgu Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (RhANG) a'r argyfyngau hinsawdd a natur mewn ffordd ystyrlon a dilys, a’r rôl gefnogol gall cysylltiad â natur a dysgu awyr agored chwarae mewn dull ysgol gyfan o ymdrin â chyrhaeddiad a gweithgarwch corfforol a lles meddyliol yn cael ei gwerthfawrogi, deall a gweithredu.

Gan weithio â’n partneriaid yng Nghyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored rydym wedi cyflwyno nifer o ymatebion i'r ymgynghoriad, gwneud sylwadau ar lu o ddeunydd cyfarwyddyd, a gwnaethom ddiweddaru ein cymuned o addysgwyr trwy ein cyfrifon Trydar a Facebook Dysgu Awyr Agored Cymru.

Mae ein hymgyrch Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru wedi helpu i ysgogi ac ysbrydoli athrawon a dysgwyr fel ei gilydd i gofleidio dysgu yn yr awyr agored, tra bo'n Dull Hawliau Plant o weithredu wedi sicrhau ein bod yn cynnal ac yn hyrwyddo hawliau plant drwy gydol y broses.

Rydym wrth ein boddau bod bod allan yn yr awyr agored bellach yn cael ei gydnabod yn gydradd â'r ystafell ddosbarth dan do, ac mae dysgu awyr agored wedi'i leoli fel addysgeg ganolog (dull addysgu) y bydd pob lleoliad yn cymryd rhan ynddo.

Manteision dysgu yn yr awyr agored

Mae Llywodraeth Cymru'n esbonio manteision dysgu yn yr awyr agored a chysylltu â byd natur yn eu canllawiau cwricwlwm:

"Gall dysgu y tu allan arwain at lefelau uchel o les, hyder ac ymgysylltu. Mae bod y tu allan yn cefnogi datblygiad cymdeithasol, emosiynol, ysbrydol a chorfforol, yn ogystal â darparu cyfleoedd dilys i ddysgwyr ddatblygu a chadarnhau sgiliau trawsgwricwlaidd.
"Mae bod y tu allan yn darparu cyfleoedd i’r dysgwyr gael rhyfeddu a chael eu hysbrydoli, ac mae’n caniatáu i ddysgwyr i ymateb yn naturiol mewn gofod agored, ymlaciol sy’n eu symbylu.
"Gall dysgwyr sy'n llwyddo i ymgysylltu â'r byd naturiol feithrin empathi tuag at yr amgylchedd, gan ddangos ymwybyddiaeth o effaith bosibl y dysgwyr ar elfennau byw. Gallan nhw ddechrau archwilio'r cysyniad o gynaliadwyedd mewn ffordd ymarferol.
"Gall amgylcheddau y tu allan ddarparu cyfleoedd unigryw i ddysgwyr wella eu cydbwysedd a’u gallu i gydsymud, datblygu sgiliau motor ac archwilio eu potensial corfforol... gall dysgwyr ddatblygu eu gallu i asesu a phrofi risg, ynghyd â’u gwydnwch a’u hyder."

Adnoddau i addysgwyr

Er mwyn cefnogi cyflwyniad y cwricwlwm newydd, rydym wedi cyd-gynhyrchu adnoddau fel y ddogfen Dysgu yn yr Awyr Agored o Ansawdd Rhagorol sy'n cefnogi athrawon wrth asesu dysgu yn yr awyr agored.

Rydym hefyd wedi datblygu ystod eang o ddeunydd Cyfoeth Naturiol Cymru, o adnoddau Newid Hinsawdd didrugaredd i Hybu Mathemateg a Rhifedd trwy natur trwy Mawndiroedd, Perllannau a Llwybr Arfordir Cymru.

Ac mae'r gwaith yn parhau. Ni allwn ni fforddio eistedd yn ôl a gadael y cyfan i'r athrawon - mae angen ein cefnogaeth a'n help arnyn nhw.

Rydym wrthi'n cynhyrchu adnoddau ar gyfer canolfannau ymwelwyr Coed y Brenin a Bwlch Nant yr Arian i helpu grwpiau hunan-dywys i wneud y mwyaf o'n tir.

Mewn ychydig wythnosau byddwn yn lansio amrywiaeth o adnoddau twyni tywod rydym wedi'u datblygu â thîm Twyni Byw, ac yna adnoddau am danau gwyllt a ddatblygwyd fel rhan o brosiect Llethrau Llon. Bydd yr holl adnoddau hyn yn cael eu cefnogi gan ystod o gyrsiau hyfforddi addysgwyr ar-lein ac wyneb yn wyneb y gellir eu harchebu trwy Tocyn Cymru.

Ochr yn ochr â hyn, rydym yn parhau i ddatblygu ein sianel Dysgu YouTube ac rydym yn ychwanegu astudiaethau achos yn rheolaidd at ein gwefan fel y gall pobl gael mynediad at wybodaeth pan fydd ei hangen arnyn nhw.

Mae dau ddarn o waith arall dan arweiniad Cymwysterau Cymru hefyd wedi gofyn am ein sylw. Mae Cymwys ar gyfer y dyfodol yn edrych ar strwythur a chynnwys cymwysterau TGAU presennol a'r newidiadau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol. Ein prif neges ni oedd na ellir dysgu cynaliadwyedd bellach mewn Daearyddiaeth a'r Gwyddorau yn unig – mae angen i bob dysgwr ddeall ei le yn y byd a'u heffaith arno.

Mae Cymwys am Oes yn edrych ar bynciau nad ydyn nhw’n bynciau TGAU. Yn ddiweddar, fe wnaethon ni gydlynu grŵp o arbenigwyr Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cymryd rhan mewn adolygiad o gyrsiau Amaeth. Y syniad yn y pen draw yw cael llwybr clir drwodd o'r cwricwlwm newydd i gymwysterau ac asesu.

Darganfod mwy

Gallwch ddysgu am y gwasanaeth addysg rydym yn ei gynnig yn Cyfoeth Naturiol Cymru ochr yn ochr â chyfoeth o adnoddau dysgu ar ein tudalennau Addysg, Dysgu a Sgiliau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau am adnoddau newydd, cysylltwch â ni yn education@naturalresourceswales.gov.uk. Rydyn ni wrth ein boddau'n clywed adborth!

I gael trosolwg o'r cwricwlwm newydd a sut mae addysg yn newid, ewch i llyw.Cymru

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru