Cynllunio, datblygu, defnyddio a chynnal a chadw perllan ar gyfer dysgu

Mae afalau yn cael eu cynnal mewn dwy law

Mae’r adnoddau hyn yn rhoi cyngor ac arweiniad i chi ar sut i gynllunio, datblygu, defnyddio a chynnal a chadw perllan gyda’ch dysgwyr, a gwneud y gorau o’r cyfleoedd a’r profiadau dysgu a gynigir gan y cynefinoedd bioamrywiol hyn. O gylchoedd bywyd a chadwyni bwyd perllan, i impio a thasgau rheoli tymhorol, dyma gyfle gwych i archwilio afalau gyda’ch dysgwyr.

Cynllunio perllan ar gyfer dysgu

Unwaith y byddwch wedi plannu eich coed, y gobaith yw y byddant yno am amser hir, felly rhaid cynllunio’n briodol er mwyn sicrhau bod y coed yn cael y cyfle gorau i dyfu a ffynnu.

Pwysigrwydd perllannau

Yn ogystal â’r buddion amlwg o gynaeafu ffrwythau, gall perllan fod yn fan cyfarfod i’r gymuned leol, ac yn fwyd a chysgod i ystod eang o rywogaethau bywyd gwyllt.

Cardiau Adnoddau - Pwysigrwydd perllannau

Cynllunio perllan

Pan fyddwch yn cynllunio eich perllan, rhaid i chi roi ystyriaeth i’r math o bridd, haul a gofod sydd gennych i’r coed dyfu. Os byddwch yn cadw’r tri pheth hyn mewn cof, byddwch wedyn yn gallu dewis y math mwyaf addas o goed ffrwythau ar gyfer eich safle, cynyddu cnwd eich coed a chynnig y cynefin gorau posib.

Nodyn Gwybodaeth - Dylunio perllan

Gwella priddoedd ar gyfer perllan

Mae’r nodyn gwybodaeth hwn yn trafod y gwahanol fathau o bridd a’r hyn y gellir ei wneud i wella ansawdd y prif i sicrhau coed ffrwythau iach.

Nodyn Gwybodaeth - Gwella pridd ar gyfer Perllan

Adnabod coed ffrwythau a ffeithiau

O enwau gwyddonol a gwybodaeth am uchder cyfartalog i sut y gall ffrwythau gwahanol mewn perllan gyfrannu at ddeiet iachus; mae ein cardiau adnoddau’n rhannu ffeithiau allweddol a byddant yn helpu’ch dysgwyr i adnabod coed ffrwythau.

Cardiau Adnoddau - Adnabod coed ffrwythau

Datblygu perllan ar gyfer dysgu

Tyfu a phlannu coed ffrwythau

O dyfu coeden afalau o hedyn, plannu coeden ffrwythau mewn potyn, i gyfarwyddiadau ar sut i blannu coeden ffrwythau ifanc ar eich tir, mae ein cynlluniau gweithgareddau yn esbonio popeth sydd angen i chi ei wneud.

Cynllun Gweithgaredd - Tyfu coeden afalau o hadau
Cynllun gweithgaredd - Plannu coeden afalau mewn potyn
Cynllun Gweithgaredd – Plannu coed

Ffilm ar blannu coed ffrwythau

Ydych chi eisiau plannu coeden ffrwythau, ond ddim yn siŵr sut i wneud hynny? Gwyliwch y fideo yma!

Ffilm ar blannu coed ffrwythau... Yn dod yn fuan

Gwreiddgyffion ac impio

Dull o luosogi coed ffrwythau yw impio, a’r broses yw cymryd toriad o’r math o goeden afalau yr ydych yn ei hoffi, a’i impio ar wreiddgyff o’ch dewis chi.

Defnyddio perllan ar gyfer dysgu

Cylchoedd bywyd a chadwyni bwyd perllannau

Mae coed ffrwythau, gyda’u blodau, ffrwythau a changhennau’n darparu amrywiaeth o fwyd a lloches, yn cefnogi ystod eang o fywyd gwyllt ac felly’n wych ar gyfer bioamrywiaeth. Gallwch ddysgu mwy am y fflora a’r ffawna sy’n elwa o’r cynefin hwn gan ddefnyddio ein hadnoddau.

Nodyn Gwybodaeth – Cylchoedd bywyd a chadwyni bwyd perllannau
Cardiau adnoddau – Cadwyni bwyd mewn perllan
Cardiau adnoddau – Cylchoedd bywyd mewn perllan

I weld rhagor o adnoddau dysgu ac addysgu yn gysylltiedig â’r pwnc hwn, ewch i’n tudalen ar Goed a Choetiroedd. O’r Cyfnod Sylfaen i Ddysgu Gydol Oes, mae gennym amrywiaeth o adnoddau ar gael, sy’n cwmpasu popeth o fesur taldra coeden, i gyfrifo faint o garbon sydd wedi ei ddal mewn coeden.

Cynnal a chadw perllan ar gyfer dysgu

Cylch rheoli perllan

Mae’r adnoddau hyn yn esbonio’r gwahanol dasgau sydd angen eu gwneud i reoli perllan yn effeithiol.

Nodyn Gwybodaeth - Cylch rheoli perllan
Cardiau Adnoddau - Cylch rheoli perllannau

Tasgau rheoli tymhorol ar gyfer perllannau

O waith taenu compost yn y gwanwyn i docio yn y gaeaf, mae’r adnoddau hyn yn esbonio pa dasgau rheoli sydd angen eu cwblhau, a phryd.

Nodyn gwybodaeth – Tasgau rheoli tymhorol ar gyfer perllannau
Poster - Tasgau rheoli tymhorol ar gyfer perllannau

Mathau o docio

“Angen tociad? Pa fath hoffech chi? Uncyff? Rhesog? Gwyntyll?” Ydych chi ar goll? Peidiwch poeni, bydd ein nodyn gwybodaeth yn nodi pryd i docio, pa offer i’w defnyddio, a’r dulliau gwahanol o docio!

Nodyn Gwybodaeth - Mathau o docio

Beth yw manteision ac anfanteision technegau gwahanol o reoli perllannau?

Mae’r cardiau adnoddau hyn yn annog dysgwyr i ystyried, trafod a dysgu am effaith gwahanol dechnegau rheoli ar yr amgylchedd naturiol ehangach.

Cardiau adnoddau – Manteision ac anfanteision technegau rheoli

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf