Adroddiad interim ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2019

Yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yw ein hasesiad o a yw Cymru yn llwyddo i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

 

Rydym yn defnyddio'r dystiolaeth orau i asesu adnoddau naturiol Cymru – aer, tir, dŵr, bywyd gwyllt, coedwigoedd, pysgodfeydd, planhigion a phridd.

 

Rydym yn mesur pa mor dda rydym yn eu rheoli mewn modd cynaliadwy.

 

Yn yr adroddiad interim hwn, canolbwyntir ar y prif heriau i adnoddau naturiol Cymru.

 

Rydym yn amlinellu dau gyfle integredig i reoli adnoddau er budd natur a phobl.

 

Nodir bylchau yn y dystiolaeth a chynlluniau ar gyfer sut gallem ddechrau llenwi'r bylchau hynny.

 

Mae'r adroddiad yn nodi sut bydd yr ail adroddiad ar sefyllfa adnoddau naturiol yn datblygu yn 2020.