Adroddiad interim ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2019: Tystiolaeth

Ffermwr yn aredig y tir

Cynnydd ar fylchau tystiolaeth yn ein hadroddiad cyntaf

Mae datblygu'r dull pum cam o asesu'r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy wedi ein helpu i ganolbwyntio ar ba dystiolaeth sydd ei hangen arnom nawr.

Nid oes angen rhai o'r anghenion a nodwyd yn gynharach mwyach. Mewn achosion eraill, mae'r gwaith wedi'i gynllunio neu eisoes ar droed.

Darllenwch fwy ynghylch sut rydym yn rhoi sylw i'r bylchau a nodwyd yn ein hadroddiad cyntaf.

Nodi anghenion tystiolaeth newydd

Mae'n bwysig cofio mai ein hanghenion tystiolaeth yw'r dystiolaeth sydd ei hangen arnom i asesu rheolaeth gynaliadwy adnoddau naturiol nad ydym yn credu sydd gennym ar hyn o bryd.

Bydd yr anghenion tystiolaeth yn newid yn ôl y pwysau a'r cyfleoedd ar gyfer cyflawni'r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Mae ein harbenigwyr wedi gweithio gydag eraill i ystyried beth arall y gallai fod ei angen arnom i asesu'r gwaith o reoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy.

Rydym wedi rhestru'r rhain fel anghenion newydd a nodwyd.

Rydym wedi blaenoriaethu'r anghenion drwy ofyn cyfres o gwestiynau:

  • a yw'n angen hanfodol
  • faint o amser sydd ei angen ar ei gyfer
  • pa fesurau a nodau y mae'n berthnasol iddynt
  • a oes ganddo werth ychwanegol
  • beth yw'r effeithiau cynyddol
  • Bydd hyn yn ein helpu i benderfynu pa anghenion yw'r pwysicaf, yn ogystal ag erbyn pryd y mae angen i ni eu cael.
  • Nid yw fforddiadwyedd yn rhan o'n gwaith blaenoriaethu eto, ond bydd yn effeithio ar ein camau gweithredu.

Darllenwch fwy ynghylch sut rydym yn blaenoriaethu anghenion tystiolaeth.

Helpwch ni gyda'n hanghenion tystiolaeth

Darllennwch restr o’n hanghenion tystiolaeth wedi'u blaenoriaethu

Os credwch y gallwch ein helpu gyda'r rhain, neu os gallwch ein cyfeirio at wybodaeth sy'n bodoli eisoes, cysylltwch â ni sonarr@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Defnyddio tystiolaeth o Ddatganiadau Ardal

Mae proses y Datganiadau Ardal yn casglu tystiolaeth newydd ynghylch yr heriau, y peryglon a'r cyfleoedd ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Mae saith Datganiad Ardal yn cwmpasu Cymru a'r amgylchedd morol. 

Bydd ein hadroddiad nesaf yn cynnwys gwybodaeth a gasglwyd o Ddatganiadau Ardal.

Tystiolaeth ar gyfer mesur y gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy

Er mwyn cynnal a gwella adnoddau naturiol, mae angen i ni fesur eu sefyllfa, eu cydnerthedd, a'r buddion rydym ni'n eu cael ohonynt.  

Rydym yn bwriadu defnyddio stocrestr adnoddau naturiol.

Bydd hon yn cyfuno data economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol mewn un fframwaith. 

Byddwn yn defnyddio gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau, megis y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Cyfrifon Ecosystem Cenedlaethol y DU, prosiect Cadwyn Resymeg Natural England, a Phlatfform Monitro a Modelu'r Amgylchedd a Materion Gwledig.

Mae'r Pyramid Gwybodaeth yn dangos llif yr wybodaeth o ddata sylfaenol i gyfres o brif ddangosyddion neu fesurau:

Mae'r Pyramid Gwybodaeth yn dangos llif yr wybodaeth o ddata sylfaenol i gyfres o brif ddangosyddion neu fesurau

Buddion stocrestr adnoddau naturiol

Mae creu stocrestr yn ein galluogi i uno gwybodaeth am yr amgylchedd, cymdeithas a'r economi. Gwneir hyn drwy olrhain llif y buddion o adnoddau naturiol i bobl. 

Bydd yn rhoi darlun eang i ni o werth, gan nodi'r buddion cymdeithasol ac anariannol rydym yn eu cael o adnoddau naturiol. 

Bydd nodi gwerthoedd cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd yn ein helpu i gyflawni ein nodau llesiant.

Mae cyfrifon a stocrestrau adnoddau naturiol yn rhan allweddol o ddull Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig ac yn cyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cymru.

Gweler ein templed ar gyfer llunio'r stocrestr adnoddau naturiol.

Yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol nesaf

Darllenwch fwy ynghylch sut byddwn yn cyflwyno'r adroddiad nesaf ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf