A oes gan safle ganiatâd, trwydded neu esemptiad (Cofrestr Gyhoeddus)
Manylion sut i ddarganfod a oes gan safle ganiatâd, trwydded neu esemptiad i weithredu’n gyfreithlon
System ddim ar gael ar hyn o bryd – diweddarwyd am 12:00pm, dydd Mawrth, 19 Ionawr
Nid yw’r cofrestrau cyhoeddus ar-lein canlynol ar gael ar hyn o bryd:
- Trwyddedau gwastraff, ansawdd dŵr, adnoddau dŵr a gweithfeydd
- Eithriadau gwastraff ac ansawdd dŵr
- Cofrestriadau cynhyrchydd gwastraff peryglus
Mae’n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleuster a achoswyd. Rydym wrthi’n gweithio i ddatrys y broblem.
Mae’n dal yn bosib i chi weld ein cofrestr gyhoeddus o gludwyr gwastraff a gofrestrwyd cyn Dydd Iau, 14 Ionawr.
Mae ein cofrestr gyhoeddus coedwigaeth yn gweithio fel arfer.
Diweddariad nesaf: 10am dydd Mercher, 20 Ionawr
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhoi trwyddedau ac eithriadau i ddiwydiant, busnesau ac unigolion gynnal rhai gweithgareddau a allai lygru neu niweidio’r amgylchedd. Yn achos sawl gweithgaredd, dywed y ddeddfwriaeth yn bendant fod rhaid i’r Gofrestr Gyhoeddus fod ar gael.
Cludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff
Os byddwch yn trefnu i wastraff gael ei gasglu o'ch busnes neu'ch cartref, dylech sicrhau bod y busnes sy'n ei gasglu wedi'i gofrestru.
Mae cofrestriad gyda'r rheoleiddwyr yng Nghymru (CNC), Lloegr (Asiantaeth yr Amgylchedd), neu'r Alban (SEPA) yn ddilys yn unrhyw un o'r tair gwlad hyn. Holwch eich cludwr i weld lle maen nhw wedi'u cofrestru.
Nid oes angen i chi gael prawf wedi'i argraffu o gofrestriad cludwr.
Chwilio'r cofrestr cyhoeddus cludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff.
Cofrestr gyhoeddus ar-lein
Chwiliwch am ddogfennau cais a dogfennau cydymffurfio ar gyfer trwyddedau amgylcheddol gwastraff, ansawdd dŵr a diwydiannau rheoleiddiedig; trwyddedau adnoddau dŵr; a thrwyddedau morol, a lawrlwythwch y dogfennau hyn.
Efallai y bydd angen i chi lawrlwytho meddalwedd i weld rhai dogfennau ar ein system ar-lein - er enghraifft, os nad yw'ch system e-bost yn gydnaws ag Outlook. Os nad ydych chi am wneud hyn, neu os oes angen dogfen arnoch mewn fformat gwahanol neu fwy hygyrch, cysylltwch â ni.
I weld dogfennau o'r gofrestr gyhoeddus a dderbyniwyd gan gwsmeriaid, neu a grëwyd gennym ni, o 1 Medi 2018, ewch i'r gofrestr gyhoeddus ar-lein nawr.
I weld dogfennau o'r gofrestr gyhoeddus sy'n hŷn na 1 Medi 2018, defnyddiwch ein proses gofyn am wybodaeth am drwyddedau.
I gael gwybodaeth am drwyddedau gwastraff yn unig, gallwch hefyd edrych ar ein map gwastraff trwyddedig.
Trwyddedau gwastraff, ansawdd dŵr, adnoddau dŵr a gweithfeydd
Gweld manylion pob Trwydded Gwastraff, Ansawdd Dŵr, Adnoddau Dŵr a Gweithfeydd cyfredol a roddwyd yng Nghymru.
Gweld y gofrestr gyhoeddus ar gyfer Gwastraff, Ansawdd Dŵr, Adnoddau Dwr a Gweithfeydd
Eithriadau gwastraff ac ansawdd dŵr
Gweler manylion yr holl eithriadau gwastraff ac ansawdd dŵr a gofrestrwyd yng Nghymru ar y gofrestr gyhoeddus:
Gweld y gofrestr gyhoeddus ar gyfer eithriadau gwastraff ac ansawdd dŵr
Cofrestriadau cynhyrchydd gwastraff peryglus
Gweler manylion yr holl gofrestriadau Cynhyrchydd Gwastraff Peryglus yng Nghymru ar y Gofrestr Gyhoeddus.
Gweld y gofrestr gyhoeddus Cynhyrchydd Gwastraff Peryglus
Cyfleusterau triniaeth awdurdodedig ar gyfer cerbydau ar ddiwedd eu hoes
Gweler y daenlen isod ar gyfer cofrestr gyhoeddus CNC o cyfleusterau triniaeth awdurdodedig cerbydau ar ddiwedd eu hoes.
Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff (WEEE) cyfleuster trin awdurdodedig cymeradwy (AATF) ac allforwyr cymeradwy (AE)
Gweler y daenlen isod ar gyfer cofrestr gyhoeddus CNC o WEEE, AATFs ac AEs.
Delwyr metel sgrap
Gweler y daenlen am gofrestr gyhoeddus CNC o ddelwyr metel sgrap yng Nghymru.
Daw’r wybodaeth am ddelwyr metel sgrap ar ein cofrestr gyhoeddus o Awdurdodau Lleol yn uniongyrchol, sy’n gyfrifol am gywirdeb eu data.
Dim ond lletya’r gofrestr y mae CNC, ac felly os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch trwydded, dylech gysylltu â’ch Awdurdod Lleol.
Coed, coetiroedd a choedwigaeth
Ceisiadau ar gyfer cwympo coed
Rydym yn cyhoeddi manylion trwyddedau cwympo arfaethedig am gyfnod minimwm o bedair wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn gallwch weld y cynigion a rhoi sylwadau arnynt.
Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA)
Dan Reoliadau’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA) (Coedwigaeth) 1999 mae’n rhaid inni ddangos y penderfyniadau a wnawn ynghylch a fydd cynigion yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd.
Gweld yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ar gyfer y gofrestr coedwigaeth
Cynlluniau Adnoddau Coedwigoedd (FRP)
Darganfyddwch fanylion ynglŷn â sut yr ydym yn cymeradwyo cwympo coed ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru drwy Gynlluniau Adnoddau Coedwigoedd (FRP). Mae hyn yn caniatáu inni ddangos lefel reoleiddio gyfwerth ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru.
Gweld cofrestr Cynllun Adnoddau Coedwigoedd
Gwybodaeth bellach o’r gofrestr gyhoeddus a’r cynllun cyhoeddi trwyddedau
Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch o’r dolenni uchod gallwch gysylltu â’r tîm ymholiadau a fydd yn gallu dweud wrthych a yw’r wybodaeth rydych ei hangen ar gael a sut mae cael mynediad ati.
Nod Cynllun Cyhoeddi Trwyddedau CNC yw rhoi gwybodaeth am geisiadau am drwyddedau a phenderfyniadau. Mae’r ddogfen isod yn cynnwys manylion am yr hyn sydd ar gael ar gyfer yr holl gyfundrefnau trwyddedu y mae CNC yn gyfrifol amdanynt.
Gallwch weld a oes gan gwmni neu unigolyn ganiatâd, trwydded neu esemptiad i weithredu’n gyfreithlon ar gyfer unrhyw fath o weithgarwch arall rydym yn ei reoleiddio drwy gysylltu â’r tîm ymholiadau.
Ebost: enquiries@naturalresourceswales.gov.uk
Ffôn: 0300 065 3000 (Llun - Gwener 9am - 5pm)