Beth yw pympiau gwres?

Mae pympiau gwres yn gweithredu trwy gymryd y gwres cudd o ffynonellau aer a dŵr a chynyddu'r tymheredd gan ddefnyddio pympiau a yrrir gan drydan. Gall y dŵr poeth canlyniadol gael ei fwydo i rwydweithiau gwres lleol neu adeiladau unigol, gan ddarparu ffynhonnell carbon isel o wres adnewyddadwy i ardaloedd lleol. Gellir defnyddio pympiau gwres hefyd ar gyfer oeri trwy dynnu aer cynnes o'r eiddo.

Mathau o bympiau gwres

Pwmp gwres ffynhonnell aer

Mae pwmp gwres ffynhonnell aer yn tynnu aer o'r tu allan i gynhesu oerydd, sydd wedyn yn cael ei gylchredeg o amgylch y cartref, gan ddarparu gwres a dŵr poeth.

Nid oes gan CNC unrhyw rôl yn y gwaith o osod a gweithredu pympiau gwres ffynhonnell aer.

Pympiau gwres ffynhonnell dŵr (gan gynnwys pympiau gwres o'r ddaear)

Mae pympiau gwres ffynhonnell dŵr yn defnyddio dŵr o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys afonydd, camlesi, llynnoedd, mwyngloddiau segur, y môr a dyfrhaenau dŵr daear. Gall y math hwn o bwmp gwres fod yn “ddolen gaeedig” neu’n “ddolen agored”.

Mewn system dolen agored, mae dŵr yn cael ei dynnu o'r ffynhonnell ddŵr a'i basio trwy bwmp gwres cyn cael ei ollwng yn ôl i'r ffynhonnell ddŵr.

Mewn system dolen gaeedig, gosodir pibellau neu baneli cyfnewid gwres yn y ddaear neu gwrs dŵr ac mae cymysgedd dŵr/gwrthrewydd yn cael ei basio trwy'r pibellau, gan amsugno gwres o'r dŵr.

Effeithiau amgylcheddol posibl

Gall pob system pwmp gwres hefyd arwain at newidiadau tymheredd annymunol yn yr amgylchedd dŵr, gan effeithio ar ansawdd y dŵr neu’r ecoleg ddyfrol. Fodd bynnag, gellir lliniaru'r risgiau hyn.

Rydym yn annog systemau gwresogi ac oeri o’r ddaear (GSHC) sydd wedi’u rheoli’n dda ac sydd wedi’u dylunio i gyflwyno risg isel i’r amgylchedd a defnyddwyr dŵr eraill.

Y trwyddedau sydd eu hangen

Mae'r trwyddedau a'r caniatadau sydd eu hangen arnoch yn dibynnu ar a ydych yn gosod pwmp gwres o’r ddaear sy'n tynnu dŵr o'r ddaear neu bwmp gwres sy'n tynnu dŵr o afon, llyn neu nant.

Trwyddedau ar gyfer pympiau gwres ffynhonnell dŵr wyneb

Mae’n bosibl y bydd angen sawl trwydded ar gyfer unrhyw un sydd am osod pwmp gwres sy’n tynnu dŵr o lyn, nant neu afon. Efallai y bydd angen:

Os oes gennych system pwmp gwres dolen agored dŵr wyneb ar raddfa fach a’ch bod yn cydymffurfio â’r amodau isod, nid oes angen i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol i ollwng y dŵr oherwydd bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried ei fod yn risg isel.

Amodau y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â nhw:

  • defnyddir y system i wresogi neu oeri un eiddo domestig
  • mae’r dŵr yn cael ei ollwng i’r un corff dŵr wyneb ag y mae’n cael ei dynnu ohono – er enghraifft, afon neu nant, ac nid llyn neu bwll
  • nid yw cemegau glanhau yn cael eu gollwng i'r dŵr wyneb
  • ni ddefnyddir yr eiddo at ddibenion masnachol

Mae angen trwydded tynnu dŵr o hyd os yw'r system yn defnyddio mwy nag 20 metr ciwbig y dydd.

Os nad yw eich system dŵr wyneb yn bodloni’r meini prawf hyn, gwiriwch a allwch wneud cais am drwydded rheolau safonol isod. Os na allwch wneud hynny, rhaid i chi wneud cais am drwydded bwrpasol.

Trwyddedau gollwng dŵr rheolau safonol ar gyfer systemau dŵr wyneb

Efallai y gallwch wneud cais am drwydded rheolau safonol os ydych yn gollwng hyd at 1,000 metr ciwbig o ddŵr y dydd o'ch system pwmp gwres i ddŵr wyneb.

Mae gwneud cais am drwydded gollwng dŵr rheolau safonol fel arfer yn gyflymach a gall gostio llai na thrwydded bwrpasol.

Rhaid i chi allu cydymffurfio â holl amodau'r drwydded.

Os nad ydych yn bodloni amodau'r drwydded rheolau safonol, rhaid i chi wneud cais am drwydded bwrpasol.

Cyn i chi wneud cais am drwydded gollwng dŵr rheolau safonol

Cyn gwneud cais am drwydded rheolau safonol, rhaid gwneud y canlynol:

  • darllen amodau’r drwydded i wneud yn siŵr y gallwch gydymffurfio â nhw
  • gwirio a oes angen asesiad risg cadwraeth cyn cyflwyno cais am drwydded
  • darllen yr asesiad risg generig i ddeall y risgiau posibl a sicrhau y gellir eu rheoli'n effeithiol
  • darllen y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais a'r arweiniad ffurflen isod
  • gwirio eich bod yn bodloni gofynion y gweithredwr cyfreithiol
  • gwirio sut i reoli a monitro allyriadau – ond nid oes angen i chi gyflwyno unrhyw wybodaeth allyriadau fel rhan o gais am drwydded rheolau safonol
  • datblygu system reoli (set o weithdrefnau ysgrifenedig sy’n nodi ac yn lleihau’r risgiau o lygredd)

Cysylltwch â ni os ydych chi eisiau cyngor neu help gyda'ch cais.

Pryd i wneud cais am drwydded gollwng dŵr bwrpasol

Rhaid gwneud cais am drwydded bwrpasol i ollwng dŵr os oes gennych system dŵr wyneb dolen agored nad yw’n bodloni’r amodau uchod.

Pryd i wneud cais am drwydded amgylcheddol ar gyfer gweithgaredd perygl llifogydd

Rhaid i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol ar gyfer gweithgaredd perygl llifogydd os yw unrhyw ran o’ch cynllun arfaethedig yn ymwneud ag adeiladu:

  • o fewn, o dan, uwchben neu'n agos at brif afon (yn cynnwys lle mae'r afon mewn cwlfer)
  • ar neu gerllaw amddiffynfa rhag llifogydd ar brif afon neu ymhell ohoni
  • ar orlifdir prif afon
  • ar neu'n agos at amddiffynfa rhag y môr

Darllenwch fwy am wneud cais am drwydded gweithgaredd perygl llifogydd a darganfod a ydych yn agos at brif afon.

Os ydych yn gwneud gwaith i gwrs dŵr cyffredin yn hytrach na phrif afon, nid oes angen trwydded amgylcheddol arnoch ar gyfer gweithgareddau perygl llifogydd. Efallai y bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd draenio tir naill ai gan eich cyngor lleol neu fwrdd draenio mewnol os oes gennych un.

Dewch o hyd i'ch awdurdod lleol.

Darllenwch fwy am fyrddau draenio mewnol ac a oes gennych chi un.

Pympiau gwres o'r ddaear

Bydd angen y canlynol ar unrhyw un sydd am osod pwmp gwres o’r ddaear:

  • caniatâd ymchwiliad dŵr daear
  • trwydded tynnu dŵr (oni bai fod cyfaint y dŵr a dynnir yn llai nag 20 metr ciwbig y dydd)
  • trwydded amgylcheddol i ollwng y dŵr (neu esemptiad cofrestredig os yw’n bodloni’r meini prawf ar gyfer gweithgaredd risg isel)

Nid oes angen unrhyw ganiatâd gennym ni ar gyfer pympiau gwres dolen gaeedig o’r ddaear oherwydd, wrth weithredu’n arferol, nid ydynt yn cyflwyno llygryddion i'r ddyfrhaen. Fodd bynnag, rydym yn argymell yn gryf bod y systemau hyn yn defnyddio sylweddau nad ydynt yn beryglus i osgoi llygru dŵr daear os bydd gollyngiad. Os bydd gollyngiadau'n digwydd, gan arwain o bosib at lygryddion yn mynd i mewn i ddŵr daear, gallwn gyflwyno hysbysiadau i wahardd gollwng neu ofyn am drwydded.

Systemau pwmp gwres dolen agored o’r ddaear: esemptiadau

Mae’r systemau gwresogi ac oeri o’r ddaear a ganlyn wedi’u hesemptio rhag bod angen trwydded amgylcheddol ar gyfer gollwng dŵr:

  • system ddyfrhaen wedi'i hoeri â chyfaint o lai na 1,500 metr ciwbig y dydd
  • system gytbwys â chyfaint o lai na 430 metr ciwbig y dydd
  • system ddyfrhaen wedi'i chynhesu â chyfaint o lai na 215 metr ciwbig y dydd

Rhaid i chi gofrestru a gallu bodloni amodau'r esemptiad.

Amodau'r esemptiad

I fod yn gymwys ar gyfer yr esemptiad, mae'n rhaid i'r holl amodau canlynol fod yn berthnasol.

O ran y system:

  • bydd yn gollwng dŵr ar dymheredd na fydd yn uwch na 25°C ac ni fydd yn amrywio mwy na 10°C o’i gymharu â’r tymheredd yn y ddyfrhaen y cafodd ei dynnu ohoni.
  • nid yw ar safle halogedig hysbys neu ar un lle arferai gweithgareddau halogi ddigwydd – cysylltwch â'ch cyngor lleol i ddarganfod hyn.
  • bydd yn tynnu ac yn gollwng o fewn yr un ddyfrhaen.

Y dŵr o fewn y system:

  • ni fydd unrhyw beth yn cael ei ychwanegu ato – er enghraifft, ychwanegion a ddefnyddir ar gyfer digennu.
  • ni chaiff ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.

Ni fydd y system yn gollwng dŵr:

  • o fewn 50 metr o gwrs dŵr neu wlyptir sy’n cael ei fwydo â dŵr daear (er enghraifft, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) – cysylltwch â ni i ddarganfod hyn
  • o fewn 50 metr o unrhyw dyniad dŵr daear (er enghraifft, twll turio, ffynnon neu darddell) a ddefnyddir at unrhyw ddiben
  • o fewn a ddefnyddir i gyflenwi dŵr at ddibenion domestig neu gynhyrchu bwyd

Bydd angen i chi wirio gyda pherchnogion eiddo cyfagos i weld a oes ganddynt gyflenwad dŵr preifat neu fath arall o dynnu dŵr.

Trwydded bwrpasol

Bydd trwydded bwrpasol yn ofynnol os na ellir bodloni'r amodau hyn.

Mae'r esemptiad hwn ar gyfer y drwydded amgylcheddol ar gyfer gollwng dŵr yn unig; mae angen trwydded tynnu dŵr a chaniatâd ymchwiliad dŵr daear o hyd.

Caniatâd ymchwiliad dŵr daear

Bydd angen caniatâd ymchwiliad dŵr daear er mwyn ymchwilio i ffynhonnell dŵr daear cyn i chi ddrilio neu brofi unrhyw dyllau turio tynnu dŵr. Mae'r caniatâd hwn yn caniatáu i rywun ddarganfod pa ddŵr sydd ar gael ac a yw'n addas ar gyfer ei anghenion.

Darllenwch fwy am wneud cais am ganiatâd ymchwiliad dŵr daear.

Rhaid dylunio, adeiladu a datgomisiynu tyllau turio, ffynhonnau a chloddiadau mewn ffordd sy'n atal llygredd dŵr daear.

Os yw'r system yn caniatáu gwrthdroi’r llif (fel bod y pwynt gollwng yn dod yn bwynt tynnu), bydd angen caniatâd ymchwiliad dŵr daear ar gyfer pob twll turio.

Rhaid hefyd hysbysu Arolwg Daearegol Prydain cyn drilio unrhyw dyllau turio newydd.

Dylid defnyddio canlyniadau'r ymchwiliad hwn i gynhyrchu asesiad effaith dŵr daear i'w gyflwyno gydag unrhyw gais am drwydded tynnu dŵr yn y dyfodol. 

Trwydded tynnu dŵr

Ar ôl cwblhau ymchwiliadau, mae angen trwydded tynnu dŵr i barhau i dynnu dŵr daear os ydych yn tynnu mwy nag 20 metr ciwbig y dydd o ddŵr daear. Sylwch, hyd yn oed os yw'r ffynhonnell yn darparu digon o ddŵr, nid yw hyn yn golygu y rhoddir trwydded yn awtomatig.

Darllenwch fwy am wneud cais am drwydded tynnu dŵr.

 

Diweddarwyd ddiwethaf