Taliadau am drwyddedau tynnu a chasglu
Pa ffioedd y bydd yn rhaid i mi eu talu?
Mae tri math o ffi y gall fod angen i chi eu talu am geisiadau a thrwyddedau ar gyfer tynnu a chronni dŵr, fel a ganlyn:
- ffioedd ymgeisio
- ffioedd hysbysebu
- ffioedd blynyddol
Ni fyddwn yn gallu derbyn eich cais oni bai eich bod wedi talu'r ffi ymgeisio gywir.
Faint yw'r ffi ymgeisio?
Pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais, bydd angen i chi dalu ffi ymgeisio. Bydd y ffi ymgeisio sy'n ofynnol yn dibynnu ar yr hyn yr ydych yn gwneud cais yn ei gylch, fel y nodir isod.
- codir tâl o £6,517 ar gyfer cais am drwydded tynnu dŵr lawn (i dynnu dŵr dros gyfnod o 28 diwrnod neu fwy)
- codir tâl o £6,517 ar gyfer cais am drwydded drosglwyddo (ar gyfer tynnu dŵr o un ffynhonnell gyflenwad i ffynhonnell gyflenwad arall, lle na wneir defnydd ohono rhyngddynt, dros gyfnod o 28 diwrnod neu fwy)
- codir tâl o £6,517 ar gyfer cais am drwydded tynnu dŵr dros dro (ar gyfer tyniad dŵr untro dros gyfnod o lai na 28 diwrnod)
- cais am drwydded cronni yw £6,517
- cais i gael gwared ar groniad yw £4,955
- caniatâd ymchwiliad dŵr daear yw £1,961
- cais cynllun ynni dŵr yw £6,517
Ar gyfer ceisiadau lle mae angen Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, bydd tâl ychwanegol o £945.
Taliadau am newid (amrywio) trwydded
- Newid syml i drwydded tynnu dŵr yw £1,398
- Newid technegol i drwydded tynnu dŵr yw £4,955
- Newid syml i drwydded cronni yw £1,398
- Newid technegol i drwydded cronni yw £4,955
- Newid syml i drwydded ynni dŵr yw £1,398
- Newid technegol i drwydded ynni dŵr yw £4,955
- Y dosraniadau yw £1,398
- Mae adnewyddiadau yr un tymor yn £1,398
- Mae adnewyddu tymor gwahanol yn £1,398 os yn syml, £4,955 os yn llawn
Ffioedd blynyddol
Ni chodir taliadau blynyddol ar gyfer trwyddedau cronni dŵr, trwyddedau dros dro na thrwyddedau trosglwyddo.
Efallai y codir tâl blynyddol ar gyfer trwydded tynnu dŵr lawn. Bydd y swm y byddwch yn ei dalu'n dibynnu ar y canlynol:
- yr hyn yr ydych yn defnyddio’r dŵr ar ei gyfer
- y ffynhonnell yr ydych yn tynnu dŵr oddi wrthi
- y tymor pan ydych yn tynnu’r dŵr
Defnyddir sawl ffactor i gyfrifo swm y tâl blynyddol. Mae rhagor o fanylion ar gael ar ein gwefan codi taliadau, a gellir dod o hyd i fanylion am y ffactorau a'r cyfrifiadau yn ein cynllun taliadau tynnu dŵr. Caiff ein cynllun codi tâl ei ddiweddaru'n flynyddol.
Tynnu dŵr at ddibenion fel dyfrhau drwy chwistrellu
Os oes gennych drwydded ar gyfer tynnu dŵr ar gyfer dyfrhau drwy chwistrellu, mae'n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am gytundeb bilio tariff dwy ran unwaith y bydd eich trwydded wedi'i chyflwyno.
Os ydych yn dymuno gwneud cais am gytundeb bilio tariff dwy ran, bydd angen i chi gwblhau a chyflwyno'r ffurflen gais ar gyfer bilio tariff dwy ran.
Gweithgaredd Er Budd Amgylcheddol
Mae gweithgaredd sy'n llesol i'r amgylchedd yn weithgaredd anfasnachol yr ymgymerir ag ef yn gyfan gwbl er budd amgylcheddol. Gallai hyn gynnwys tynnu neu gronni yn benodol ar gyfer cadwraeth natur, dolydd dŵr neu symud cored.
Codir cyfradd ostyngol ar geisiadau i dynnu neu gronni ar gyfer gweithgareddau sy'n llesol i'r amgylchedd.
- Cost ceisiadau am drwyddedau tynnu dŵr newydd yw £140
- Cost ceisiadau am amrywiadau syml neu lawn i drwyddedau tynnu dŵr yw £140
- Cost ceisiadau am adnewyddu trwydded tynnu dŵr yw £140
- Cost ceisiadau am groniad newydd, trosglwyddiad neu drwydded dros dro yw £1,545
- Cost ceisiadau am amrywiadau syml i groniad neu i drosglwyddo trwydded yw £1,398
- Cost ceisiadau am amrywiad technegol i groniad neu i drosglwyddo trwydded yw £1,545
- Mae ceisiadau am ganiatâd ymchwiliad dŵr daear yn rhad ac am ddim
- Mae Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn rhad ac am ddim
- Mae gostyngiadau aml-weithgaredd hefyd yn berthnasol (gweler isod)
Gostyngiadau Aml-Weithgaredd
Bydd gostyngiadau’n berthnasol pan fydd mwy nag un cais (tyniad llawn, trosglwyddo neu gronni, newydd neu amrywiad) yn cael ei wneud ar yr un pryd gan yr un ymgeisydd ar gyfer yr un safle a diben.
Byddwn yn codi’r tâl ymgeisio llawn am y swm uchaf, ac yna’n rhoi:
- Gostyngiad o 90% ar gyfer pob cais ychwanegol sy'n rhan o'r un safle a diben ac o'r un ffynhonnell gyflenwi
- Gostyngiad o 50% ar gyfer pob cais ychwanegol sy'n rhan o'r un safle a diben ac o ffynhonnell gyflenwi wahanol.
Ceisiadau heb ddigon o fanylion i symud ymlaen
Pan fydd angen i ni ddychwelyd cais sydd heb ddigon o wybodaeth, byddwn yn cadw 10% o ffi’r cais i dalu am ein gwaith. Dim ond ar ôl i'r ymgeisydd gael cyfle i gyflenwi'r wybodaeth goll y caiff ceisiadau eu dychwelyd.
O 1 Ebrill 2023, byddwn yn cadw 10% o’r gost ar gyfer pob math o gais.
Ceisiadau a dynnir yn ôl
Os bydd cais yn cael ei dynnu'n ôl gan yr ymgeisydd, byddwn yn cadw 10% o ffi’r cais.
Os caiff cais ei dynnu’n ôl gan yr ymgeisydd ar ôl cyrraedd y cam dilysu, byddwn yn cadw ffi gyfan y cais.
Sut i dalu'r ffi ymgeisio
Rhaid talu'r ffi pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais a dogfennau ategol.
Gallwn ond dderbyn taliadau trwy gardiau Visa, MasterCard neu Maestro.
Os byddwch yn dewis talu trwy drosglwyddiad electronig (BACS), bydd angen i chi ddefnyddio'r wybodaeth ganlynol i wneud eich taliad. Bydd yn rhaid i chi ddefnyddio'r
cyfeirnod y gwnaethoch ei greu ar ddechrau'r ffurflen gais fel y cyfeirnod ar gyfer eich taliad BACS.
Enw’r cwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, BLWCH SP 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc, 2½ Devonshire Square, London, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif cyfrif: 10014438
Dylid gwneud sieciau ac archebion post yn daladwy i Cyfoeth Naturiol Cymru a’u croesi ‘a/c talai yn unig’. Ar gefn eich siec, dylech nodi enw eich cynnig a rhif cyfeirnod eich cais.
Gwneud taliadau o'r tu allan i'r DU
Rhaid derbyn taliadau mewn sterling.
Y rhif IBAN yw GB70 NWBK6070 8010 014438
Y rhif SWIFT/BIC yw NWBKGB2L
Os na fyddwch yn nodi rhif cyfeirnod eich taliad, efallai y bydd oedi wrth brosesu’ch taliad a’ch cais.
Faint yw'r ffi hysbysebu?
Mae'n bosibl y bydd angen hysbysebu eich cais am drwydded newydd neu gais am amrywiad i drwydded sydd gennych eisoes.
Byddwn yn penderfynu a fydd angen hysbysebu'r cynnig ar sail lleoliad eich safle
a'r perygl posibl a berir i'r amgylchedd neu i ddefnyddwyr eraill y dŵr.
Byddwn yn trefnu cyhoeddi'r hysbysiad mewn papur newydd lleol ac ar ein gwefan.
Os bernir bod angen hysbysebu, bydd angen i chi dalu ffi weinyddol o £103 i ni ynghyd â'r swm llawn ar gyfer cost yr hysbyseb ddwyieithog.
Mae costau hysbysebu'n amrywio rhwng papurau newydd, ond maent fel arfer rhwng £500 a £1,500.
Byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau p'un a fydd angen hysbysebu ac i ddarparu manylion y costau y bydd angen i chi eu talu.
Unwaith y bydd yr hysbyseb wedi'i gosod, byddwn yn eich anfonebu am y costau. Bydd yr anfoneb yn egluro sut i dalu'r costau hyn.