Gwneud cais i ddefnyddio tir yr ydym yn ei reoli: creu asesiad risg

Er mwyn gwneud cais i ddefnyddio tir yr ydym yn ei reoli, bydd angen i chi greu asesiad risg.

Byddwn yn gofyn i chi atodi eich asesiad risg gyda’ch cais.

Beth sydd angen ei gynnwys

Mae’n rhaid i’ch asesiad risg gynnwys y wybodaeth ganlynol o leiaf:

  • enw trefnydd y gweithgaredd
  • crynodeb o’r gweithgaredd (er enghraifft gyrru car a cheffyl neu feicio mynydd)
  • lleoliad y gweithgaredd
  • enw’r person sydd wedi paratoi’r asesiad risg
  • dyddiad cwblhau’r asesiad

Ar gyfer pob perygl, mae’n rhaid i chi nodi’r canlynol:

  • pwy allai gael ei niweidio
  • dulliau rheoli y byddwch yn eu rhoi ar waith
  • could be harmed
  • controls you will put in place
  • the risk rating for severity, likelihood of harm and level of risk

Enghraifft

Perygl

Pwy allai gael ei niweidio

Difrifoldeb (1-5)

Tebygolrwydd (1-5)

Lefel y risg (1-5)

Mesurau rheoli

Drain, danadl poethion, brigau

Oedolion sy’n cymryd rhan

1

1

1

Annog ymwybyddiaeth ymysg cyfranogwyr, cadw pecyn cymorth cyntaf wrth law, arsylwi



Gwneud cais i ddefnyddio tir yr ydym yn ei reoli

Diweddarwyd ddiwethaf