Species licensing charges
Rydym yn cyflwyno ffioedd am rai trwyddedau rhywogaethau. Codir tâl am drwyddedau oni bai fod un o'n hepgoriadau yn berthnasol.
Trwyddedau arolygu, gwyddoniaeth, addysg, ffotograffiaeth a chadwraeth
Ni fyddwn yn codi tâl am drwyddedau ar gyfer gwaith gwirfoddol, cadwraeth, gwyddoniaeth, ymchwil neu addysgiadol.
Byddwn yn codi tâl am drwyddedau ar gyfer unrhyw ddefnydd arall, megis arolygon ar gyfer gwaith datblygu neu ffotograffiaeth fasnachol.
Ni fydd eich trwydded yn ddilys ar gyfer unrhyw waith masnachol â thâl os byddwn yn rhoi eich trwydded o dan hepgoriad.
Mae ffi sefydlog o £137 ar y trwyddedau canlynol oni bai fod hepgoriad yn berthnasol:
- trwydded i ladd, cymryd, aflonyddu, neu feddu ar unrhyw anifail gwyllt, gan gynnwys ystlumod, ar gyfer arolwg, cadwraeth, prosiect, a meddiant dros dro
- adnewyddu trwydded arolwg rhywogaethau
- trwydded i aflonyddu, meddiannu neu ladd adar gwyllt at ddibenion gwyddonol, addysgol a chadwraeth ac at ddibenion modrwyo neu farcio neu archwilio unrhyw fodrwy neu farc ac at ddibenion ffotograffig
Codir tâl sefydlog o £76 ar gyfer newidiadau i'r trwyddedau uchod. Ni fydd yn rhaid i chi dalu hwn os bydd hepgoriad yn berthnasol i’ch trwydded.
Os gwnaethoch gais am eich trwydded cyn i ni gyflwyno’r taliadau, bydd angen i chi dalu am unrhyw ddiwygiadau, oni bai eich bod wedi’ch esemptio o dan un o’n hepgoriadau.
Trwyddedau datblygu
Byddwn yn codi tâl am drwyddedau os ydych yn cyflawni unrhyw ddatblygiadau lleol neu ddatblygiadau mawr ar dir neu yn yr amgylchedd morol.
Byddwn yn codi cyfradd fesul awr am unrhyw ddatblygiadau mawr, yn seiliedig ar raddfa a chymhlethdod y cais a gyflwynir.
Ni fyddwn yn codi tâl am drwyddedau os ydych yn cyflawni:
- datblygiadau cartref
- datblygiadau a ganiateir ar dir
- cynnal a chadw eiddo nad oes angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer
- datblygiad sy'n darparu mynediad a chyfleusterau i bobl anabl
Os nad ydych yn siŵr ym mha gategori y mae eich gwaith, gallwch ofyn i'ch swyddog cynllunio lleol, neu darllenwch Lawlyfr Rheoli Datblygu Llywodraeth Cymru.
Codir tâl sefydlog o £994 am drwyddedau sy'n galluogi datblygiadau lleol.
Codir tâl hyblyg o £125 yr awr (wedi’i dalgrynnu i’r 15 munud agosaf) am drwyddedau os ydych yn cyflawni unrhyw ddatblygiadau mawr neu brosiectau seilwaith o bwys cenedlaethol, gan gynnwys y rheini yn yr amgylchedd morol.
Codir tâl sefydlog o £76 am newidiadau i'r trwyddedau uchod am newidiadau gweinyddol megis newid deiliad y drwydded, yr ecolegydd, asiantiaid achrededig neu fanylion personol. Ystyrir bod pob newid arall yn gymhleth a chodir tâl fesul awr o £125. Ni fydd yn rhaid i chi dalu hwn os bydd hepgoriad yn berthnasol i’ch trwydded.
Os gwnaethoch gais am eich trwydded cyn i ni gyflwyno’r taliadau, bydd angen i chi dalu am unrhyw ddiwygiadau, oni bai eich bod wedi’ch esemptio o dan un o’n hepgoriadau.
Rhyddhau rhywogaeth anfrodorol at ddibenion rheoli biolegol
Codir tâl hyblyg o £125 yr awr (wedi'i dalgrynnu i'r 15 munud agosaf) am drwyddedau i ryddhau rhywogaeth anfrodorol ar gyfer rheoli biolegol.
Ni fyddwn yn codi tâl am drwyddedau os ydych yn rhyddhau rhywogaeth anfrodorol at y dibenion canlynol:
- ar gyfer prosiect cadwraeth penodol
- i reoli rhywogaeth anfrodorol yn y gwyllt
Gweithrediadau coedwigaeth a choetir y mae angen trwyddedau rhywogaethau ar eu cyfer
Byddwn yn codi tâl am drwyddedau os ydych yn cyflawni unrhyw weithgaredd coedwigaeth masnachol.
Byddwn yn codi cyfradd fesul awr yn seiliedig ar raddfa a chymhlethdod y cais a gyflwynir.
Ni chodir tâl am drwyddedau:
- pan mai’r prif ddiben yw gwaith cadwraeth
- pan fyddant yn angenrheidiol ar gyfer iechyd a diogelwch
- pan mai’r prif ddiben yw atal clefydau rhag lledaenu
- neu ar gyfer unrhyw ddiben arall a gwmpesir gan hepgoriad
Codir tâl hyblyg o £125 yr awr (wedi'i dalgrynnu i'r 15 munud agosaf) os ydych yn gwneud unrhyw weithgarwch coedwigaeth masnachol.
Codir tâl sefydlog o £76 am newidiadau i'r trwyddedau uchod am newidiadau gweinyddol megis newidiadau i ddeiliad y drwydded, yr ecolegydd, asiantiaid achrededig neu fanylion personol. Ystyrir bod pob newid arall yn gymhleth a chodir tâl fesul awr o £125. Ni fydd yn rhaid i chi dalu hwn os bydd hepgoriad yn berthnasol i’ch trwydded.
Os gwnaethoch gais am eich trwydded cyn i ni gyflwyno’r taliadau, bydd angen i chi dalu am unrhyw ddiwygiadau, oni bai eich bod wedi’ch esemptio o dan un o’n hepgoriadau.
Canllawiau ar daliadau am ddatblygiadau mawr a choedwigaeth fasnachol
Bydd nifer o ffactorau yn effeithio ar yr amser a gymerir i asesu cais, ac mae enghreifftiau a all arwain at gostau uwch yn cynnwys y canlynol:
- gwaith ar adeiladau/safleoedd lluosog ac sy'n cynnwys gwahanol rywogaethau
- gwaith yn ystod amseroedd sensitif ar gyfer rhywogaethau
- seilwaith llinol / gweithrediadau coedwigaeth a allai arwain at ddarnio cynefinoedd
- prosiectau sy'n cynnwys dulliau newydd, anarferol neu ddadleuol
- cais a gafodd ei ohirio oherwydd manylion anghyflawn neu anghywir
- datblygiadau graddol neu aml-blot / gwaith coedwigaeth aml-lannerch
- ceisiadau diwygio gyda materion diffyg cydymffurfio ar y drwydded wreiddiol
- ceisiadau sy’n effeithio ar safle gwarchodedig
- ceisiadau diwygio a dderbyniwyd yn ystod y broses benderfynu
Meddiannu, gwerthu neu gyfnewid trwyddedau rhywogaethau a warchodir
Os yw eich trwydded at ddibenion masnachol, codir tâl am hyn.
Mae tâl sefydlog o £137 ar y trwyddedau canlynol, oni bai fod hepgoriad yn berthnasol:
- trwydded ar gyfer meddu ar rywogaethau
- trwydded i gludo, gwerthu neu gyfnewid rhywogaeth warchodedig (neu ran sy’n deillio ohoni)
- trwydded i werthu neu gyfnewid unrhyw blanhigyn gwyllt (neu ran sy’n deillio ohono)
- trwydded i godi, casglu, torri, dadwreiddio neu ddinistrio planhigyn gwyllt
Ni chodir tâl am drwydded i feddu ar sbesimenau marw at ddibenion ymchwil, dibenion addysgiadol, nac at ddibenion unrhyw arddangosfa gyhoeddus.
Trwyddedau moch daear
Rydym yn gyfrifol am ddyroddi pum math o drwyddedau moch daear.
Byddwn yn codi tâl am drwyddedau os ydych yn cyflawni unrhyw ddatblygiadau lleol neu fawr.
Ni fyddwn yn codi tâl am y trwyddedau canlynol:
- trwydded at ddiben gwyddoniaeth, addysg, a chadwraeth, modrwyo neu farcio
- trwydded i ymyrryd â brochfeydd moch daear er mwyn cadw heneb gofrestredig neu gynnal ymchwiliad archaeolegol iddi
- trwydded i ymyrryd â brochfeydd moch daear er mwyn rheoli llwynogod i warchod bywyd gwyllt
- trwydded i ymyrryd â brochfeydd moch daear er mwyn ymchwilio i droseddau
Ni fyddwn yn codi tâl am drwyddedau os ydych yn cyflawni:
- datblygiadau cartref
- datblygiadau a ganiateir
- datblygiad sy'n darparu mynediad a chyfleusterau i bobl anabl
Codir tâl sefydlog o £637 am drwyddedau.
Codir tâl sefydlog o £76 am newidiadau gweinyddol i'r trwyddedau uchod, megis newid y trwyddedai, yr ecolegydd, yr asiantiaid achrededig neu newid manylion personol. Ystyrir pob newid arall yn rhai cymhleth a chodir tâl o £125 fesul awr. Ni fydd rhaid i chi dalu hwn os bydd hepgoriad yn berthnasol i’ch trwydded.
Ceisiadau wedi'u tynnu'n ôl neu wedi eu gwrthod
Ni fyddwn yn codi tâl arnoch os:
- byddwn yn gwrthod eich cais
- byddwch yn tynnu eich cais yn ôl
Os byddwch yn tynnu eich cais yn ôl cyn i ni wneud penderfyniad ar eich cais am drwydded, ni fydd unrhyw dâl.
Sut i dalu
Pan fyddwn yn derbyn eich cais, byddwn yn rhoi gwybod i chi faint fydd angen i chi ei dalu. Bydd y swm y byddwn yn ei godi yn dibynnu ar eich cais. Os byddwn yn rhoi trwydded i chi, byddwn wedyn yn anfon manylion atoch ynghylch sut i dalu.
Mae taliadau trwyddedu rhywogaethau wedi'u heithrio rhag TAW.
Pan fyddwn yn derbyn eich cais, byddwn yn rhoi gwybod i chi faint fydd angen i chi ei dalu. Bydd y swm y byddwn yn ei godi yn dibynnu ar eich cais. Os byddwn yn rhoi trwydded i chi, byddwn wedyn yn anfon manylion atoch ynghylch sut i dalu.