DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I'R ARFORDIR 2009

RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007

HYSBYSIAD O BENDERFYNIAD CANIATÂD ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL

Amrywiad i drwydded forol ORML1938, Parth Arddangos Morlais

Rhoddir hysbysiad trwy hyn fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 fel y’u diwygiwyd (‘y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol’) mewn perthynas â Parth Arddangos Morlais. Yn unol â Rheoliad 22 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu rhoi cymeradwyaeth asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect yn amodol ar osod amodau.

Mae cadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gael i'r cyhoedd ei archwilio ar gofrestr gyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r cadarnhad ysgrifenedig yn cynnwys y prif resymau ac ystyriaethau yr oedd y penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol yn seiliedig arnynt, crynodeb o'r ymgynghoriadau yr ymgymerwyd â hwy a'r wybodaeth a gasglwyd, casgliad am effeithiau'r prosiect ar yr amgylchedd, yr amodau sydd ynghlwm wrth y penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol a gwybodaeth am ymgynghoriadau a chyfranogiad cyhoeddus.

Mae’r cadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gael i'r cyhoedd ei archwilio ar gofrestr gyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru. Gallwch hefyd gael copïau o'r penderfyniad rheoleiddiol drwy e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Os gofynnir am gopïau caled, efallai bydd yn rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru'n parhau i wneud penderfyniad rheoleiddiol mewn perthynas â'r cais am drwydded forol.

 

HYSBYSIAD CYHOEDDUS

DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I'R ARFORDIR 2009

RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007

HYSBYSIAD O BENDERFYNIAD RHEOLEIDDIOL ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL

Amrywiad i drwydded forol ORML1938, Parth Arddangos Morlais

Hysbysir trwy hyn fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud ei benderfyniad rheoleiddiol o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 a Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 fel y’u diwygiwyd (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”) o ran y prosiect uchod. Yn unol â Rheoliad 24 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol a Rhan 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu rhoi cymeradwyaeth reoleiddiol ar gyfer y prosiect yn amodol ar osod amodau.

Mae copi ysgrifenedig o'r penderfyniad rheoleiddiol ar gael i'r cyhoedd ei archwilio ar gofrestr gyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru. Gallwch hefyd gael copïau o'r penderfyniad rheoleiddiol drwy e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Os gofynnir am gopïau caled, efallai bydd yn rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.

Diweddarwyd ddiwethaf