HYSBYSIAD CYHOEDDUS

DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I'R ARFORDIR 2009

RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007

HYSBYSIAD O BENDERFYNIAD RHEOLEIDDIOL

Gwaith Carthu Agregau yn Nyfnfor Gogledd Bryste (Ardal 531)

Hysbysir trwy hyn fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymgymryd â phenderfyniad rheoleiddiol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 fel y’u diwygiwyd (y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol) o ran y prosiect uchod.

Yn unol â Rheoliad 10 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu rhoi cymeradwyaeth reoleiddiol ar gyfer y prosiect yn amodol ar osod amodau.

Mae copi ysgrifenedig o'r penderfyniad rheoleiddiol ar gael i'r cyhoedd ei archwilio ar gofrestr gyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru https://publicregister.naturalresources.wales/. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais MMML1948. Yng ngoleuni’r sefyllfa iechyd cyhoeddus gyfredol gyda golwg ar Coronafirws (COVID-19) ni fydd copi caled o’r cais a dogfennau ategol ar gael mewn man cyhoeddus yn y cyfnod hwn’

Gallwch hefyd gael copïau o'r penderfyniad rheoleiddiol drwy e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Os gofynnir am gopïau caled, efallai bydd yn rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009.

Diweddarwyd ddiwethaf