CML2365 Prosiect Cludo a Storio Carbon Deuocsid Hynet - Ar y môr
HYSBYSIAD CYHOEDDUS
DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I'R ARFORDIR 2009
RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007
HYSBYSIAD O BENDERFYNIAD RHEOLEIDDIOL ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL
PROSIECT CLUDO A STORIO CARBON DEUOCSID HYNET – AR Y MÔR
Hysbysir trwy hyn fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud ei benderfyniad rheoleiddiol o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 a Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 fel y’u diwygiwyd (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”) o ran y prosiect uchod. Yn unol â Rheoliad 24 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol a Rhan 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu rhoi cymeradwyaeth reoleiddiol ar gyfer y prosiect yn amodol ar osod amodau.
Mae copi ysgrifenedig o'r penderfyniad rheoleiddiol ar gael i'r cyhoedd ei archwilio ar gofrestr gyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r penderfyniad rheoleiddiol ar gael i'r cyhoedd ei archwilio am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol rhwng 9am a 5pm yn Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NQ.
Gallwch hefyd gael copïau o'r penderfyniad rheoleiddiol ar ein Cofrestr Gyhoeddus ar https://publicregister.naturalresources.wales gan ddefnyddio'r rhif cais CML2365 neu drwy e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Os gofynnir am gopïau caled, efallai bydd yn rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.
DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I'R ARFORDIR 2009
RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007
HYSBYSIAD O BENDERFYNIAD CANIATÂD ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL
PROSIECT CLUDO A STORIO CARBON DEUOCSID HYNET – AR Y MÔR
Rhoddir hysbysiad trwy hyn fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 fel y’u diwygiwyd (‘y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol’) mewn perthynas â Gyfer Prosiect Cludo A Storio Carbon Deuocsid Hynet – Ar Y Môr. Yn unol â Rheoliad 22 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu rhoi cymeradwyaeth asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect yn amodol ar osod amodau.
Mae cadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gael i'r cyhoedd ei archwilio ar gofrestr gyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r cadarnhad ysgrifenedig yn cynnwys y prif resymau ac ystyriaethau yr oedd y penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol yn seiliedig arnynt, crynodeb o'r ymgynghoriadau yr ymgymerwyd â hwy a'r wybodaeth a gasglwyd, casgliad am effeithiau'r prosiect ar yr amgylchedd ac yr amodau sydd ynghlwm wrth y penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol.
Mae’r cadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gael i'r cyhoedd ei archwilio yn ystod oriau swyddfa arferol, sef 9am tan 5pm, yn y Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NQ NEU Flint Library Church Street, Flint, CH6 5AP.
Gallwch hefyd gael copïau o’r cadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar-lein o https://cofrestrgyhoeddus.cyfoethnaturiol.cymru/ neu drwy e-bostio CNC yn marinelicensingpermittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Os gofynnir am gopïau caled, efallai y byddwn yn codi tâl i dalu am y gost o greu copïau nad yw'n fwy na'r gost resymol o wneud hyn.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru'n parhau i wneud penderfyniad rheoleiddiol mewn perthynas â'r cais am drwydded forol.