HYSBYSIAD O BENDERFYNIAD CANIATÂD ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL CEBL RHYNGYSYLLTU GREENLINK CML1929

Rhoddir hysbysiad trwy hyn fod Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”) wedi cynnal asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 fel y’u diwygiwyd (‘y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol’) mewn perthynas â Chebl Rhyngysylltu Greenlink. Yn unol â Rheoliad 22 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol, mae CNC wedi penderfynu rhoi cymeradwyaeth asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect yn amodol ar osod amodau..

Mae cadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gael i'r cyhoedd ei archwilio ar gofrestr gyhoeddus CNC. Mae'r cadarnhad ysgrifenedig yn cynnwys y prif resymau ac ystyriaethau yr oedd y penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol yn seiliedig arnynt, crynodeb o'r ymgynghoriadau amgylcheddol yr ymgymerwyd â hwy a'r wybodaeth a gasglwyd, casgliad am effeithiau'r prosiect ar yr amgylchedd, a’r amodau sydd ynghlwm wrth y penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol.

Mae’r cadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gael i'r cyhoedd ei archwilio yn rhad ac am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol, sef 9am tan 5pm, yn y Gwasanaeth Trwyddedu, Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP.

Gallwch hefyd gael copïau o’r cadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar-lein yn https://publicregister.naturalresources.wales/ neu drwy e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Os gofynnir am gopïau caled, efallai y byddwn yn codi tâl i dalu am y gost o greu copïau nad yw'n fwy na'r gost resymol o wneud hyn. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Bydd CNC yn parhau i wneud penderfyniad rheoleiddiol mewn perthynas â'r cais am drwydded forol.

HYSBYSIAD O BENDERFYNIAD RHEOLEIDDIOL ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL CEBL RHYNGYSYLLTU GREENLINK CML1929

Hysbysir trwy hyn fod Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”) wedi gwneud ei benderfyniad rheoleiddiol o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 a Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 fel y’u diwygiwyd (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”) o ran y prosiect uchod. Yn unol â Rheoliad 24 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol a Rhan 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, mae CNC wedi penderfynu rhoi cymeradwyaeth reoleiddiol ar gyfer y prosiect yn amodol ar osod amodau.

Mae copi ysgrifenedig o'r penderfyniad rheoleiddiol ar gael i'r cyhoedd ei archwilio ar gofrestr gyhoeddus CNC. Mae'r penderfyniad rheoleiddiol ar gael i'r cyhoedd ei archwilio am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol rhwng 9am a 5pm yng Ngwasanaeth Trwyddedu Caerdydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd CF24 0TP.

Gallwch hefyd gael copïau o'r penderfyniad rheoleiddiol o https://publicregister.naturalresources.wales/ neu drwy e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Os gofynnir am gopïau caled, efallai bydd yn rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol.

Mae CNC yn awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. 

Diweddarwyd ddiwethaf