Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Dŵr Cymru Cyfyngedig

Cais am drwydded amgylcheddol arbennig newydd dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Rhif y cais: PAN-021630
Math o gyfleuster rheoledig: Gwaith Trin Dŵr
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Pilleth Water Treatment Works, Whitton, Nr. Knighton, Powys, LD7 1NP
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr ollyngfa: SO 25364 67719
Yr ardal ddyfrol sy’n derbyn: Rhagnant ddienw Afon Lugg
Math o elifiant: Elifiant masnachol (ysbeidiol)
Cyfaint: 2000 metr ciwbig y dydd

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus arlein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r manylion cais uchod. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 05 Medi 2025

Ebost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays
Cardiff
CF10 3NQ

Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf