Cyfranogiad y cyhoedd: sut y gallwch gymryd rhan yn ein hymgynghoriadau ar drwyddedau

Pam a phryd rydym yn ymgynghori

Ein diben yw sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru'n cael eu rheoli, eu gwella a'u defnyddio’n gynaliadwy, yn awr ac yn y dyfodol. Mae ein cyfrifoldebau presennol yn rhoi cyswllt uniongyrchol i ni â thua 1,700 o safleoedd diwydiannol, gwastraff a dŵr ledled Cymru. Rydym hefyd yn rhoi dros 10,000 o drwyddedau, 65,000 o drwyddedau pysgota â gwialen, 480 o drwyddedau cwympo coed a 100 o drwyddedau morol bob blwyddyn.

Mae'r Datganiad Cyfranogiad y Cyhoedd hwn yn canolbwyntio ar y prif dimau o fewn y gwasanaeth trwyddedu sy’n cynnal ymgynghoriadau fel rhan o'u proses o wneud penderfyniadau.  Nid yw'n ymdrin â'r holl weithgareddau trwyddedu a chaniatâd y mae CNC yn eu cynnal, er enghraifft, nid yw'n cynnwys caniatâd Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), esemptiadau na thrwyddedau pysgota â gwialen.

Mae ein rôl reoliadol wedi'i sefydlu drwy gymysgedd o Gyfarwyddebau Ewropeaidd a deddfwriaethau a pholisïau'r DU sy'n nodi’r mathau o weithgareddau rydym yn eu rheoleiddio, ac sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni gyflawni dyletswyddau penodol fel rhoi  trwyddedau, gwirio cydymffurfedd a chyflawni gwaith monitro.  Rydym yn ymgynghori ar geisiadau penodol er mwyn cydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol ac ar unrhyw geisiadau y mae’n briodol i ni gynnal ymgynghoriad arnynt yn ein barn ni, p'un a oes gofyniad cyfreithiol i ymgynghori ai peidio. 

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymgynghori ar geisiadau am drwyddedau pwrpasol newydd ar gyfer y canlynol:

  • gosodiadau
  • cyfleusterau gwastraff (a'r rheiny sy'n cynnwys gwastraff o weithgareddau mwyngloddio)
  • ansawdd dŵr
  • adnoddau dŵr (sylwer: Rydym yn meddu ar y pŵer i atal gofynion ymgynghori ar gyfer rhai ceisiadau)
  • gweithgareddau sy'n ymwneud â sylweddau ymbelydrol (heblaw am ffynonellau wedi'u selio)
  • gweithgareddau gweithfeydd hylosgi canolig / generaduron penodol (dim ond pan fyddwn o'r farn y gall gweithrediad y cyfleuster rheoleiddiedig gael effeithiau negyddol sylweddol ar fodau dynol neu'r amgylchedd)
  • ceisiadau amrywiad sylweddol (gosodiadau yn unig)
  • ceisiadau am drwyddedau morol (ac eithrio ceisiadau band 1)

Nid yw'n ofynnol yn gyfreithiol i ni gynnal ymgynghoriad fel rhan o'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer y canlynol:

  • trwyddedau gweithgarwch perygl llifogydd
  • trwyddedau ar gyfer rhywogaethau
  • ceisiadau am drwyddedau morol band 1

Fodd bynnag, mae'n bosibl y byddwn yn ymgynghori ar geisiadau ar gyfer y trefniadau hyn os  teimlwn y gallent fod o ddiddordeb mawr gan y cyhoedd. 

Nid ydym ychwaith yn ymgynghori ar geisiadau ar gyfer trwyddedau rheolau safonol nac unrhyw rannau o gais sy'n gyfrinachol yn fasnachol neu sy'n manylu ar reolaethau diogelwch gwladol.

Nid yw'n ofynnol yn gyfreithiol i ni gynnal ymgynghoriadau fel rhan o'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer ceisiadau am drwydded cwympo coed ac wrth i ni ddod i'n penderfyniad o ran a oes angen asesiad o’r effaith amgylcheddol ar brosiect. Fodd bynnag, rydym yn cyhoeddi ceisiadau ar gyfer y trefniadau hyn.

Sut rydym yn gwneud ein penderfyniadau

Mae ein penderfyniadau ynghylch p'un a ddylid rhoi neu wrthod trwydded yn cael eu diffinio gan ofynion cyfreithiol.  Mae'n ofynnol i ni gyfiawnhau ein penderfyniad o fewn terfynau cyfyngiadau'r gyfraith. 

Mae ein trwyddedau a'n caniatadau'n cynnwys amodau sy'n gwarchod yr amgylchedd a phobl. Rydym yn gosod cyfyngiadau a therfynau ar weithgareddau y mae angen i ni eu rheoli a, lle y bo angen, rydym yn gofyn bod allyriadau aer, dŵr a thir yn cael eu monitro.  Rydym yn ystyried amrywiaeth o faterion gan gynnwys, er enghraifft, unrhyw effaith bosibl ar lywio a'r effaith bosibl o ddefnydd dilys o’r môr ar gyfer trwyddedu morol, effeithiau ar berygl llifogydd a draenio ar gyfer trwyddedau gweithgarwch perygl llifogydd a diogelu safleoedd gorffwys a bridio rhag aflonyddwch, difrod a difetha ar gyfer trwyddedau rhywogaethau.   

Yn gyfreithiol, rhaid i ni roi trwydded os gall yr ymgeisydd ddangos y bydd yr holl ofynion cyfreithiol yn cael eu bodloni. Ni allwn wrthod cais yn gyfreithiol oherwydd gwrthwynebiad lleol i'r gweithgarwch yn unig.

A yw trwyddedau'r un peth â chaniatâd cynllunio?

Mae ein gwaith a'n penderfyniadau yn cael eu hystyried ar wahân i'r broses gynllunio. Maent yn ymddangos yn debyg i ganiatâd cynllunio mewn rhai agweddau ond maent yn brosesau a chaniatadau ar wahân ac annibynnol.

Yn aml, bydd angen i ymgeiswyr gael trwydded gennym ni a chaniatâd cynllunio gan yr awdurdod lleol i weithredu (ac efallai y bydd yr awdurdod lleol yn cysylltu â ni fel ymgynghorai), ond gellir gwneud cais am bob un a'i rhoi heb y llall  ac nid yw cael un drwydded o reidrwydd yn golygu y bydd y llall hefyd yn cael ei rhoi, ac eithrio trwyddedu rhywogaethau lle mae'n rhaid rhoi caniatâd cynllunio cyn gwneud cais am drwydded.

Rôl trwyddedu

Trwyddedu amgylcheddol gan gynnwys trwyddedau gweithgarwch perygl llifogydd

Mae ein penderfyniadau ynghylch trwyddedu'n ystyried cynllun a gweithrediad y prosesau er mwyn atal llygredd a lleihau'r effaith ar yr amgylchedd ac iechyd dynol. 

Hefyd, rhaid i'n penderfyniadau trwyddedu gweithgareddau perygl llifogydd reoli perygl llifogydd ac effeithiau draenio yn ogystal â'r uchod.

Ceisiadau coedwigaeth

Mae gofyn i'n penderfyniadau o ran rhoi trwyddedau coedwigaeth warchod yr amgylchedd a sicrhau bod yr adnoddau coedwig yng Nghymru yn cael eu rheoli’n gynaliadwy ac yn unol ag egwyddorion Safon Coedwigaeth y DU.

Adnoddau dŵr

Mae gofyn i'n penderfyniadau o ran rhoi trwyddedau adnoddau dŵr ystyried y sawl sy’n defnyddio dŵr yn gyfreithlon, hawliau gwarchodedig a'r amgylchedd. 

Trwyddedu morol

Mae gofyn i'n penderfyniadau o ran rhoi trwyddedau morol ystyried yr angen i warchod yr amgylchedd, iechyd dynol ac atal ymyrraeth â defnyddiau dilys o’r môr.

Trwyddedu rhywogaethau

Ar gyfer ceisiadau a dderbynnir o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, rhaid inni ystyried y pwrpas, e.e. rhesymau hanfodol sef er budd cyhoeddus tra phwysig, a oes unrhyw opsiynau boddhaol eraill; a phe bai camau gweithredu'n cael eu hawdurdodi, na fydd yn niweidiol i'r gwaith o gynnal poblogaeth y rhywogaeth dan sylw ar statws cadwraeth ffafriol yn eu hystod naturiol.

Ar gyfer ceisiadau a dderbynnir o dan y ddeddfwriaeth arall rydym yn eu trwyddedu, e.e. Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd), rhaid i ni sicrhau bod y diben yn bodloni'r meini prawf o fewn y ddeddfwriaeth berthnasol a phe bai camau gweithredu'n cael eu hawdurdodi, na fydd yn cael effaith niweidiol ar statws poblogaeth y rhywogaeth dan sylw.

Ar gyfer ceisiadau o dan Orchymyn Rhywogaethau Goresgynnol Estron 2019, rhaid i ni sicrhau bod y diben yn bodloni'r meini prawf penodedig o fewn y ddeddfwriaeth berthnasol.

Ein cylch gwaith rheoliadol

Rydym yn aml yn derbyn sylwadau ar faterion nad ydynt o fewn ein cylch gwaith cyfreithiol. Golyga hyn na allwn ganiatáu i'r sylwadau hyn ddylanwadu ar ein penderfyniad.  Isod, ceir enghreifftiau o asesiadau sydd naill ai o fewn ein cylch gwaith cyfreithiol neu y tu allan iddo. Mae ein timau i gyd yn ystyried yr effaith bosibl ar yr amgylchedd, cynefinoedd a safleoedd dynodedig, e.e. Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig mewn perthynas â chais.  Fodd bynnag, sylwer ei bod yn bosibl na fydd yr enghreifftiau canlynol yn berthnasol i bob tîm, trefn neu gais. 

Rheoliadau trwyddedu amgylcheddol gan gynnwys trwydded gweithgarwch perygl llifogydd

Mae'r canlynol yn cael eu cynnwys yn ein cylch gwaith:

  • Cymhwysedd y gweithredwr arfaethedig i fodloni amodau trwyddedau
  • Unrhyw gyfyngiad allyriadau arfaethedig i aer, tir a dŵr
  • Effeithiau posibl ar iechyd a’r amgylchedd lleol
  • Rheolaeth weithredol gyffredinol y cyfleuster arfaethedig
  • Cynlluniau atal a lliniaru tân
  • Trin a storio unrhyw wastraff a deunyddiau craidd
  • Defnydd effeithlon o unrhyw ddeunyddiau crai, dŵr ac ynni
  • Rheoli unrhyw arogl, sŵn, llwch, sbwriel a phlâu
  • Unrhyw ffactorau lleol perthnasol y credwch nad yw'r ymgeisydd wedi'u hystyried yn ei gais
  • Proses fonitro, gweithdrefnau a safonau y cytunwyd arnynt
  • Perygl llifogydd - gwaith sy'n cael ei gynnal y tu fewn, uwchben, oddi tano neu o fewn gorlifdir prif afon, gan gynnwys y rheiny sy'n debygol os achosi difrod i lannau afonydd, difrodi / newid gwaith rheoli afonydd, dargyfeirio neu rwystro dŵr o lifogydd a fyddai'n cynyddu llifogydd yn rhywle arall ac unrhyw waith a fyddai’n ymyrryd â'n mynediad i brif afonydd i weithredu / cynnal a chadw cynlluniau lliniaru llifogydd.
  • Perygl llifogydd – hawliau mynediad

Nid yw'r canlynol yn cael eu cynnwys yn ein cylch gwaith:

  • Lleoliad y safle (cylch gwaith awdurdodau cynllunio lleol)
  • Traffig (cylch gwaith awdurdodau cynllunio lleol)
  • Effaith weledol (cylch gwaith awdurdodau cynllunio lleol)
  • Defnydd o’r tir (cylch gwaith awdurdodau cynllunio lleol)
  • Oriau gweithredu polisi'r llywodraeth, boed yn Llywodraeth y DU neu’n Llywodraeth Cymru (cylch gwaith awdurdodau cynllunio lleol)
  • Lleoliadau amgen ar gyfer y safle
  • Penderfynu a oes angen i'r ymgeisydd hefyd gynnal asesiad effaith amgylcheddol (cylch gwaith awdurdodau cynllunio lleol)
  • Ar gyfer ceisiadau rheoliadau trwyddedu amgylcheddol – faint o ddeunydd crai a ddefnyddir ac o ble mae'n dod
  • Ar gyfer ceisiadau rheoliadau trwyddedu amgylcheddol – mynediad at y safle (cylch gwaith awdurdodau cynllunio lleol)
  • Ar gyfer ceisiadau am drwydded gweithgarwch perygl llifogydd – mynediad a chaniatadau i ddefnyddio'r safle (gan gynnwys mynediad dros dir sy'n eiddo i drydydd partïon y tu allan i safle'r cais)
  • Ar gyfer ceisiadau am drwydded gweithgarwch perygl llifogydd – cyflawni gwelliannau amgylcheddol
  • Ar gyfer ceisiadau am drwydded gweithgarwch perygl llifogydd – cynnal gwaith ar afonydd ar ran trydydd partïon, e.e. cyfrifoldeb perchenogion glannau afonydd
  • Ar gyfer ceisiadau am drwydded gweithgarwch perygl llifogydd – cyfrifoldeb / cynnal a chadw’r gweithgaredd cymeradwy yn y dyfodol e.e. strwythur gollyngfa

Adnoddau dŵr

Mae'r canlynol yn cael eu cynnwys yn ein cylch gwaith:

  • Yr effaith bosibl ar yr amgylchedd
  • Hawliau mynediad (ar gyfer trwyddedau tynnu dŵr)
  • Yr effeithiau posibl ar hawliau gwarchodedig deiliad trwydded tynnu dŵr presennol
  • Yr effeithiau posibl ar ddefnyddwyr dŵr eraill dilys
  • Gofyniad rhesymol yr ymgeisydd am ddŵr a’i ddefnydd effeithlon

Nid yw'r canlynol yn cael eu cynnwys yn ein cylch gwaith:

  • Effaith weledol neu sŵn
  • Llwybrau piblinellau neu dai tyrbin
  • Gofyniad am ganiatadau eraill

Trwyddedu morol

Mae'r canlynol yn cael eu cynnwys yn ein cylch gwaith:

  • Lleoliad y safle
  • Yr effaith bosibl ar iechyd dynol
  • Yr effaith bosibl ar yr amgylchedd
  • Posibilrwydd o ymyrryd â defnyddwyr dilys y môr
  • Gofyniad am asesiad o'r effaith amgylcheddol

Nid yw'r canlynol yn cael eu cynnwys yn ein cylch gwaith:

  • Defnydd y tir daearol (cylch gwaith awdurdodau cynllunio lleol)
  • Traffig (cylch gwaith awdurdodau cynllunio lleol oni bai am geisiadau am asesiad o'r effaith amgylcheddol)

Trwyddedu rhywogaethau

Mae'r canlynol yn cael eu cynnwys yn ein cylch gwaith:

  • Lleoliad y safle
  • Yr effaith bosibl ar yr amgylchedd
  • Sgiliau a chymwysterau'r ymgeiswyr
  • Diben
  • Opsiwn boddhaol arall
  • Yr effaith ar statws cadwraeth ffafriol / statws y boblogaeth
  • Yr amser y cynhelir y gwaith ar gyfer rhywogaethau penodol
  • Mesurau lliniaru priodol ar gyfer rhywogaethau penodol

Nid yw'r canlynol yn cael eu cynnwys yn ein cylch gwaith:

  • Gweithgareddau penodol o dan y Ddeddf Gwarchod Moch Daear, e.e. difrod i dir ac eiddo
  • Atodlen 4 Cofrestru Adar
  • Gweithgareddau penodol o dan y Ddeddf Ceirw
  • Deddf Trwyddedu Sŵau 1981
  • Deddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976
  • Ceisiadau rhagofalus – mewn senario "rhag ofn"
  • Anifeiliaid domestig a stoc

Trwyddedu coedwigaeth

Trwyddedau cwympo coed a chynlluniau rheoli coedwigoedd

Mae'r canlynol yn cael eu cynnwys yn ein cylch gwaith:

  • Rhoi trwydded i gwympo coed sy'n tyfu nad yw'n rhan o'r eithriad cwympo coed
  • Gwrthod cais nad yw o fudd i goedwigaeth dda
  • Ystyried yr effaith bosibl ar yr amgylchedd

Nid yw'r canlynol yn cael eu cynnwys yn ein cylch gwaith:

  • Ychwanegu amodau at drwyddedau nad ydynt yn ymwneud ag ailstocio na'r gwaith o gynnal a chadw'r coed hynny sydd wedi'u hailstocio
  • Rhoi trwydded i gwympo coed ar gyfer gwaith datblygu
  • Gwneud penderfyniad ynghylch a ydych yn bodloni'r meini prawf ar gyfer eithriadau cwympo coed

Asesiadau Effaith Amgylcheddol ar gyfer coedwigaeth

Mae'r canlynol yn cael eu cynnwys yn ein cylch gwaith:

  • Rhoi ein barn ar brosiect coedwigaeth (coedwigo; datgoedwigo, gwaith ar ffyrdd coedwig; a gweithfeydd chwarel mewn coedwig).
  • Ystyried yr effaith bosibl ar yr amgylchedd

Nid yw'r canlynol yn cael eu cynnwys yn ein cylch gwaith:

  • Unrhyw geisiadau am asesiad o'r effaith amgylcheddol nad ydynt yn brosiect coedwigaeth

Sut mae gwaith ymgynghori'n rhan o'r broses o wneud penderfyniadau

Rydym yn ymgynghori yn ystod camau penodol ac ar gyfer amserlenni penodol yn ystod y broses o wneud penderfyniadau rheoleiddiol i roi cyfle i bobl a sefydliadau roi sylwadau.

Ein proses:

  1. Rydym yn derbyn cais.
  2. Rydym yn cynnal gwiriadau o ran cyflawnder y cais i benderfynu a ddarparwyd y wybodaeth a'r ffi gywir (lle bo hynny'n berthnasol). Ein henw ar hyn yw 'gwneud yn briodol neu ddilysu'. Nid ydym yn cynnal unrhyw asesiadau technegol o'r cais yn ystod y cam hwn. Bydd cais ond yn symud ymlaen i'r ymgynghoriad unwaith y mae wedi'i wneud yn briodol neu ei ddilysu.
  3. Mae'r cais yn cael ei gyhoeddi:
  • Bydd ceisiadau rheoliadau trwyddedu amgylcheddol yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan o dan: ceisiadau, ymgynghoriadau a phenderfyniadau ynghylch trwyddedau am 20 diwrnod gwaith.
  • Bydd ceisiadau trwydded gweithgarwch perygl llifogydd ond yn cael eu cyhoeddi pan ystyrir bod y cynigion yn debygol o gael effaith niweidiol ar yr amgylchedd.
  • Bydd ceisiadau adnoddau dŵr yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan o dan: ceisiadau, ymgynghoriadau a phenderfyniadau ynghylch trwyddedau am 20 diwrnod gwaith. Yn ôl y Ddeddf Adnoddau Dŵr, mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol.
  • Bydd ceisiadau trwyddedu morol yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan o dan: ceisiadau, ymgynghoriadau a phenderfyniadau ynghylch trwyddedau am 28 diwrnod calendr, neu am 42 diwrnod calendr ar gyfer Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol. Rydym hefyd yn gofyn i'r ymgeisydd roi hysbysiad mewn cyhoeddiad priodol, e.e. papur newydd.
  • Ceisiadau coedwigaeth - mae'r holl ddogfennau cais ar gael ar y gofrestr gyhoeddus am 28 diwrnod calendr er mwyn derbyn sylwadau (oni fydd dros 50% o’r coed sy’n cael eu cwympo yn goed llawrydd neu bod y cais ar gyfer drwydded i deneuo coed yn unig).
  • Ar gyfer ceisiadau rydym yn eu hystyried o ddiddordeb mawr i'r cyhoedd, rydym yn ymgynghori trwy ein canolfan ymgynghori o fewn yr un amserlenni a restrir uchod.
  1. Cynhelir asesiad a phenderfyniad technegol a all redeg ar y cyd â'r cyfnod ymgynghori. Rydym yn ystyried yr holl sylwadau perthnasol a dderbynnir yn ystod y cyfnod ymgynghori yn ystod ein cam o wneud penderfyniad. Gallwn ofyn am fwy o wybodaeth gan yr ymgeisydd yn sgil derbyn sylwadau neu gwestiynau yn ystod y cyfnod ymgynghori os ydynt yn berthnasol i'n penderfyniad.
  2. Ar gyfer rhai ceisiadau, rydym yn nodi penderfyniad ‘Minded to’ ar ein gwefan am 20 diwrnod gwaith. Mae hyn ar gyfer ceisiadau sy'n cynnwys y Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol neu Drwyddedu Rhywogaethau sydd o ddiddordeb mawr i'r cyhoedd fel arfer.
  3. Rydym yn gwneud ein penderfyniad terfynol. Bydd canlyniad ein penderfyniad yn cael ei nodi ar ein gwefan (heblaw am drwyddedu rhywogaethau).  Bydd yr holl ddogfennau sy'n ymwneud â'r cais a'r broses benderfynu ar gael ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein.

Sut rydym yn rheoli ceisiadau sydd o ddiddordeb mawr i'r cyhoedd

Os ydym o’r farn bod, neu y bydd, cryn dipyn o ddiddordeb cyhoeddus mewn rhai ceisiadau penodol, efallai y bydd yn briodol i ni gynnal proses gyfathrebu neu ymgysylltu ychwanegol er mwyn sicrhau bod cyfle teg gan bawb i ymateb. Rydym yn galw'r rhain yn geisiadau sydd o ddiddordeb mawr i'r cyhoedd.

Gall cais gael ei gofrestru fel cais sydd o ddiddordeb mawr i'r cyhoedd yn ystod unrhyw gam o'r broses o wneud penderfyniadau. Rydym bob amser yn gwneud ein gorau glas i benderfynu cyn gynted â phosibl, yn seiliedig ar yr adborth rydym yn dderbyn. Fodd bynnag, gallai hyn fod yn ystod y trafodaethau cyn-ymgeisio, pan fydd y cais wedi cyrraedd, neu yn ystod unrhyw gam yn ystod ein proses o wneud penderfyniadau.

Opsiynau cyfathrebu ac ymgysylltu ychwanegol ar gyfer ceisiadau sydd o ddiddordeb mawr i'r cyhoedd

Rydym yn dewis yr opsiynau a fydd fwyaf priodol ar gyfer y cais penodol ac yn sicrhau ein bod yn cael gwerth am arian; egwyddor y mae'n rhaid i ni ei pharchu fel sefydliad gwasanaeth cyhoeddus a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Rydym yn dewis pa opsiynau cyfathrebu ac ymgysylltu sy'n briodol fesul achos, os o gwbl, er enghraifft, mwy o ymgysylltu â'r gymuned.  Sylwer y bydd ein sesiynau ymgysylltu'n cael eu cynnal yn rhithwir trwy gyfarfod ar Microsoft Teams (debyg i Skype) ac y gellir cadw eich lle ymlaen llaw.  Efallai y byddwn ystyried opsiynau eraill fel y bo'n briodol. Isod, ceir enghreifftiau o rai o'r opsiynau mwy cyffredin y gallwn eu hystyried (nid yw'r rhestr hon yn gyflawn):

  • Ymestyn y cyfnod ymgynghori y tu hwnt i'r amserlenni safonol
  • Hysbysebu'n ehangach, e.e. datganiadau i’r wasg
  • Ymgynghori ar y penderfyniad a'r drwydded ddrafft (os ydym yn penderfynu ei rhoi)
  • Cyhoeddi'r wybodaeth a'r cynnydd diweddaraf ar ein gwefan, sydd ar gael ar ein tudalennau o ddatganiadau 
  • Mwy o sylw ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol
  • Ymgysylltu â chynrychiolwyr gwleidyddol neu arweinwyr cymunedol

Sut y gallwch chi ymateb i ymgynghoriad

Gallwch gyflwyno eich sylwadau atom ar gyfer cais sydd o ddiddordeb mawr i'r cyhoedd trwy ein hwb ymgynghori y gellir ei chyrchu.

Am yr holl ymgynghoriadau eraill neu os nad ydych yn gallu cyrchu'r hwb ymgynghori, anfonwch eich sylwadau atom dros yr e-bost neu yn y post:

Cofiwch gynnwys cyfeirnod y cais, enw’r ymgeisydd a chyfeiriad y safle yn y blwch testun, er mwyn ei gwneud hi’n haws i ni nodi pa gais rydych chi’n ymateb iddo ac er mwyn ei drosglwyddo i’r tîm cywir. Sylwer bod yn rhaid derbyn yr holl sylwadau cyn diwedd y cyfnod ymgynghori.

Nid ydym yn ymateb yn unigol mewn manylder i'r sylwadau a wnaed. Nid ystyrir bod unrhyw sylwadau a wnaed ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol yn ymatebion ffurfiol i ymgynghoriad. Y sylwadau a dderbynnir trwy'r dulliau a nodwyd uchod yn unig fydd yn cael eu cydnabod a'u hystyried.

Cyrff a sefydliadau eraill rydym yn ymgynghori â nhw

Mae'n bosibl y byddwn yn cysylltu â sefydliadau a chyrff arbenigol eraill, e.e. awdurdodau lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ati, i geisio eu barn ar ddiogelu iechyd pobl a’r amgylchedd a byddwn yn gweithio gyda nhw i roi sylw i bryderon y cyhoedd ac yn ystyried eu cyngor arbenigol wrth wneud ein penderfyniad.

Sut rydym yn cyhoeddi ein penderfyniadau terfynol

Ceisiadau rheoliadau trwyddedu amgylcheddol, trwyddedu morol a thrwyddedu rhywogaethau sydd o ddiddordeb mawr i'r cyhoedd

Rydym yn cynhyrchu dogfen benderfynu sy'n cynnwys manylion ein proses o wneud penderfyniadau a sut rydym wedi ystyried yr holl sylwadau perthnasol a ddaeth i law.  Dyma gyfle i chi weld sut mae eich sylwadau wedi cael eu hystyried.  Sylwer: Os ydym yn derbyn nifer o sylwadau ar yr un pwnc, mae'n bosibl y byddwn yn eu rhoi gyda'i gilydd mewn dogfen benderfynu fel un crynodeb (fesul pwnc). Fodd bynnag, bydd pob ymateb unigol i’r ymgynghoriad yn cael ei gadw ar ein system.  Rydym yn hysbysu ein cwsmeriaid o'n penderfyniadau ynghylch trwyddedau ar ein gwefan ac mae pob un ddogfen sy'n gysylltiedig â'r penderfyniad ar gael trwy ein cofrestr gyhoeddus ar-lein ac eithrio'r penderfyniadau ar gyfer trwyddedau rhywogaethau sydd ar gael ar ein dudalennau ceisiadau, ymgynghoriadau a phenderfyniadau ynghylch trwyddedau.

Ceisiadau am drwydded gweithgarwch perygl llifogydd

Cofnodir ein proses o wneud penderfyniadau ar daenlen ymgynghoriad trwydded gweithgarwch perygl llifogydd sydd ar gael ar gais. 

Ceisiadau adnoddau dŵr

Rydym yn cofnodi ein penderfyniad mewn adroddiad penderfynu sydd ar gael ar gais.  Ar gyfer ceisiadau adnoddau dŵr sy'n cael eu hystyried o ddiddordeb mawr i'r cyhoedd neu a wrthodwyd, rydym hefyd yn cyhoeddi datganiad am benderfyniad sy'n cael ei roi ar ein gwefan.

Ceisiadau coedwigaeth

Mae trwyddedau cwympo coed a roddwyd i'w gweld ar y map o ddata am yr amgylchedd naturiol ac os hoffech weld y manylion am y drwydded cwympo coed a'n penderfyniad, anfonwch e-bost gan ddyfynnu'r cyfeirnod at fellinglicence@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae ein penderfyniadau ynglŷn â rheoliadau asesu effaith amgylcheddol coedwigaeth i'w gweld ar ein cofrestr gyhoeddus coedwigaeth ac os hoffech weld y manylion am ein penderfyniad, anfonwch e-bost gan ddyfynnu'r cyfeirnod at forestregulations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Sut rydym yn ymgynghori wrth ddatblygu trwyddedau rheolau safonol newydd

Rydym yn cynnig trwyddedau rheolau safonol ar gyfer ystod o weithgareddau rheoliadau trwyddedu amgylcheddol. Mae’r rhain yn cynnwys amodau gan gynnwys meini prawf lleoliad llym, a rhaid cynnal gweithgareddau yn unol â’r asesiad risg cyffredinol ar gyfer y gweithgaredd penodol.

Rydym yn ymgynghori ar bob trwydded rheolau safonol newydd ddrafft, a’i hasesiadau risg cyfatebol, cyn creu a chyhoeddi’r fersiwn derfynol ar ein gwefan. Gallwch wneud cais ar eu cyfer ar ôl i ni eu cyhoeddi.

  1. Rydym yn nodi’r sefydliadau a all fod â diddordeb yn y drwydded rheolau safonol e.e. grwpiau diwydiant ac undebau.
  2. Rydym yn trafod y gwaith gyda nhw ac yn datblygu fersiwn ddrafft gychwynnol o’r drwydded rheolau safonol ac asesiad risg.
  3. Wedyn, rydym yn rhannu’r dogfennau drafft ar ein gwefan er mwyn ymgynghori arnynt, ac yn gwahodd sylwadau gan aelodau’r cyhoedd ac unrhyw sefydliad â diddordeb. Gall hyd y cyfnod ymgynghori amrywio yn ôl cymhlethdod a lefel y diddordeb yn y drwydded rheolau safonol benodol honno. Rydym yn hysbysu pobl am yr ymgynghoriad trwy ein gwefan a'n tudalennau cyfryngau cymdeithasol ac yn uniongyrchol drwy neges e-bost o bryd i’w gilydd.
  4. Wedyn, rydym yn adolygu'r ymatebion i'r ymgynghoriad, yn cwblhau'r dogfennau ac yn casglu unrhyw ganllawiau ategol ynghyd yn barod i'w cyhoeddi gyda'r drwydded rheolau safonol a'r asesiad risg.
  5. Yn olaf, rydym yn cyhoeddi’r drwydded rheolau safonol a’i hasesiad risg ar ein gwefan. Mae'r drwydded rheolau safonol yn "fyw" bellach ac mae modd gwneud cais amdani.

Rydym yn defnyddio dull tebyg pan rydym am ddiwygio neu ddirymu trwydded rheolau safonol ond dim ond 28 diwrnod yw’r cyfnod ymgynghori fel arfer ac rydym yn ysgrifennu at weithredwyr a sefydliadau ac unigolion eraill sydd â thrwyddedau yr effeithir arnynt yn sgil y newid arfaethedig.

Sut rydym yn dilyn y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) mewn perthynas ag ymatebion i'r ymgynghoriad

Pan fyddwn yn derbyn ymateb personol gan unigolyn, caiff ei gadw ar ein system ond nid yw ar gael yn awtomatig ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein. Rydym yn gwneud hyn er mwyn diogelu gwybodaeth bersonol yr unigolyn sy'n cyflwyno'r sylwadau.

Mae'n bosibl y bydd cynnwys yr ymateb ar gael yn dilyn cais swyddogol am wybodaeth. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn sicrhau bod yr holl wybodaeth bersonol, fel enw a chyfeiriad, yn cael ei dileu cyn darparu'r wybodaeth mewn ymateb i'r cais.

Yn anaml iawn y bydd gofyn i ni rannu eich data â thrydydd partïon, er enghraifft Llywodraeth Cymru (Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru) os oes apêl yn erbyn un o'n penderfyniadau.

Gallwch ddarllen mwy am y ffordd yr ydym yn trin eich data mewn cydymffurfedd â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yn ein hysbysiad preifatrwydd.

Adborth

Rydym yn gwneud yr uchod yn unol â'n hegwyddorion rheoliadol i atal llygredd a lleihau'r effeithiau ar yr amgylchedd ac iechyd dynol, gan sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal, eu gwella a’u defnyddio yn gynaliadwy, nawr ac yn y dyfodol gan ddarparu gwerth am arian fel sefydliad gwasanaeth cyhoeddus a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Os hoffech roi unrhyw adborth, sylwadau, awgrymiadau neu syniadau ar ôl darllen y ddogfen hon, gellir cyflwyno'r rhain drwy'r e-bost isod: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mannau eraill yng Ceisiadau, ymgynghoriadau a phenderfyniadau ynghylch trwyddedau

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf