RWE Generation UK Plc - Cyfleuster Cynhyrchu Hydrogen Gwyrdd yng Ngorsaf Bŵer Penfro, Gorllewin Pennar, Penfro SA71 5SS

Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan RWE Generation UK Plc

Amrywiad sylweddol i drwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Rhif y cais: PAN-027129
Math o gyfleuster rheoledig: Gosodiad – Adran 1.1: Hylosgi – Rhan A(1)(a) Llosgi unrhyw danwydd mewn teclyn â mewnbwn thermol graddedig o 50 megawat neu fwy.
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Gorsaf Bŵer Penfro, Gorllewin Pennar, Penfro SA71 5SS

Mae gan Orsaf Bŵer Penfro bum tyrbin nwy cylch cyfun (CCGTs) sy'n cynhyrchu trydan gan ddefnyddio tanwydd nwy naturiol. Mae'r gweithredwr wedi gwneud cais i amrywio'r drwydded i ychwanegu cyfleuster cynhyrchu hydrogen electrolytig at y gosodiad, wedi'i bweru gan drydan o ffynonellau ynni adnewyddadwy ac sy'n cyfateb i weithgaredd a restrir o dan Adran 4.2: Cemegau Anorganig – Rhan A(1)(a)(i) Cynhyrchu cemegau anorganig fel – nwyon (er enghraifft hydrogen).

Mae’r cais yn cynnwys disgrifiad o sut y gallai’r newidiadau arfaethedig effeithio ar y weithfa; y deunyddiau, y sylweddau a’r egni y bydd yn ei ddefnyddio a’i gynhyrchu; amodau ei safle; ffynhonnell, natur ac ansawdd ei allyriadau rhagweladwy a’u heffeithiau posibl, y technegau arfaethedig ar gyfer rhwystro, lleihau a monitro ei allyriadau a rhwystro ac adfer gwastraff; ac amlinelliad o’r prif ddulliau amgen o weithredu a ystyriwyd, os oes rhai o gwbl.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 25 Awst 2025

Ebost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeilad y Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf