Castle Cement Limited - Padeswood Cement Works, Padeswood, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 4HB
Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Castle Cement Limited
Amrywiad sylweddol i drwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016
Rhif y cais: PAN-026621
Math o gyfleuster rheoledig: Gweithfa - Adran 3.1: Cynhyrchu sment a chalch - Rhan A (1)(a) Cynhyrchu clincer sment mewn odyn droi gyda chapasiti cynhyrchu o fwy na 500 tunnell y dydd. Yn ogystal â gweithgareddau rheoledig eraill sy'n gysylltiedig â gweithgynhyrchu sment fel y manylir ar y drwydded bresennol.
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Padeswood Cement Works, Padeswood, Mold, Flintshire, CH7 4HB
Prif bwrpas y cais am amrywiad yw ychwanegu gweithgaredd gweithfa newydd at y drwydded – gwaith dal carbon deuocsid ôl-hylosgi (Adran 6.10: Dal a storio carbon - Rhan A(1)(a) Dal ffrydiau carbon deuocsid o weithfa at ddibenion storio daearegol yn unol â Cyfarwyddeb 2009/31/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar storio carbon deuocsid yn ddaearegol). Mae'r cais am amrywiad yn cynnwys ychwanegu'r gweithgaredd hwn a fyddai'n gwasanaethu'r odyn, ynghyd â newidiadau cysylltiedig eraill i'r cyfleuster a reoleiddir, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): ychwanegu gwaith hylosgi gwres a phŵer cyfun integredig nwy naturiol (CHP) >50MWfed Darparu ynni ar gyfer y broses, ac addasiadau/uwchraddio i'r odyn sment a'i waith lleihau allyriadau aer er mwyn caniatáu integreiddio'r broses dal carbon. Byddai'r gwaith dal carbon arfaethedig yn lleihau allyriadau carbon deuocsid atmosfferig o weithgynhyrchu sment trwy wahanu'r carbon deuocsid ar gyfer cywasgu, puro a chludo oddi ar y safle ar gyfer storio daearegol].
Mae’r cais yn cynnwys disgrifiad o sut y gallai’r newidiadau arfaethedig effeithio ar y weithfa; y deunyddiau, y sylweddau a’r egni y bydd yn ei ddefnyddio a’i gynhyrchu; amodau ei safle; ffynhonnell, natur ac ansawdd ei allyriadau rhagweladwy a’u heffeithiau posibl, y technegau arfaethedig ar gyfer rhwystro, lleihau a monitro ei allyriadau a rhwystro ac adfer gwastraff; ac amlinelliad o’r prif ddulliau amgen o weithredu a ystyriwyd, os oes rhai o gwbl.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein PAN-026621. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 26 Mawrth 2025
Ebost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeilad y Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.