MSFT MCIO Limited - Hyperscale Data Centre, Imperial Park Business Park, Celtic Way, Duffryn, Newport, NP10 8BE.

Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan MSFT MCIO Limited.

Cais am drwydded amgylcheddol arbennig Newydd dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Rhif y cais: PAN-026552
Math o gyfleuster rheoledig: Gosodiad - Adran 1.1: Gweithgareddau hylosgi - Rhan A (1)(a) Llosgi unrhyw danwydd mewn dyfais sydd â mewnbwn thermol o 50 megawat neu fwy
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Hyperscale Data Centre, Imperial Park Business Park, Celtic Way, Duffryn, Newport, NP10 8BE.

Mae’r cais hwn ar gyfer gweithredu 31 o eneraduron wrth gefn (mewn argyfwng) ar gampws newydd Canolfan Ddata Hyperscale yn Dyffryn, Casnewydd.  Pwrpas y generaduron yw cyflenwi trydan i'r Ganolfan Ddata os bydd toriad pŵer difrifol.  Cyfanswm mewnbwn thermol graddedig y generaduron yw 236MW. Bydd y generaduron yn cael eu rhedeg ar ddiesel ond bydd ganddynt y gallu i gael eu trosi i redeg ar olew llysiau wedi'i drin â dŵr (HVO) os oes angen. Dim ond mewn dwy senario y bydd y generaduron byth yn gweithredu: (i) at ddibenion profi a chynnal a chadw arferol, ac (ii) os bydd toriad pŵer difrifol yn digwydd sy'n amharu ar y cyflenwad trydan i'r Ganolfan Ddata. Mae systemau lleihau catalytig dethol (SCR) wedi’u gosod ar yr holl eneraduron i hwyluso tynnu ocsidau nitrogen o’r nwyon gwacáu.

Mae’r cais yn cynnwys disgrifiad ar y weithfa; y deunyddiau, y sylweddau a’r egni y bydd yn ei ddefnyddio a’i gynhyrchu; amodau ei safle; ffynhonnell, natur ac ansawdd ei allyriadau rhagweladwy a’u heffeithiau posibl, y technegau arfaethedig ar gyfer rhwystro, lleihau a monitro ei allyriadau a rhwystro ac adfer gwastraff; ac amlinelliad o’r prif ddulliau amgen o weithredu a ystyriwyd, os oes rhai o gwbl.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 21 Mawrth 2025.

Ebost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeilad y Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais.  Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf