Gwneud cais i ildio trwydded sylweddau ymbelydrol

Cyn i chi wneud cais

Os nad oes arnoch ragor o angen trwydded, rhaid i chi ei hildio. Gallwch hefyd ildio rhan o'ch trwydded, os, er enghraifft, yr ydych am roi’r gorau i weithgaredd neu leihau arwynebedd tir y drwydded.

Sut i wneud cais

Ar y dudalen hon cewch ffurflenni cais ar gyfer ildio trwydded a chanllaw cwblhau'r ffurflenni. Rhaid i chi lenwi rhannau A ac F a chwblhau adrannau priodol rhan E.

Sylwch

Bydd angen Fersiwn 7 neu fersiwn ddiweddarach o Adobe arnoch i allu defnyddio'r ffurflenni electronig.

Ar ôl i chi ddewis y rhannau cywir o'r ffurflen, dim ond yr adrannau sy'n berthnasol i'ch cais y bydd angen i chi eu llenwi. Fodd bynnag, bydd angen i chi fynd i bob adran a thicio'r blychau priodol fel y gallwch chi symud ymlaen i'r adran nesaf.

Help gyda'ch cais

Os ydych chi'n cael trafferth llenwi'ch ffurflen gais, cysylltwch â ni trwy:

e-bost ymholiadau cyffredinol - ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhif ymholiadau cyffredinol 0300 065 3000 

Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Tŷ Cambria
Caerdydd
CF24 0TP.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Cais am drwydded amgylcheddol Rhan RSR-A Ynglŷn â chi (Saesneg yn unig) PDF [198.0 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-A Ynglŷn â chi (Saesneg yn unig) PDF [198.0 KB]
Cais ildio trwydded amgylcheddol Rhan RSR-E2 Ildio trwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol (ffynonellau seliedig a gwastraff ymbelydrol) (Saesneg yn unig) PDF [302.4 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-E2 Ildio trwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol, gan gynnwys trwydded safonol (ffynonellau seliedig a gwastraff ymbelydrol) (Saesneg yn unig) PDF [63.2 KB]
Cais ildio trwydded amgylcheddol Rhan RSR-E4 Ildio trwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol, gan gynnwys trwydded tirlenwi ffynonellau agored a gwastraff ymbelydrol) (Saesneg yn unig) PDF [309.3 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-E4 Ildio trwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol, gan gynnwys trwydded tirlenwi (ffynonellau seliedig a gwastraff ymbelydrol) (Saesneg yn unig) PDF [55.5 KB]
Cais am drwydded amgylcheddol Rhan RSR-F Taliadau a datganiadau (Saesneg yn unig) PDF [201.3 KB]
Cais am drwydded amgylcheddol Rhan RSR-F Taliadau a datganiadau (Saesneg yn unig) WORD [200.8 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-F Taliadau a datganiadau (Saesneg yn unig) PDF [62.8 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf