Ymgeisio am drwydded bwrpasol ar gyfer safle sylweddau ymbelydrol

Cyn i chi wneud cais

Bydd angen i chi ymgeisio am drwydded bwrpasol os ydych o fewn Atodlen 23 Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2010, yn ôl y disgrifiad ar y dudalen hafan Sylweddau Ymbelydrol. Mae’r ddolen ‘A yw eich gweithgaredd yn gofyn am drwydded sylweddau ymbelydrol Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (RhTA)’ yn rhoi manylion y gwahanol fathau o weithgareddau sylweddau ymbelydrol y gallai fod angen trwydded ar eu cyfer.

Sut i wneud cais

Ar y dudalen hon cewch ffurflenni cais ar gyfer trwydded bwrpasol newydd a'r nodiadau canllaw i'ch helpu i gwblhau'r ffurflenni cais. Rhaid i chi lenwi rhannau A ac F a chwblhau'r adrannau priodol yn rhan B.

Sylwch

Bydd angen Fersiwn 7 neu fersiwn ddiweddarach o Adobe arnoch i allu defnyddio'r ffurflenni electronig.

Ar ôl i chi ddewis y rhannau cywir o'r ffurflen, dim ond yr adrannau sy'n berthnasol i'ch cais y bydd angen i chi eu llenwi. Fodd bynnag, bydd angen i chi fynd i bob adran a thicio'r blychau priodol fel y gallwch chi symud ymlaen i'r adran nesaf.

Help gyda'ch cais

Os ydych chi'n cael trafferth llenwi'ch ffurflen gais, cysylltwch â ni trwy:

e-bost ymholiadau cyffredinol - ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhif ymholiadau cyffredinol 0300 065 3000

Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Tŷ Cambria
Caerdydd
CF24 0TP.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Cais am drwydded amgylcheddol Rhan RSR-A Ynglŷn â chi (Saesneg yn unig) PDF [198.0 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-A Ynglŷn â chi (Saesneg yn unig) PDF [198.0 KB]
Cais am drwydded amgylcheddol Rhan RSR-B2 Trwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol unswydd newydd (ffynonellau seliedig) (Saesneg yn unig) PDF [340.6 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-B2 Trwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol unswydd newydd (ffynonellau seliedig) (Saesneg yn unig) PDF [83.6 KB]
Cais am drwydded amgylcheddol - Rhan RSR-B3 Y drwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol bwrpasol newydd (safle niwclear - ffynonellau agored a gwastraff ymbelydrol) WORD [93.0 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-B3 Y drwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol bwrpasol newydd (safle niwclear - ffynonellau agored a gwastraff ymbelydrol) WORD [47.8 KB]
Cais am drwydded amgylcheddol Rhan RSR-B4 Trwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol unswydd newydd (ffynonellau agored a gwastraff o ffynonellau agored) (Saesneg yn unig) PDF [380.1 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-B4 Trwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol unswydd newydd (ffynonellau agored a gwastraff o ffynonellau agored) (Saesneg yn unig) PDF [140.5 KB]
Cais am drwydded amgylcheddol Rhan RSR-B5 Trwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol unswydd newydd (claddu gwastraff ymbelydrol) (Saesneg yn unig) PDF [299.7 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-B5 Trwydded gweithgaredd sylweddau ymbelydrol unswydd newydd (claddu gwastraff ymbelydrol) (Saesneg yn unig) PDF [98.8 KB]
Cais am drwydded amgylcheddol Rhan RSR-F Taliadau a datganiadau (Saesneg yn unig) WORD [200.8 KB]
Nodiadau arweiniad ynghylch Rhan RSR-F Taliadau a datganiadau (Saesneg yn unig) PDF [62.8 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf