Gweithgareddau risg isel trwyddedu morol (band 1)

Mae'r ystod o weithgareddau sydd angen trwydded forol yn eang, o waith cymhleth mawr iawn i waith risg isel, llai.

Gelwir gweithgareddau risg isel yn weithgareddau band 1.

Gellir rhoi trwyddedau ar gyfer y gweithgareddau hyn am hyd at 12 mis. Os bydd eich gwaith yn cymryd mwy na 12 mis, bydd angen i chi wneud cais am drwydded band 2 yn lle hynny.

Os yw cyfanswm cost y gwaith dros £1 miliwn, bydd angen i chi wneud cais am drwydded band 3.

Gweithgareddau cymwys

Bwriedir i’r gweithgareddau a restrir isod fod yn ganllaw.

Cysylltwch â marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk am gyngor pellach os ydych yn ansicr a yw eich gweithgaredd yn cael ei ddosbarthu fel band 1.

Adeiladu

  • Atgyweirio neu ailosod bolltau, fflapiau, falfiau neu ddeciau ar bier neu fadbont
  • Gosod ysgolion mewn unrhyw adeilad neu adeiledd yn y môr
  • Gosod sgaffaldiau neu dyrau ar gyfer mynediad i gynnal adeileddau arfordirol
  • Amnewid concrit neu rendrad ar wyneb arfordirol
  • Gwneud gwaith cynnal a chadw mân ar adeileddau a chyfarpar arfordirol o fewn ffiniau presennol yr adeileddau sy'n cael eu cynnal

Tynnu

  • Tynnu tyfiant morol a gwano o adeilad neu adeiledd yn y môr
  • Chwythellu adeiledd morol â thywod neu raean
  • Tynnu malurion adeiladu, dymchwel neu ddadfeilio o'r môr neu'r arfordir gan ddefnyddio cerbyd neu gwch
  • Tynnu sbwriel o'r môr neu'r arfordir gan ddefnyddio cerbyd neu gwch, gan gynnwys sbwriel a gesglir â llaw
  • Drilio tyllau turio
  • Casglu samplau (cipolwg) o waddod morol

Dyddodion

  • Dyddodi a thynnu pyst a ddefnyddir i nodi sianeli, ardaloedd o ddŵr bas, gollyngfeydd a grwynau
  • Dyddodi a thynnu bwiau marcio
  • Amnewid un pentwr morol gan ddefnyddio methodoleg bentyrru nad yw'n ergydiol

Gweithgareddau rheoli traeth

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Ailbroffilio traeth – symud deunydd traeth ar draws y lan neu i fyny neu i lawr y traeth
  • Ailgylchu traeth – symud deunydd traeth ar hyd y traeth o fannau ailgronni i ardaloedd o erydu o fewn system y traeth neu system waddod gysylltiol
  • Amnewid neu ddychwelyd tywod a chwythwyd gan y gwynt i'r traeth, pan mae’r tywod hwnnw wedi tarddu o’r traeth yn wreiddiol
  • Clirio deunydd traeth mewn gollyngfeydd, ac o’u hamgylch, i gynorthwyo gyda draenio

Bydd angen i chi gynnal y proffil traeth sy’n bodoli eisoes wrth wneud eich gweithgaredd. Mae hyn yn golygu peidio â chyflwyno deunydd newydd o ffynonellau nad ydynt yn gysylltiedig â system waddod y traeth yr ydych yn gweithio arno.

Os oes angen ichi ychwanegu deunydd traeth o ffynonellau eraill (a elwir yn ailgyflenwi traeth) neu newid proffil y traeth, nid yw hwn bellach yn weithgaredd band 1 a bydd angen trwydded wahanol arnoch. Cysylltwch â marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk am gyngor pellach.

Esemptiadau

Gall rhai gweithgareddau y gellir rhoi trwydded forol iddynt fod yn gymwys fel rhai sydd wedi’u hesemptio ac ni fydd angen trwydded arnynt. Gelwir y rhain yn esemptiadau.

Efallai y bydd angen i chi roi gwybod i ni am eich gweithgaredd o hyd, neu ennill cymeradwyaeth, hyd yn oed os yw wedi'i esemptio.

Cysylltwch â marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk os ydych yn ansicr.

Ffioedd a'r broses ymgeisio

Mae gwneud cais am drwydded band 1 yn costio £600.

Cyflwynwch eich cais band 1 o leiaf ddau fis cyn eich bod am ddechrau ar y gwaith.

Ein nod yw gwneud penderfyniad o fewn chwe wythnos o dderbyn cais cyflawn a'r ffi.

Caniatadau eraill y gallai fod eu hangen arnoch

Yn ogystal â gwneud cais am drwydded forol band 1, efallai y bydd angen caniatadau eraill gennym ni, gan gynnwys:

Rhaid i'r rhain fod ar waith cyn i chi ddechrau'r gwaith. 

Efallai y bydd angen caniatâd arnoch gan awdurdodau eraill hefyd, er enghraifft, awdurdod harbwr lleol, caniatâd perchennog tir neu ganiatâd cynllunio.

Sut i wneud cais

Cewch wybod pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch i baratoi i gyflwyno cais i ni.

Diweddarwyd ddiwethaf