A oes gan safle ganiatâd, trwydded neu esemptiad (Cofrestr Gyhoeddus)

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhoi trwyddedau ac eithriadau i ddiwydiant, busnesau ac unigolion gynnal rhai gweithgareddau a allai lygru neu niweidio’r amgylchedd. 

Cludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff

Os byddwch yn trefnu i wastraff gael ei gasglu o'ch busnes neu'ch cartref, dylech sicrhau bod y busnes sy'n ei gasglu wedi'i gofrestru. Nid oes angen i chi gael prawf wedi'i argraffu o gofrestriad cludwr.

Mae cofrestriad gyda'r rheoleiddwyr yng Nghymru (CNC), Lloegr (Asiantaeth yr Amgylchedd), neu'r Alban (SEPA) yn ddilys yn unrhyw un o'r tair gwlad hyn. Holwch eich cludwr i weld lle maen nhw wedi'u cofrestru.

Chwilio'r cofrestr cyhoeddus cludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff.

Gwybodaeth trwyddedu amgylcheddol, adnoddau dŵr a thrwyddedu morol

Defnyddiwch y gofrestr gyhoeddus hon i gael mynediad at wybodaeth gyhoeddus, megis dogfennau cais a dogfennau cydymffurfio ar gyfer:

  • trwyddedau amgylcheddol ar gyfer gwastraff, ansawdd dŵr a diwydiant a reoleiddir

  • trwyddedau adnoddau dŵr

  • trwyddedau morol

​Chwiliwch am ddogfennau ar y gofrestr gyhoeddus ar gyfer trwyddedu amgylcheddol, adnoddau dŵr a thrwyddedu morol.

Ar gyfer gwybodaeth am drwyddedau gwastraff yn unig, gallwch hefyd edrych ar ein map trwyddedau gwastraff.

Trwyddedau gwastraff, ansawdd dŵr, adnoddau dŵr a gweithfeydd

Gweld y gofrestr gyhoeddus ar gyfer Gwastraff, Ansawdd Dŵr, Adnoddau Dwr a Gweithfeydd

Eithriadau gwastraff ac ansawdd dŵr

Gweld y gofrestr gyhoeddus ar gyfer eithriadau gwastraff ac ansawdd dŵr.

Cofrestriadau cynhyrchydd gwastraff peryglus

Gweld y gofrestr gyhoeddus Cynhyrchydd Gwastraff Peryglus.

Delwyr metel sgrap

Gweler y daenlen am gofrestr gyhoeddus CNC o ddelwyr metel sgrap yng Nghymru.

Cyfleusterau triniaeth awdurdodedig ar gyfer cerbydau ar ddiwedd eu hoes 

Gweler y daenlen isod ar gyfer cofrestr gyhoeddus CNC o cyfleusterau triniaeth awdurdodedig cerbydau ar ddiwedd eu hoes

Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff (WEEE) cyfleuster trin awdurdodedig cymeradwy (AATF) ac allforwyr cymeradwy (AE)

Chwiliwch y gofrestr gyhoeddus o Ganolfannau Trin Cymeradwy ac Awdurdodedig ac Allforwyr Awdurdodedig yng Nghymru (Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff).

Cofrestr gyhoeddus esemptiadau gwastraff: atgyweirio neu adnewyddu cyfarpar trydanol gwastraff (T11)

Gwiriwch y gofrestr gyhoeddus esemptiadau gwastraff: T11

Coed, coetiroedd a fforestydd

Gwiriwch y gofrestr o drwyddedau cwympo coed

Gwiriwch y gofrestr o gynlluniau rheoli coedwigoedd

Cynlluniau ar gyfer cwympo coed ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru

Cofrestr o asesiadau effaith amgylcheddol coedwigaeth

Cynllun cyhoeddi trwyddedau

Nod Cynllun Cyhoeddi Trwyddedau CNC yw rhoi gwybodaeth am geisiadau am drwyddedau a phenderfyniadau. Mae’r ddogfen isod yn cynnwys manylion am yr hyn sydd ar gael ar gyfer yr holl gyfundrefnau trwyddedu y mae CNC yn gyfrifol amdanynt.

Diweddarwyd ddiwethaf