Beth yw pryfed peillio?

Pryfed peillio yw'r creaduriaid sy’n trosglwyddo paill o un blodyn i'r llall i ffrwythloni planhigion fel y gallant wneud ffrwythau a hadau. Hebddynt, ni all planhigion atgynhyrchu.

Mae miloedd o rywogaethau o wenyn yn bryfed peillio. Mae amrywiaeth enfawr o bryfed eraill hefyd – clêr, gwenyn meirch/picwn, chwilod, glöynod byw - yn hanfodol ar gyfer trosglwyddo paill o un blodyn i’r llall.

Pam mae pryfed peillio yn bwysig?

  • Mae pob trydydd cegiad o'n bwyd yn dibynnu ar beillio. Mae angen pryfed peillio i dyfu’n hoff fwydydd. Mae'r rhestr yn enfawr ac yn cynnwys afalau, gellyg, afocados, bresych, mangos, cnau Brasil, cashews, mefus... a siocled!
  • Mae pryfed peillio yn dda ar gyfer yr economi. Amcangyfrifir bod gwerth peillwyr i amaethyddiaeth y DU yn £690 miliwn. Pe baem yn peillio cnydau â llaw byddai'n costio £1.8 biliwn gan wneud ein biliau bwyd yn uwch o lawer nag ydynt yn awr. Mae gwerth byd-eang poblogaethau'r gwenyn mêl yn unig yn werth £30 biliwn
  • Mae pryfed peillio yn dda ar gyfer twristiaeth. Maent yn rhoi lliw i'n mannau gwyllt, a gwneud cefn gwlad yn lle mor ddymunol i ymweld ag o. Mae hyn hefyd yn wir am ein trefi a'n dinasoedd. Mae'r rhan fwyaf o blanhigion lliwgar a blodau ein parciau a gerddi yn dibynnu ar bryfed peillio. Mi fyddai ein byd yn llawer mwy llwyd heb bryfed peillio

Mae ein pryfed peillio yn diflannu

  • Mae hanner y 27 o rywogaethau o gacwn ym Mhrydain wedi dirywio
  • Mae tri o'r rhywogaethau cacwn hyn eisoes wedi diflannu
  • Mae rhywogaethau cacwn wedi gostwng o fwy na 50% yn y 25 mlynedd diwethaf
  • Dwy ran o dair o'n gwyfynod a 71% o löynnod byw mewn cyflwr o ddirywiad tymor hir
  • O'r 43 rhywogaeth o loÿnnod byw a welwyd yng Nghymru, mae 10 mewn dirywiad difrifol ac mae 17 yn prinhau
  • Yn gyffredinol mae 63% o löynnod byw Cymru yn prinhau

Pam mae pryfed peillio yn diflannu?

  • Mae yna nifer o resymau am y dirywiad yn niferoedd pryfed peillio
  • Newid yn yr hinsawdd a natur anwadal neu eithafol y tywydd
  • Plaleiddiaid - maent yn lladd 'plâu' ond hefyd yn niweidio pryfed peillio
  • Arferion amaethyddol modern, sy'n gallu effeithio ar weirgloddiau a chynefinoedd blodeuog yn sgil dull mwy dwys o ffermio

Beth allwch chi ei wneud i helpu?

Mae pobl angen bwyd a lloches. Nid yw anghenion pryfed peillio yn wahanol. Mae eu hanghenion yn cael eu darparu gan gynefinoedd fel dolydd, gwrychoedd, ymylon coetiroedd, glaswelltiroedd, gerddi a pherllannau. Mae angen cynefinoedd cyfoethog mewn neithdar a phaill ar gyfer bwyd, a mannau gwyllt addas ar gyfer nythod a gaeafgysgu.

Mae yna lawer o bethau y gallwn ei wneud i'w gwneud hi'n haws i bryfed peillio. Gallwn wneud ein gorau i roi'r hyn sydd eu hangen iddynt. Gall hyn fod yn gymharol syml fel rheoli ymylon glaswellt mewn ffordd fwy sensitif, a gadael ardaloedd gwyllt o amgylch ein swyddfeydd, cartrefi ac adeiladau cyhoeddus.

Gallwn wneud ein gerddi yn gyfeillgar i bryfed peillio drwy beido defnyddio plaladdwyr, peidio torri gwair y lawnt mor aml a thyfu planhigion sy'n dennu pryfed peillio.

Wyddoch chi pa blanhigion sydd bwysicaf ar gyfer pryfed sy’n peillio yng Nghymru?(Tasglu Pryfed Peillio Llywodraeth Cymru)

Ffyrdd eraill o helpu pryfed peillio

Mae gan y cyrff isod lawer o awgrymiadau i'ch helpu i adnabod pryfed peillio. Yn ogystal, mae ganddynt lawer o syniadau ar sut y gallwch wneud eich gardd neu weithle yn lle gwell ar gyfer bywyd gwyllt.

Paparazzi peilliaid

pollinator papparazziYr haf hwn, helpwch ni i gofnodi gwenyn, glöynod byw ac ymwelwyr pwysig eraill i'ch gardd. Ymunwch â'n hymgyrch Paparazzi Peilliaid (#paparazzipeilliaid) drwy rannu eich lluniau o'r peilliaid ddaw i'ch gardd.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf