Gallwn ni gyd helpu i wneud ein gerddi yn lle hapusach ar gyfer pryfed peillio drwy

  • beidio â defnyddio plaladdwyr
  • beidio torri gwair y lawnt mor aml
  • dyfu planhigion sy'n atynnu pryfed peillio

Rhannwch eich lluniau o unrhyw bryfed peillio a welwch yn eich gardd gyda ni. Byddwn wedyn yn eu rhannu â phartneriaid eraill, fel ein bod, gyda'n gilydd, yn helpu i gofnodi ble mae pryfed peillio wedi cael eu canfod. 

Pwy yw’r ‘A-listers’ o’r pryfed peillio?

  • Cacwn
  • Gwenyn 
  • Pryfed hofran a phryfed eraill
  • Chwilod
  • Gloÿnnod byw a gwyfynod
  • Gwenyn meirch

Mae siart adnabod pryfed peillio Buglife yn rhoi manylion pellach am bob aelod o’r grŵp hyn o bryfed peillio.

Rhannu eich lluniau o'ch 'A-listers'

Y cyfan sydd angen ichi ei wneud yw tynnu llun o unrhyw un o’r pryfed peillio sy’n ymweld â’ch gardd, a’i rannu gyda ni ar y dudalen hon neu ar Instagram, Facebook neu Twitter gan ddefnyddio'r hashnod #PaparazziPeillwyr

Byddwn yn sicrhau bod yr wybodaeth bersonol y byddwn yn casglu yn cael ei brosesu, storio, ddatgelu a'i waredu mewn ffordd sy'n cydymffurfio â’r  Ddeddf Amddiffyn Data.

Diweddarwyd ddiwethaf