Deall dynodiad risg eich cronfa ddŵr
Rhaid inni ystyried canlyniadau’r llifogydd a allai ddigwydd os bydd eich cyforgronfa ddŵr fawr yn methu. Mae hyn yn llywio'r safon diogelwch sydd i'w darparu gennych chi a lefel y rheoleiddio sy'n ofynnol gennym ni. Dynodi yw’r enw a roddir gennym i’r broses hon.
Rydym yn dynodi cronfeydd dŵr i gydnabod eu bod yn achosi gwahanol lefelau o berygl. Mae yna ddau gategori:
- Cronfa ddŵr risg uchel. Mae'r rhain yn gyforgronfeydd dŵr mawr yr ydym yn eu dynodi fel rhai risg uchel oherwydd ein bod yn meddwl y gallai bywyd dynol gael ei beryglu pe bai'r argae'n methu ac yn achosi gollyngiad dŵr heb ei reoli. Gallai’r llifogydd dilynol fod â’r potensial i fygwth bywyd dynol mewn cartrefi, busnesau, yn y gwaith neu gyfleusterau hamdden, ar rwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd, ac mewn seilwaith arall i lawr yr afon. Mae cronfeydd dŵr risg uchel yn destun i holl ofynion Deddf Cronfeydd Dŵr 1975.
- Cyforgronfa ddŵr fawr. Mae’r categori hwn yn cynnwys yr holl gronfeydd dŵr â chapasiti o 10,000 metr ciwbig, neu fwy, uwchlaw lefel naturiol y ddaear nad ydynt wedi’u dynodi’n gronfeydd dŵr risg uchel. Nid yw'r gyfraith yn diffinio unrhyw gronfa ddŵr fel risg isel, ond gallwn gyfeirio atynt fel ‘risg is’ neu ‘risg nad yw'n uchel’. Os na chaiff eich cronfa ddŵr ei dynodi, gallai ei methiant arwain at ddifrod i eiddo cyfagos a'r amgylchedd o hyd.
Rydym yn defnyddio proses tri cham i benderfynu ar ein dynodiad:
- dynodiad dros dro
- ystyried unrhyw sylwadau a wnewch
- dynodiad terfynol
Dynodiad dros dro
Mae'n ofynnol i ni wneud dynodiad yn seiliedig ar y rhagdybiaeth bod cronfa ddŵr neu argae wedi methu. Mae hyn yn golygu nad ydym yn ystyried y tebygolrwydd y bydd yr argae yn methu. Rydym yn canolbwyntio ar ganlyniadau llifogydd ac nid ar berygl llifogydd.
Mae ein hadolygiad cyntaf yn ystyried y canlyniadau y gallai llifogydd eu cael ar y bobl sy’n byw ac yn gweithio i lawr yr afon yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd gennym am eich cronfa ddŵr, sydd fel arfer yn cynnwys:
- mapiau llifogydd yn dangos y llifogydd a allai ddigwydd pe bai argae'r gronfa ddŵr yn methu
- mapiau eraill, awyrluniau a delweddau ar lefel stryd
- adroddiadau peirianwyr
- gwybodaeth leol
Rydym o’r farn ei bod yn ddisgwyliad rhesymol y gallai bywyd dynol gael ei beryglu os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
- mewn achos o lifogydd a achosir gan y gronfa ddŵr yn methu, cyfrifir y colli bywyd tebygol i fod yn 1.0 neu fwy
- mae'r golled debygol o fywyd dynol rhwng 0.8 ac 1.0 ac mae poblogaeth sylweddol mewn perygl o lifogydd i lawr yr afon. Fel rheol, byddwn yn ystyried poblogaeth sylweddol i fod yn fwy na 200 o bobl, neu 20 o fusnesau. Efallai y bydd amgylchiadau pan fyddwn yn dewis cymhwyso’r egwyddor ragofalus lle mae poblogaeth lai
- yn achos yr effaith ar eiddo, mae'r gollyngiad uned yn 3 metr ciwbig yr eiliad, fesul metr neu fwy. Mae hyn yn cynrychioli'r trothwy lle disgwylir i ddifrod adeileddol i eiddo ddechrau. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn y Guide to risk assessment for reservoir safety management (Asiantaeth yr Amgylchedd, 2013). Yr eiddo a ystyriwn yw preswylfeydd parhaol neu dros dro, busnesau a mannau hamdden – er enghraifft, tai, fflatiau, ysbytai, carchardai, swyddfeydd, warysau, meysydd carafannau, safleoedd gwersylla, mannau gwaith, lleoliadau chwaraeon, mannau addoli a pharciau.
- Gallai canlyniadau llifogydd mewn seilwaith arwain at golli bywyd. Er enghraifft, os oes dŵr sy'n llifo'n ddwfn neu'n gyflym ar draws seilwaith ffyrdd neu reilffyrdd, neu ddifrod i waith cemegol sy'n arwain at ryddhau sylweddau peryglus.
Nid yw ein dynodiad yn ystyried:
- achosion o golli bywyd yn anuniongyrchol a all ddigwydd oherwydd difrod seilwaith. Er enghraifft, marwolaeth yn digwydd oherwydd methiant offer os bydd is-orsaf drydan dan ddŵr yn colli pŵer
- effeithiau llifogydd ar yr amgylchedd naturiol neu adeiledig ehangach
Rydym yn adolygu adroddiadau archwilio sy'n ymwneud â'r gronfa ddŵr. Mae’r peiriannydd sy’n gwneud adroddiad yn aml yn darparu argae Categori A–D, lle:
Categori A: gallai toriad beryglu bywydau mewn cymuned
Categori B: gallai toriad beryglu bywydau nad ydynt mewn cymuned a/neu gallai arwain at ddifrod helaeth
Categori C: gallai toriad beri risg ddibwys i fywyd ac achosi difrod cyfyngedig
Categori D: achosion arbennig lle na ragwelir colli bywyd, a lle byddai difrod ychwanegol cyfyngedig iawn yn cael ei achosi
Wrth ystyried y categori argae, byddwn yn cael ein harwain gan yr egwyddorion canlynol:
Fel arfer, byddwn yn dynodi cronfa ddŵr fel cronfa ddŵr risg uchel os oes gan yr argae gategori A neu B a bod y golled bywyd tebygol yn 1.0 neu fwy.
Ni fyddem fel arfer yn dynodi cronfa ddŵr risg uchel os yw’r argae yn Gategori D a bod y meini prawf canlynol yn berthnasol:
- mae'r cyfrifiad colli bywyd tebygol yn llai nag 1.0
- nid yw'r boblogaeth sydd mewn perygl yn sylweddol
- mae uchafswm gollyngiad unedol unrhyw un eiddo yn llai na 3 metr ciwbig yr eiliad y metr (3m3/s/m)
- nid oes unrhyw ardaloedd hamdden na seilwaith wedi'u nodi yn ardal y llifogydd i lawr yr afon
Mewn unrhyw achos arall, byddwn yn ystyried yr wybodaeth yn fwy manwl.
Mae’n bosibl y byddwn yn ceisio cyngor gan beiriannydd cronfeydd dŵr neu ymgynghorydd arall a gofyn am eu barn ynghylch p’un a ddylai’r gronfa ddŵr gael ei dynodi’n un risg uchel ai peidio.
Ar ddiwedd ein hadolygiad, byddwn yn ffurfio ein barn ac yn ysgrifennu atoch fel a ganlyn:
- os credwn y gallai bywyd dynol fod mewn perygl, byddwn yn anfon hysbysiad o ddynodiad dros dro atoch fel cronfa ddŵr risg uchel
- lle mae diffyg tystiolaeth neu os ydym yn amau ansawdd y dystiolaeth, byddwn yn mabwysiadu’r egwyddor ragofalus ac yn anfon hysbysiad o ddynodiad dros dro atoch fel cronfa ddŵr risg uchel
- lle mae gennym ddigon o dystiolaeth na allai bywyd dynol gael ei beryglu, byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau nad yw’r gronfa ddŵr wedi’i dynodi’n gronfa ddŵr risg uchel
Pan fyddwch yn derbyn ein hysbysiad neu lythyr, dylech ei ddarllen yn ofalus. Os byddwn yn anfon hysbysiad o ddynodiad dros dro atoch, mae’n golygu, ar y dystiolaeth yr ydym wedi’i hadolygu, ein bod yn meddwl y gallai methiant eich cronfa ddŵr beryglu bywyd, ond nid yw’n cadarnhau ein penderfyniad.
Mae ein dynodiad yn pennu safon y gofal y mae'n rhaid i chi ei roi i'ch cronfa ddŵr a lefel y rheoleiddio y byddwn yn ei gymhwyso.
Nid yw ein dynodiad dros dro yn benderfyniad terfynol, ac nid yw hysbysiad o ddynodiad dros dro yn gosod rheolau newydd arnoch.
Os ydych yn anghytuno neu'n meddwl ein bod yn anghywir, gallwch ddweud wrthym drwy wneud sylw. Dyma’ch cyfle i gywiro unrhyw ddata rydym wedi’i ddefnyddio neu i ddarparu tystiolaeth ychwanegol na allai bywyd gael ei beryglu. Dylech gyflwyno sylw i ni o fewn tri mis yn rhoi eich rheswm a’r dystiolaeth i gefnogi hyn. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod yr wybodaeth gywir am eich cronfa ddŵr wedi'i chofrestru gyda ni. Os yw'n anghywir, rhaid i chi ddweud wrthym am hyn.
Os byddwch yn derbyn hysbysiad o ddynodiad dros dro ac nad ydych yn cyflwyno sylw o fewn tri mis, byddwn yn anfon hysbysiad o ddynodiad terfynol atoch ac ar ôl hynny mae'n rhaid i chi gyflawni'r holl ddyletswyddau gofynnol i reoli cronfa ddŵr risg uchel.
Gallwch apelio yn erbyn hysbysiad o ddynodiad terfynol ond gall hyn gael effaith gyfyngedig os na wnaethoch gymryd y cyfle i gyflwyno cynrychiolaeth.
Cyflwyno sylw yn erbyn dynodiad dros dro
Os credwch fod ein dynodiad dros dro yn anghywir, dylech ysgrifennu atom i ddweud eich rheswm a darparu tystiolaeth i gefnogi eich achos.
Y cyfnod ar gyfer sylwadau yw eich cyfle i ymgysylltu â’r broses ddynodi.
Rhaid anfon eich sylw o fewn tri mis i'r dyddiad ar yr hysbysiad o ddynodiad dros dro. Os na fyddwch yn cyflwyno sylwadau ar y cam hwn, gallai effeithio ar unrhyw apêl ddilynol.
Dim ond os chi yw ymgymerwr y gronfa ddŵr neu os ydych wedi'ch awdurdodi gan yr ymgymerwr i weithredu ar ei ran y gallwch gyflwyno sylw.
Er mwyn eich helpu i wneud sylw rhesymedig, gallwch ofyn am yr wybodaeth a ddefnyddiwyd gennym i wneud ein dynodiad dros dro. Byddwn yn datgelu hyn yn unol â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol a'r Ddeddf Diogelu Data.
Dylech anfon eich sylwadau drwy e-bost i reservoirs@naturalresourceswales.gov.uk
Dylai eich sylwadau fod mor llawn â phosibl a chynnwys:
- datganiad yn nodi lle y gallem fod wedi gwneud camgymeriad wrth gynnal ein hasesiad
- dadansoddiad sy'n dangos sut mae'r gwall yn arwain at newid sylweddol i'r dynodiad dros dro
Yn gyffredinol, byddwn yn ystyried sylwadau ar y seiliau canlynol gyda thystiolaeth ategol:
- mae'r data sylfaenol a ddefnyddiwyd gennym yn ein hasesiad yn sylweddol anghywir
- lle mae dynodiad yn cyfeirio at fap llifogydd, gellir gwneud sylw ar y sail y dangosir bod y llwybr llifogydd a ragfynegir yn sylweddol anghywir neu y dangosir bod y cyfaint y rhagwelir y gellir ei ddianc yn sylweddol anghywir, neu y dangosir yr effaith ar bobl i lawr yr afon i fod yn sylweddol anghywir
Dylech ddarparu'r dystiolaeth sy'n cefnogi eich sylwadau. Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi egluro’ch sylwadau a’ch tystiolaeth.
Ni fyddwn yn casglu tystiolaeth bellach ein hunain mewn ymateb i'ch sylw. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn ceisio barn peiriannydd neu ymgynghorydd arall i helpu ein hadolygiad.
Pan fyddwn wedi adolygu'r wybodaeth newydd a ddarparwyd gennych chi, byddwn yn gwneud ein dynodiad terfynol.
Os na wnaethoch anfon unrhyw sylwadau ysgrifenedig atom, byddwn yn ystyried bod hyn yn golygu eich bod yn derbyn ein dynodiad dros dro.
Dynodiad terfynol
Dri mis o leiaf ar ôl i ni roi ein hysbysiad o ddynodiad dros dro, byddwn yn cadarnhau dynodiad eich cronfa ddŵr gan ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig a ddarparwyd gennych.
Lle rydym wedi ystyried sylwadau, byddwn naill ai:
- yn ysgrifennu atoch i gadarnhau nad yw eich cronfa ddŵr wedi’i dynodi’n gronfa ddŵr risg uchel, neu
- yn anfon hysbysiad o ddynodiad terfynol atoch fel cronfa ddŵr risg uchel oherwydd ein bod yn ystyried bod y dystiolaeth yn annigonol.
Nid oes ail gyfnod ar gyfer sylwadau.
Bydd ein hysbysiad o ddynodiad terfynol yn nodi ein rhesymau dros y dynodiad. Os ydych yn anghytuno â'n dynodiad terfynol, gallwch wneud apêl.
O'r dyddiad y byddwn yn cyhoeddi hysbysiad o ddynodiad terfynol, mae'n rhaid i chi gydymffurfio â holl ddyletswyddau ymgymerwr ar gyfer cronfa ddŵr risg uchel. Caiff y gofyniad hwn ei atal os byddwch yn dewis apelio.
Apelio ynghylch dynodiad eich cronfa ddŵr risg uchel
Os byddwch yn derbyn hysbysiad o ddynodiad terfynol gennym ni a’ch bod yn meddwl ein bod yn anghywir, gallwch apelio i Weinidog Cymru. Rhaid i'ch apêl:
- Gael ei wneud yn ysgrifenedig
- Cynnwys sail yr apêl
- Cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru o fewn 28 niwrnod i’r dyddiad ar yr hysbysiad o ddynodiad terfynol
- Cael ei chyfeirio i'r:
Tip Glo, Tîm Diogelwch Pyllau Glo a Chronfa Ddŵr
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
neu drwy e-bost i: CronfeyddDwr@llyw.cymru
Bydd y Gweinidog yn penodi unigolyn i sicrhau bod eich apêl yn ddilys ac i adolygu eich cyflwyniad. Gall yr unigolyn penodedig ofyn am ragor o wybodaeth a bydd yn penderfynu p’un a fydd yr apêl yn cael ei chynnal ar sail sylwadau ysgrifenedig neu drwy wrandawiad.
Bydd yr unigolyn penodedig yn penderfynu p’un a yw dynodiad eich cronfa ddŵr fel cronfa ddŵr risg uchel yn dal yn ddilys, neu p’un a ddylid tynnu ein dynodiad yn ôl. Mae'r ddwy ochr yn rhwym i benderfyniad yr unigolyn penodedig.
Hyd nes y bydd yr unigolyn penodedig wedi gwneud penderfyniad, ni fydd eich cyfrifoldebau am eich cronfa ddŵr yn newid, ond mae'r gweithgareddau a osodwyd arnoch ar gyfer rheoli cronfa ddŵr risg uchel wedi'u hatal.
Chi sy'n gyfrifol am unrhyw gostau yr ewch iddynt fel rhan o'ch apêl. Ni fyddwn yn ceisio adennill oddi wrthych unrhyw gostau yr awn iddynt wrth gefnogi'r broses apelio.
Dim ond ynghylch hysbysiad o ddynodiad terfynol y gallwch chi apelio. Os ydych yn anghytuno â hysbysiad o ddynodiad dros dro, dylech ddarllen ein canllawiau ar sut i gyflwyno sylw.
Gallwch apelio ar unrhyw sail. Os oes amgylchiadau lle mae'n bosibl na fydd apêl yn briodol neu'n llwyddiannus, efallai y byddwch am ofyn am adolygiad dynodiad.
Adolygiad dynodiad
Fel arfer, byddwn yn adolygu’r dynodiad risg ar gyfer eich cronfa ddŵr os yw unrhyw un o’r meini prawf canlynol yn berthnasol:
- credwn y gallai fod yn briodol dynodi cyforgronfa ddŵr fawr yn gronfa ddŵr risg uchel hyd yn oed os nad oeddem yn meddwl ei bod yn un o’r blaen. Mae hyn yn fwy tebygol os byddwn yn dod yn ymwybodol o ddatblygiadau newydd neu newidiedig i lawr yr afon o'r gronfa ddŵr a allai gynyddu'r boblogaeth sydd mewn perygl
- credwn efallai na fydd y dynodiad fel cronfa ddŵr risg uchel yn briodol mwyach. Mae hyn yn debygol o fod yn seiliedig ar dystiolaeth well na allai bywyd gael ei beryglu
- mae'r dynodiad presennol yn fwy na chwe blwydd oed ac mae adolygiad o'r wybodaeth y gwnaed y dynodiad arni yn datgelu gwybodaeth newydd
Gofyn am adolygiad
Gallwch ofyn am adolygiad unrhyw bryd. Dylech ystyried hyn os oes gennych unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth nad oeddem yn ymwybodol ohoni yn flaenorol yn eich barn chi.
Nid oes fformat rhagnodedig ar gyfer gwneud cais am adolygiad, ond dylai gynnwys yr wybodaeth a'r dystiolaeth a allai effeithio ar ein dynodiad blaenorol. Dylech anfon eich cais am adolygiad dynodiad drwy e-bost i reservoirs@naturalresourceswales.gov.uk.
Rydym yn cynnig codi tâl am adolygu dynodiadau ar ôl 1 Ebrill 2023. Bydd y tâl yn cael ei gyhoeddi bryd hynny.
Rydym yn annhebygol o symud ymlaen i adolygiad os na chyflwynir unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth newydd i ni.
Os credwn fod cyfiawnhad dros adolygu'r dynodiad, byddwn yn dilyn yr un tri cham â phe bai'n ddynodiad cyntaf.