Adroddiadau ar ddigwyddiadau diogelwch mewn perthynas ag argaeau cronfa ddŵr
Sut i hysbysu am ddigwyddiad diogelwch mewn perthynas â’r argae yn eich cronfa ddŵr ac adrodd am eich canfyddiadau.
Dywedwch wrthym am ddigwyddiadau diogelwch mewn perthynas â’r argae yn eich cronfa ddŵr
Os ydych chi’n berchen ar neu’n rheoli cyforgronfa ddŵr fawr sy’n gallu dal 10,000 metr ciwbig o ddŵr, rhaid i chi ymateb i ddigwyddiadau a dweud wrthym amdanynt
- os bydd y gronfa ddŵr yn rhyddhau dŵr mewn modd afreolus neu’n anfwriadol
- os cymeroch chi fesurau i atal achos o ddŵr yn cael ei ryddhau heb ei reoli rhag digwydd neu rhag gwaethygu
- os oes difrod i’r safle
Eich blaenoriaeth gyntaf yw ymateb i’r digwyddiad:
- dilynwch eich cynllun llifogydd i ymateb i’r digwyddiad
- cysylltwch â’ch peiriannydd goruchwylio. Os nad oes gennych beiriannydd goruchwylio, cysylltwch â pheiriannydd arolygu
- gweithredwch ar gyngor eich peirianwyr
- defnyddiwch y ffurflen isod i ddweud wrthym am y digwyddiad
- darparwch adroddiad, o fewn 12 mis, ar achosion y digwyddiad
Beth yw digwyddiad cronfa ddŵr
Digwyddiad yw digwyddiad, gweithred, hepgoriad, methiant neu gyflwr arall na fwriadwyd a arweiniodd at unrhyw un o’r canlynol:
- rhyddhau dŵr heb ei reoli
- rhyddhau dŵr yn anfwriadol
- difrod i’r safle
Gallai hyn gynnwys:
- methiant neu fethiant rhannol unrhyw adeiledd sy’n dal dŵr
- digwyddiad na fwriadwyd a arweiniodd at un neu fwy o’r canlynol:
- difrod i adeiledd y gronfa ddŵr a allai effeithio ar ei diogelwch
o rhyddhau dŵr yn anfwriadol, gan arwain at effeithiau negyddol i lawr yr afon fel llifogydd neu ddifrod ffisegol
o mesurau brys neu ragofalus yn cael eu cymryd i atal y digwyddiad rhag gwaethygu
- difrod i adeiledd y gronfa ddŵr a allai effeithio ar ei diogelwch
Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- dŵr yn gollwng a thryddiferu – yn enwedig os yw hyn yn rhywbeth newydd neu mae ei natur wedi’i newid
- argae yn gorlifo y tu allan i sianeli wedi’u peiriannu pan nad oes bwriad gwneud hynny
- tonnau’n gorlifo, gan achosi difrod i’r grib neu’r llethr
- tirlithriad neu symudiad llethrau wrth ymyl yr argae neu o amgylch basn y gronfa ddŵr
- methiant materol adeileddau’r gronfa ddŵr
- gwall dynol neu weithdrefnol
- systemau awtomataidd yn methu
- fandaliaeth
- darlleniadau offeryniaeth annisgwyl
- methiant pibell, twnnel neu falf, hyd yn oed os nad oes dŵr yn cael ei ryddhau
- methiant llwyr neu rannol yr argae, y morglawdd neu’r wal, gan beri i rywfaint neu’r cyfan o’r dŵr o’ch cronfa ddŵr gael ei ryddhau heb ei reoli
Os ydych chi’n gwneud gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio, ni ddylech chi gofnodi’r rhain fel digwyddiadau.
Nid oes rhaid i ddigwyddiad fod yn argyfwng a gall y broblem ddatblygu’n araf, gan roi digon o amser i chi ymateb i’r sefyllfa.
Adrodd am ddigwyddiad trwch blewyn
Dylid adrodd am ddigwyddiadau eraill nad ydynt yn arwain at ryddhau dŵr mewn modd heb ei reoli neu’n anfwriadol, neu at ddifrod i’r safle, ond a allai fod wedi gwneud hynny pe byddent wedi cael eu caniatáu i ddatblygu, fel digwyddiadau trwch blewyn. Dylech anfon adroddiad atom am unrhyw ddigwyddiadau trwch blewyn.
Cyflwyno adroddiad rhagarweiniol
Rhaid i chi anfon adroddiad rhagarweiniol atom cyn gynted â phosibl os digwyddodd y digwyddiad neu’r digwyddiad trwch blewyn mewn:
- cyforgronfa ddŵr fawr gyda chynhwysedd o 10,000 metr ciwbig neu fwy
Dylech hefyd anfon adroddiadau am ddigwyddiadau a digwyddiadau trwch blewyn mewn adeileddau tebyg megis:
- cronfeydd dŵr bach
- camlesi
- argloddiau llifogydd
- unrhyw adeileddau rheoli dŵr eraill
Cyflwyno adroddiad terfynol
Unwaith y byddwn yn derbyn eich adroddiad rhagarweiniol, byddwn yn anfon ffurflen adroddiad terfynol atoch. Rhaid i chi gwblhau eich adroddiad terfynol o fewn blwyddyn i’r digwyddiad ddigwydd.
Efallai y bydd o gymorth i chi weithio ar eich adroddiad gyda pheiriannydd sifil cymwys.
Byddwn yn defnyddio eich adroddiad terfynol i nodi unrhyw wersi a ddysgwyd, a fydd yn ein helpu ni i atal digwyddiadau tebyg mewn cronfeydd dŵr eraill.
Ymchwilio i achosion y digwyddiad
Dylech ymchwilio i achos gwreiddiol y digwyddiad cyn gynted â phosibl. Gofynnwch i’ch peirianwyr am feysydd i ganolbwyntio arnynt, a gwiriwch unrhyw dybiaethau a wnaed yn ystod y digwyddiad. Dylech ddefnyddio’r ffurflen adroddiad terfynol i arwain eich ymchwiliad.
Unwaith y byddwch wedi nodi’r achos gwreiddiol, gallwch ddechrau gwneud newidiadau i’w atal rhag digwydd eto. Dylech chwilio am welliannau sy’n hyrwyddo lefel uwch a chynaliadwy o amddiffyniad diogelwch.
Mae cronfeydd dŵr yn adeileddau artiffisial ac mae diffygion yn aml yn deillio o ffactorau dynol. Dylech wneud asesiad gonest o “beth” achosodd y digwyddiad, nid “pwy oedd ar fai”.
Cysylltwch â ni
Os ydych chi’n ansicr a oes angen i chi roi gwybod am eich digwyddiad, cysylltwch â ni a gallwn ni eich helpu.