Mae gwlyptiroedd naturiol yn gynefin hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt, ond maent o dan fygythiad. Gellir hefyd adeiladu gwlyptiroedd i gyflawni pwrpas penodol. Nod gwlyptiroedd a adeiladwyd yw defnyddio’r prosesau a welir mewn gwlyptiroedd naturiol i sicrhau buddion cymdeithasol ac amgylcheddol.

Y prif fanteision yw:

  • gwella ansawdd dŵr, gan gynnwys trin dŵr a chael gwared ar faetholion
  • arafu a/neu storio dŵr (lleihau perygl llifogydd a/neu sicrhau bod mwy o ddŵr ar gael yn ystod tywydd sych)

Mae gan wlyptiroedd a adeiladwyd hefyd y potensial ar gyfer buddion bioamrywiaeth anuniongyrchol y gellir gwneud y gorau ohonynt drwy ddylunio sympathetig.

Cynllunio eich gwlyptir a’r rheoliadau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt

Rhaid dylunio a defnyddio gwlyptiroedd a adeiladwyd i’r diben cywir i gyflawni eu canlyniadau disgwyliedig. Bydd angen cydymffurfio â deddfwriaeth a/neu bolisïau perthnasol eraill.

Rhagor o wybodaeth am gynllunio eich gwlyptir, a pha ganiatâd a rheoliadau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt.

A oes angen trwydded ar eich gwlyptir a adeiladwyd?

Gellir adeiladu gwlyptiroedd at wahanol ddibenion ac mae gan bob un ei ofynion penodol ei hun.

Nid yw’r cyngor hwn yn ymdrin â chynefinoedd gwlyptir sy’n digwydd yn naturiol (gan gynnwys corsydd, wernydd, ffeniau, pyllau, llynnoedd ac afonydd).

Rhagor o wybodaeth am wlyptiroedd a adeiladwyd ar gyfer gwella ansawdd dŵr

Rhagor o wybodaeth am wlyptiroedd a adeiladwyd ar gyfer arafu a storio dŵr

Rhagor o wybodaeth am wlyptiroedd a adeiladwyd ar gyfer bioamrywiaeth a chreu cynefinoedd

Diweddarwyd ddiwethaf