Paratoi cais am gynllun rheoli coedwig

I wneud cais am gynllun rheoli coedwig ar-lein, rhaid i chi fod â dealltwriaeth dda o Safon Coedwigaeth y DU (UKFS). Mae UKFS yn nodi gofynion cyfreithiol ac arferion da ar gyfer rheoli coedwigoedd mewn ffordd gynaliadwy yn y DU. Byddwn yn asesu eich cais yn erbyn UKFS ac unrhyw ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i'ch uned rheoli coedwig. 

Mae UKFS yn diffinio uned rheoli coedwig fel ‘ardal reoli gyfleus a bennir gan natur y goedwig, yr amcanion rheoli a’r gweithrediadau arfaethedig, ac sy’n destun cynllun neu gynnig rheoli coedwig. Mae unedau rheoli coedwig mawr yn caniatáu mabwysiadu dull strategol o fodloni gofynion a chanllawiau UKFS. Mae'r term yn gyfystyr ag uned rheoli coetir.’

Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych chi sut a beth i'w baratoi cyn i chi wneud cais.

1. Os oes gennych gynllun rheoli coedwig eisoes

Mae proses ymgeisio wahanol os ydych chi am gyflwyno cynllun rheoli coedwig sy’n bodoli eisoes i gefnogi eich cais. Gallai hwn fod yn gynllun wedi'i ddilysu gan Cynllun Ansawdd Coetiroedd y Deyrnas Unedig (UKWAS), neu'n gynllun rydych chi wedi'i gynhyrchu eich hun. 

2. Nodi ac asesu elfennau sensitif

Nodwch, aseswch a chofnodwch yr holl elfennau sensitif sy'n effeithio ar eich uned rheoli coedwig. 

Darganfyddwch sut i nodi ac asesu elfennau sensitif, ac a oes angen ymgynghori statudol.

Lawrlwytho’r ffurflen elfennau sensitif 

Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS)

Os oes unrhyw PAWS yn eich uned rheoli coedwig neu'n gyfagos iddi, rhaid i chi gwblhau a lanlwytho'r ffurflen asesu PAWS. 

Lawrlwytho’r ffurflen asesu PAWS

Mawn dwfn

Os oes unrhyw fawn dwfn yn eich uned rheoli coedwig, neu'n gyfagos ati, neu wedi'i gysylltu'n hydrolegol â hi, rhaid i chi gwblhau ac uwchlwytho'r ffurflen asesu mawn dwfn.

Dysgwch sut i nodi a rheoli mawn dwfn.

Lawrlwytho’r ffurflen asesu mawn dwfn

3. Diffinio eich amcanion

Byddwn yn gofyn am y canlynol:

  • hyd at bum amcan ar gyfer yr uned rheoli coedwig am y deg mlynedd nesaf
  • pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd yn ystod y pum mlynedd cyntaf i helpu i gyflawni'r amcan hwn
  • sut y byddwch chi'n mesur a yw'r amcan hwn yn cael ei gyflawni ai peidio

Gwnewch nodyn o’r rhain fel y gallwch eu copïo i’r ffurflen gais.

4. Paratoi eich rhaglen waith

Cwblhewch a lanlwythwch y templed rhaglen waith, gan gwmpasu'r holl weithrediadau arfaethedig, gan gynnwys teneuo, cwympo coed ac ailstocio.

Ar gyfer pob gweithrediad, dywedwch y canlynol wrthym:

  • arwynebedd (hectarau)
  • rhywogaethau i'w cwympo neu eu teneuo
  • blwyddyn/blynyddoedd dangosol
  • sut y bydd ardaloedd a gwympwyd yn cael eu hailstocio (rhywogaethau, dull, amseriad)

Rhaid i'ch cynllun gydymffurfio â’r canlynol:

Lawrlwytho’r templed rhaglen waith

5. Ystyried gwneud cais am farn sgrinio ar yr asesiad o'r effaith amgylcheddol

Efallai yr hoffech wneud cais am farn sgrinio ar yr asesiad o'r effaith amgylcheddol os yw eich cynllun rheoli coedwig yn cynnwys un o'r canlynol:

  • coedwigo
  • datgoedwigo
  • gwaith chwarela
  • gwaith ffordd

Gwirio a oes angen i chi ofyn am farn sgrinio ar yr asesiad o’r effaith amgylcheddol

Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais am farn sgrinio ar yr asesiad o'r effaith amgylcheddol, byddwn ni'n gofyn am eich rhif cyfeirnod. Dewch o hyd i hwn yn yr e-bost cadarnhau a anfonwyd gennym ar ôl i chi wneud cais.  

6. Ymgynghori â rhanddeiliaid perthnasol

Cyn gwneud cais am gynllun rheoli coedwig, ymgynghorwch â phartïon a allai gael eu heffeithio megis:

  • cymdogion
  • Cadw a Heneb (ar gyfer safleoedd hanesyddol neu archaeolegol)
  • swyddog Parc Cenedlaethol neu Dirwedd Genedlaethol (AHNE gynt)
  • cyngor cymuned neu dref
  • tîm amgylcheddol CNC (ar gyfer rhywogaethau a warchodir)

Cwblhewch a lanlwythwch y ffurflen ymgynghori i gofnodi’r canlynol:

  • yr elfen sensitif
  • enw'r sefydliad neu'r unigolyn yr ymgynghorwyd ag ef/hi
  • dyddiad y cyswllt
  • yr ymateb gan y sefydliad neu’r unigolyn
  • camau rydych chi wedi'u cymryd

Lawrlwytho’r ffurflen ymgynghori

7. Cynhyrchu mapiau

Paratowch a lanlwythwch y mapiau ar wahân canlynol i ddangos y canlynol:

1. Yr uned rheoli coedwig a’i lleoliad

2. Adrannau, is-adrannau a llennyrch

3. Elfennau sensitif

4. Teneuo a chwympo coed (rhaid iddo ddangos eich llennyrch)

5. Ailstocio (rhaid iddo ddangos eich llennyrch)

Rhaid i bob map:

  • fod yn seiliedig ar fapiau’r Arolwg Ordnans
  • cael ei labelu'n glir
  • cynnwys Cyfeirnod Grid Cenedlaethol
  • defnyddio graddfa briodol
  • cael ei lofnodi a'i ddyddio
  • bod mewn fformat PNG, JPG, PDF neu DOC
  • bod yn gyson â'ch rhaglen waith

Os hoffech chi anfon Shapefile atom ni hefyd, byddwn ni'n dweud wrthych chi sut i wneud hyn ar ôl i chi gyflwyno'ch cais.

8. Nodi rhywogaethau coed

Lawrlwytho’r ffurflen rhywogaethau coed

9. Casglu eich pecyn cais llawn ynghyd

Pan fyddwch chi'n barod i wneud cais, casglwch bopeth y mae ei angen arnoch i allu ateb yr holl gwestiynau yn y ffurflen gais ar-lein:

  • manylion y tirfeddiannwr a'r asiant
  • manylion yr uned rheoli coedwig:
    • cyfeirnod grid sy'n ein galluogi i leoli'r uned rheoli coedwig ar fap yr Arolwg Ordnans
    • enw'r goedwig
    • disgrifiad o'r uned rheoli coedwig, gan gynnwys rhywogaethau coed, oedran, tirwedd, uchder a phriddoedd, lleoliad y dirwedd, mannau agored a risgiau (er enghraifft, ceirw a rhywogaethau estron goresgynnol)
    • cyfanswm maint yr uned rheoli coedwig mewn hectarau
    • nifer yr adrannau a'r is-adrannau
    • ffurflen rhywogaethau coed
  • hyd at bum amcan rheoli
  • ffurflen elfennau sensitif
  • ffurflen Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS) (os yn berthnasol)
  • ffurflen mawn dwfn (os yn berthnasol)
  • rhaglen waith
  • rhif cyfeirnod am y barn sgrinio ar yr asesiad o'r effaith amgylcheddol (dewisol)
  • ffurflen ymgynghori
  • pob map
  • gwybodaeth i'n helpu i ymweld â'r safle (manylion mynediad ac unrhyw faterion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch)
     

10. Gwneud cais ar-lein

Ni ddylech ddechrau unrhyw waith cwympo coed nes bod eich cynllun rheoli coedwig wedi'i gymeradwyo.

 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf