Cyflwyno cynllun rheoli coedwig sy’n bodoli eisoes fel rhan o'ch cais

Os oes gennych chi gynllun rheoli coedwig eisoes, fel cynllun wedi’i ddilysu o dan Gynllun Ansawdd Coetiroedd y Deyrnas Unedig, gallwch chi ei gyflwyno fel rhan o'ch cais. Rhaid i chi barhau i gwblhau cais ar-lein, ond byddwch yn hepgor rhai adrannau sydd wedi'u cynnwys yn eich cynllun presennol.

1. Cwblhau’r rhestr wirio ar gyfer cynllun arall

Cwblhewch a lanlwythwch y rhestr wirio i wneud y canlynol:

  • gwirio bod eich cynllun yn cynnwys yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnom
  • dweud wrthym ble gallwn ddod o hyd i'r wybodaeth yn eich cynllun

Lawrlwytho’r rhestr wirio ar gyfer cynllun arall

2. Paratoi eich rhaglen waith

Cwblhewch a lanlwythwch y templed rhaglen waith i restru'r holl weithrediadau arfaethedig, gan gynnwys teneuo, cwympo coed ac ailstocio.

Ar gyfer pob gweithrediad, dywedwch y canlynol wrthym:

  • arwynebedd (hectarau)
  • rhywogaethau i'w cwympo neu eu teneuo
  • blwyddyn/blynyddoedd dangosol
  • sut y bydd ardaloedd a gwympwyd yn cael eu hailstocio (rhywogaethau, dull, amseriad)

Rhaid i'ch cynllun gydymffurfio â’r canlynol:

Lawrlwytho’r templed rhaglen waith

3. Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS)

Os oes unrhyw PAWS yn eich uned rheoli coedwig neu'n gyfagos iddi, rhaid i chi gwblhau a lanlwytho'r ffurflen asesu PAWS.  

Lawrlwytho’r ffurflen asesu PAWS

4. Mawn dwfn

Os yw'r uned rheoli coedwig ar fawn dwfn, neu'n gyfagos iddo, rhaid i chi gwblhau a lanlwytho'r ffurflen asesu mawn dwfn.

Dysgu sut i nodi a rheoli mawn dwfn

Lawrlwytho’r ffurflen asesu mawn dwfn

5. Ystyried gwneud cais am farn sgrinio ar yr asesiad o'r effaith amgylcheddol

Efallai yr hoffech wneud cais am farn sgrinio ar yr asesiad o'r effaith amgylcheddol os yw eich cynllun rheoli coedwig yn cynnwys un o'r canlynol:

  • coedwigo
  • datgoedwigo
  • gwaith chwarela
  • gwaith ffordd

Gwirio a oes angen i chi ofyn am farn sgrinio ar yr asesiad o’r effaith amgylcheddol

Os ydych chi wedi gwneud cais am farn sgrinio ar yr asesiad o'r effaith amgylcheddol, byddwn ni'n gofyn am eich rhif cyfeirnod. Dewch o hyd i hwn yn yr e-bost cadarnhau a anfonwyd gennym ar ôl i chi wneud cais.  

6. Cynhyrchu mapiau

Paratowch a lanlwythwch y mapiau ar wahân canlynol i ddangos y canlynol: 

1. Yr uned rheoli coedwig a’i lleoliad

2. Adrannau, is-adrannau a llennyrch

3. Elfennau sensitif

4. Teneuo a chwympo coed (rhaid iddo ddangos eich llennyrch)

5. Ailstocio (rhaid iddo ddangos eich llennyrch)

Rhaid i bob map:

  • fod yn seiliedig ar fapiau’r Arolwg Ordnans
  • cael ei labelu'n glir
  • cynnwys Cyfeirnod Grid Cenedlaethol
  • defnyddio graddfa briodol 
  • cael ei lofnodi a'i ddyddio
  • bod mewn fformat PNG, JPG, PDF neu DOC
  • bod yn gyson â'ch rhaglen waith

Os hoffech chi anfon Shapefile atom ni hefyd, byddwn ni'n dweud wrthych chi sut i wneud hyn ar ôl i chi gyflwyno'ch cais.

7. Casglu eich pecyn cais ynghyd

Pan fyddwch chi'n barod i wneud cais, casglwch bopeth y mae ei angen arnoch i allu ateb yr holl gwestiynau yn y ffurflen gais ar-lein:

8. Gwneud cais ar-lein

Ni ddylech ddechrau unrhyw waith cwympo coed nes bod eich cynllun rheoli coedwig wedi'i gymeradwyo.

 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf