Nodi ac asesu elfennau sensitif ar gyfer eich cais am gynllun rheoli coedwig

Pan fyddwch chi'n gwneud cais am gynllun rheoli coedwig, rhaid i chi ddefnyddio'r ffurflen elfennau sensitif i ddweud wrthym am y canlynol:

  • elfennau sensitif ar eich uned rheoli coedwig, wrth ei hymyl, neu wedi’u cysylltu â hi’n swyddogaethol
  • adrannau neu is-adrannau yr effeithir arnynt
  • risgiau i’r elfen sensitif, effeithiau arnyn nhw, a sut y byddwch yn eu rheoli
  • unrhyw ymgynghori y mae ei angen

Defnyddiwch y dudalen hon i ddarganfod:

  • pa fapiau a setiau data all eich helpu i nodi elfennau sensitif
  • os oes angen cydsyniadau neu ganiatadau ychwanegol arnoch efallai
  • os oes rhaid i chi gynnal ymgynghoriad

Beth rydym yn ei olygu wrth ‘elfennau sensitif’

Elfennau sensitif yw nodweddion, ardaloedd, rhywogaethau neu gyfyngiadau sy'n gofyn am ystyriaeth arbennig oherwydd eu pwysigrwydd amgylcheddol, diwylliannol, cyfreithiol neu weithredol.

Mae tua 30% o dir a dyfroedd Cymru wedi'u dynodi oherwydd diddordeb bywyd gwyllt, tirwedd neu ddaearegol.

Ymhlith yr elfennau sensitif eraill yw rhywogaethau a warchodir, nodweddion hanesyddol, coed hynod, gwrychoedd, cyrsiau dŵr, llwybrau mynediad a seilwaith.

Elfennau sensitif y dylech eu hystyried

Ystyriwch yr holl elfennau sensitif a restrir ar y dudalen hon yn adrannau 1 i 8.

Sut i adnabod elfennau sensitif

Defnyddiwch ein syllwr map rhyngweithiol fel man cychwyn i nodi elfennau sensitif.

Dewch o hyd i fapiau neu ffynonellau data eraill o dan bob elfen sensitif ar y dudalen hon.

Pan nad yw data mapio yn ddigonol, defnyddiwch arolygon o safleoedd, cyngor proffesiynol a setiau data eraill. Nid yw absenoldeb cofnodion yn cadarnhau absenoldeb elfen sensitif.

Peidiwch â chyfyngu eich asesiad i faint eich uned rheoli coedwig. Ystyriwch yr holl elfennau sensitif o fewn eich uned rheoli coedwig, wrth ei hymyl, neu’r rhai sy’n gysylltiedig yn swyddogaethol â hi. Gall eich gweithgareddau gael effeithiau oddi ar y safle ar elfennau sensitif sy'n gysylltiedig yn swyddogaethol. Er enghraifft:

  • Mae cwrs dŵr o fewn yr uned rheoli coedwig yn draenio i afon ddynodedig yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA). Gall hyn arwain at risg uwch o fewnbwn gwaddodion o weithrediadau coedwigaeth.
  • Mae ystlumod mewn Ardal Cadwraeth Arbennig gyfagos yn ddibynnol ar glwydfannau coetir o fewn yr uned rheoli coedwig. Gall gweithrediadau coedwigaeth arwain at golli cynefin cynhaliol ar gyfer Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop.
  • Mae ffordd gyngor wedi'i lleoli o dan uned rheoli coedwig â llethrau serth. Gall llwyrdorri coed arwain at risg uwch o lifogydd a thirlithriadau, gan beri risg i ddiogelwch y cyhoedd.

Ymgynghori

Mae rhai elfennau sensitif yn sbarduno ymgynghoriad statudol. I eraill, mae Safon Coedwigaeth y DU yn nodi ei bod yn arfer da ymgysylltu â rhanddeiliaid lle mae'n debygol y bydd eich cynllun yn effeithio ar elfennau sensitif. Mewn rhai sefyllfaoedd, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod ymgynghori ac ymgysylltu yn cael eu cwblhau. Mewn sefyllfaoedd eraill, ein cyfrifoldeb ni yw hynny.

Darperir canllawiau pellach ar ymgynghori ar gyfer pob elfen sensitif.

Ymgymerwch â'r holl ymgynghori cyn gwneud cais am eich cynllun rheoli coedwig a lanlwythwch ymatebion i'r ymgynghoriad fel rhan o'ch cais.

Caniatadau a chydsyniadau eraill

Efallai y bydd angen cydsyniadau neu ganiatadau ychwanegol ar gyfer rhai elfennau sensitif er mwyn i chi allu cyflawni eich gweithgareddau arfaethedig yn gyfreithlon. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau'r holl ganiatadau a chydsyniadau angenrheidiol cyn dechrau eich gweithrediadau.

1. Safleoedd dynodedig

Defnyddiwch ein syllwr map rhyngweithiol i ddod o hyd i'r safleoedd dynodedig canlynol.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol wedi'u dynodi i amddiffyn a rheoli cynefinoedd, rhywogaethau a nodweddion daearegol o bwys cenedlaethol.

Nid oes angen i chi gynnal ymgynghoriad statudol ar wahân.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth yr ydych yn ei darparu i asesu effeithiau ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig drwy Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd pan fo angen.

Safle Ramsar

Mae Safleoedd Ramsar yn wlyptiroedd o bwysigrwydd rhyngwladol. Gall gweithrediadau coedwigaeth effeithio ar hydroleg neu gysylltedd ecolegol.

Nid oes angen i chi gynnal ymgynghoriad statudol ar wahân.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth yr ydych yn ei darparu i asesu effeithiau ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig  drwy Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd pan fo angen.

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Mae SoDdGAau yn amddiffyn y cynefinoedd, y rhywogaethau a'r nodweddion daearegol pwysicaf yng Nghymru.

Nid oes angen i chi gynnal ymgynghoriad statudol ar wahân.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth yr ydych yn ei darparu i wneud cais am gydsyniad SoDdGA ar eich rhan. Os oes gennych gydsyniad eisoes, cofiwch gynnwys rhif cydsyniad y SoDdGA ar y ffurflen elfennau sensitif.

Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA)

Mae ACAau wedi'u dynodi o dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd y Comisiwn Ewropeaidd i ddiogelu cynefinoedd a rhywogaethau o bwysigrwydd Ewropeaidd. Gall gweithrediadau coedwigaeth effeithio ar nodweddion cymhwyso.

Nid oes angen i chi gynnal ymgynghoriad statudol ar wahân.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth yr ydych yn ei darparu i asesu effeithiau ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig drwy Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd pan fo angen.

Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA)

Mae AGAau wedi'u dynodi i warchod rhywogaethau o adar prin a dan fygythiad a restrir o dan y Gyfarwyddeb Adar. Gall gweithrediadau coedwigaeth effeithio ar gynefinoedd nythu, fforio neu gymudo.

Nid oes angen i chi gynnal ymgynghoriad statudol ar wahân.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth yr ydych yn ei darparu i asesu effeithiau ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig drwy Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd pan fo angen.

Mathau o safleoedd dynodedig

Dysgu mwy am fathau o dir gwarchodedig

2. Tirweddau a nodweddion gwarchodedig

Parciau a Gerddi Hanesyddol

Mae Parciau a Gerddi Hanesyddol yn dirweddau hanesyddol cofrestredig o ddiddordeb arbennig.

Mae Cadw yn ymgynghorai statudol. Byddwn yn ymgynghori â Cadw ar eich rhan gan ddefnyddio'r wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn y tabl o elfennau sensitif.

Dewch o hyd i Barciau a Gerddi Hanesyddol ar y canlynol:

Dysgu mwy am Barciau a Gerddi Hanesyddol

Tirweddau Cenedlaethol (Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol gynt)

Mae Tirweddau Cenedlaethol wedi'u dynodi i warchod a gwella harddwch naturiol, gan gynnwys cymeriad tirwedd, bioamrywiaeth, geoamrywiaeth a threftadaeth ddiwylliannol. 

Nid oes unrhyw ofynion ymgynghori statudol, ond efallai y byddwch yn ymgynghori â thîm Tirweddau Cenedlaethol yr awdurdod lleol perthnasol.

Defnyddiwch ein syllwr map rhyngweithiol i ddod o hyd i Dirweddau Cenedlaethol.

Dysgu mwy am Dirweddau Cenedlaethol

Parciau Cenedlaethol

Mae Parciau Cenedlaethol yn dirweddau o bwysigrwydd cenedlaethol lle gall coedwigaeth ddylanwadu ar gymeriad tirwedd, treftadaeth ddiwylliannol a mwynhad y cyhoedd.

Nid oes unrhyw ofynion ymgynghori statudol. Efallai yr hoffech ymgynghori ag awdurdod y Parc Cenedlaethol, yn enwedig lle gallai eich gweithrediadau gael effaith sylweddol ar y dirwedd.

Defnyddiwch ein syllwr map rhyngweithiol i ddod o hyd i Barciau Cenedlaethol.

Dysgu mwy am Barciau Cenedlaethol

Henebion cofrestredig

Mae henebion cofrestredig yn nodweddion archaeolegol o bwys cenedlaethol sy'n cael eu gwarchod gan y gyfraith. Gall gweithrediadau coedwigaeth niweidio gweddillion islaw ac uwchben y ddaear.

Mae Cadw yn ymgynghorai statudol. Byddwn yn ymgynghori â Cadw ar eich rhan gan ddefnyddio'r wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn y tabl o elfennau sensitif.

Efallai y bydd angen cydsyniad heneb gofrestredig arnoch gan Cadw lle mae'n debygol y bydd eich cynigion yn effeithio ar henebion cofrestredig. Eich cyfrifoldeb chi yw cael cydsyniad pan fo angen.

Dewch o hyd i henebion cofrestredig ar:

Dysgu mwy am henebion cofrestredig

3. Elfennau amgylcheddol sensitif

Safleoedd coetir hynafol

Mae coetir hynafol wedi bodoli'n barhaus ers o leiaf 1600 ac mae'n cynnwys Coetir Hynafol a Lled-Naturiol, Safleoedd Coetir Hynafol wedi'u Hadfer a Safleoedd Coetir Hynafol o Gategori Anhysbys.

Nid oes angen i chi gynnal ymgynghoriad.

Defnyddiwch ein syllwr map rhyngweithiol i ddod o hyd i safleoedd coetir hynafol.

Dysgu mwy am amgylcheddol sensitif

Mawn dwfn

Mae priddoedd mawn 50 cm neu ddyfnach yn darparu storfa carbon hanfodol a swyddogaethau hydrolegol. Efallai na fydd ailstocio yn briodol.

Lle mae mawn dwfn o fewn eich uned rheoli coedwig, neu wedi'i gysylltu'n hydrolegol â hi, rhaid i chi gwblhau a lanlwytho'r ffurflen asesu mawn dwfn i gefnogi'ch cais.

Dysgu mwy am adnabod a rheoli mawn dwfn

Gwrychoedd

Mae rhai gwrychoedd wedi'u gwarchod o dan Reoliadau Gwrychoedd 1997. Mae gwrychoedd yn darparu cynefin, bwyd a choridorau symud i ystod eang o rywogaethau a gallant fod ag arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol.

Rhaid i chi ymgynghori â'r awdurdod cynllunio lleol perthnasol os ydych chi'n bwriadu cael gwared ar wrychoedd.

Dysgu mwy am wrychoedd

Planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol (PAWS)

Coetiroedd hynafol yw PAWS sydd wedi'u plannu â rhywogaethau o goed anfrodorol. Gall priddoedd coetir hynafol, banciau hadau a nodweddion ecolegol gynnig cyfleoedd adfer.

Pan fo’ch uned rheoli coedwig yn cynnwys PAWS, rhaid i chi gwblhau a lanlwytho'r ffurflen asesu PAWS i gefnogi eich cais.

Defnyddiwch ein syllwr map rhyngweithiol i ddod o hyd i PAWS.

Nid oes angen i chi gynnal ymgynghoriad.

Coed hynod

Mae coed hynod yn nodweddion coetir ecolegol a diwylliannol nad oes modd gwneud yn iawn am eu colli. Rhaid i chi sicrhau bod gweithrediadau coedwigaeth yn osgoi difrod ffisegol neu effeithiau anuniongyrchol i goed hynod.

Nid oes angen i chi gynnal ymgynghoriad.

Mae’r Rhestr Coed Hynafol n cofnodi rhai coed hynod, ond nid yw'n gynhwysfawr. Dylech wirio eich uned rheoli coedwig am goed hynod.

4. Cyrsiau dŵr a chyrff dŵr

Mae cyrsiau dŵr a chyrff dŵr yn cynnwys afonydd, nentydd, draeniau, pyllau dŵr a llynnoedd. Gall gweithrediadau coedwigaeth effeithio ar ansawdd dŵr neu hydroleg.

Dylech gyfeirio at ganllawiau arfer gorau fel canllawiau ymarfer UKFS a chyhoeddiadau'r Comisiwn Coedwigaeth i lywio eich proses o wneud penderfyniadau a'ch technegau lliniaru.

Efallai y bydd angen caniatâd ychwanegol arnoch gennym ni os ydych chi'n bwriadu gwneud gwaith:

Efallai y bydd angen cydsyniad cwrs dŵr cyffredin arnoch gan yr awdurdod lleol perthnasol ar gyfer gwaith ar gwrs dŵr cyffredin nad yw o fewn ardal draenio mewnol.

5. Ystyriaethau awdurdod lleol

Ffyrdd cyngor

Gall ffyrdd cyngor gynnwys priffyrdd cyhoeddus a ddefnyddir ar gyfer mynediad a chludo nwyddau.

Efallai y bydd angen cydsyniad yr awdurdod lleol arnoch i gau ffyrdd dros dro.

Cynigion cynllunio

Gall datblygiadau sy’n bodoli eisoes neu ddatblygiadau arfaethedig gyfyngu ar weithrediadau coedwigaeth.

Dewch o hyd i gynigion cynllunio drwy gysylltu â'r awdurdod cynllunio lleol perthnasol. Os yw'n debygol y bydd eich gweithgareddau arfaethedig yn effeithio ar gynigion cynllunio, ymgynghorwch â'r awdurdod cynllunio lleol perthnasol.

Hawliau tramwy cyhoeddus

Llwybrau sydd wedi'u gwarchod yn gyfreithiol yw'r rhain, ac mae'n rhaid iddynt aros ar agor oni bai eu bod wedi'u cau'n ffurfiol.

Bydd angen cydsyniad gan yr awdurdod lleol arnoch i gau hawliau tramwy cyhoeddus dros dro.

Gallwch ddod o hyd i hawliau tramwy cyhoeddus ar fap diffiniol yr awdurdod lleol perthnasol.

Dysgu mwy am hawliau tramwy cyhoeddus

Gorchmynion diogelu coed ac ardaloedd cadwraeth awdurdodau lleol

Mae gorchmynion diogelu coed yn gwarchod coed o werth amwynder neu ddiwylliannol. Mae gorchymyn diogelu coed yn ei gwneud yn drosedd torri neu ymgymryd â llawdriniaeth ar goeden warchodedig heb ganiatâd, oni bai fod esemptiad yn berthnasol.

Mae angen cydsyniad awdurdod lleol mewn ardaloedd cadwraeth ar gyfer gwaith penodol, gan gynnwys cwympo a thocio coed a thorri haenen uchaf coed.

Byddwn yn ymgynghori â'r awdurdod lleol perthnasol ar eich rhan, ac yn gwneud cais am gydsyniad gorchymyn diogelu coed / ardal gadwraeth lle bo angen.

Dysgu mwy am orchmynion diogelu coed

6. Rhywogaethau a warchodir a bioamrywiaeth

Mae rhywogaethau a warchodir wedi'u gwarchod o dan ddeddfwriaeth bywyd gwyllt. Gall gweithrediadau coedwigaeth effeithio ar unigolion, safleoedd bridio neu fannau gorffwys.

Mae deddfwriaeth rhywogaethau a warchodir yn berthnasol waeth beth fo'u presenoldeb presennol.

Dylech ymgynghori â'n tîm trwyddedu rhywogaethau lle nad oes modd osgoi effeithiau. Efallai y bydd angen arolygon a mesurau lliniaru.

Dysgu mwy am sut i ystyried rhywogaethau a warchodir yn ystod gweithrediadau coedwigaeth.

Gallwch ddod o hyd i gofnodion o rywogaethau a warchodir ar wefannau NBN AtlasCanolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol or Aderyn.

Moch daear

Dysgu mwy am weithrediadau coedwig a brochfeydd moch daear

Ystlumod

Canllaw arfer da: gwarchod ystlumod yn ystod gweithrediadau coetir a choedwigaeth

Afancod

Cysylltwch â ni i gael cyngor ar opsiynau rheoli a thrwyddedu os oes angen i chi gymryd camau mewn ardal lle mae afancod yn bresennol.

Dysgu mwy am drwyddedu afancod

Pathewod

Canllaw arfer da: gwarchod pathewod yn ystod gweithrediadau coetir a choedwigaeth

Madfallod dŵr cribog

Canllaw arfer da: gwarchod madfallod dŵr cribog yn ystod gweithrediadau coetir a choedwigaeth

Dyfrgwn

Canllaw arfer da: gwarchod dyfrgwn yn ystod gweithrediadau coetir a choedwigaeth

Beleod

Canllaw arfer da: gwarchod beleod yn ystod gweithrediadau coetir a choedwigaeth

Gwiwerod coch

Efallai na fydd rhai rhywogaethau o goed hadau mawr yn briodol os yw eich cynllun rheoli coedwig o fewn ardal gwiwerod coch.

Dod o hyd i wiwerod coch ar wefan MapDataCymru

Canllaw arfer da: gwarchod gwiwerod coch yn ystod gweithrediadau coetir a choedwigaeth

Adar Atodlen 1

Dysgu am y ddeddfwriaeth sy'n gwarchod adar gwyllt

Llygod y dŵr

Canllaw arfer da: gwarchod llygod y dŵr yn ystod gweithrediadau coetir a choedwigaeth

Pren marw

Mae pren marw yn cynnal rhywogaethau arbenigol ac mae'n elfen allweddol o ecosystemau coetiroedd.

Nid oes angen i chi gynnal ymgynghoriad.

7. Elfennau sensitif cynllun y safle

Cynefinoedd â blaenoriaeth

Ardaloedd o fewn coetiroedd a thirweddau coedwig a nodwyd o dan adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 fel cynefinoedd o bwys mawr ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth yng Nghymru.

Nid oes angen i chi ymgymryd ag unrhyw ymgynghoriad. Efallai y byddwn yn ymgynghori ag arbenigwyr mewnol os yw'n debygol y bydd eich cynigion yn effeithio ar gynefinoedd â blaenoriaeth.

Dewch o hyd i gynefinoedd â blaenoriaeth gan ddefnyddio haen “Terrestrial Habitats: Phase 1 Information” ar ein syllwr map rhyngweithiol. Dewiswch “Phase 1 vegetation” o’r gwymplen. 

Fforddfreintiau

Mae fforddfreintiau yn gytundebau sy'n caniatáu seilwaith o fewn coetir.

Ystyriwch reolaeth mewn fforddfreintiau, ac o’u hamgylch, er mwyn osgoi difrod i seilwaith a achosir gan goed a gweithgareddau rheoli coedwig.

Dylech ymgynghori â pherchennog y seilwaith cyn dechrau gweithrediadau.

8. Iechyd coed

Clefyd coed ynn

Dylid rheoli ynn heintiedig yn briodol yn ôl y risg a gyflwynir. Mae angen trwydded cwympo coed ar goed heintiedig oni bai fod esemptiad yn berthnasol.

Nid oes angen i chi ymgymryd ag unrhyw ymgynghoriad.

Dysgu mwy am reoli clefyd coed ynn

Ips typographus

Mae Ips typographus yn bla cwarantîn risg uchel ar goed sbriws.

Dylech roi gwybod am achosion o Ips typographus a amheuir drwy TreeAlert.

Phytophthora ramorum (llarwydd)

Mae P. ramorum yn bathogen planhigion rheoleiddiedig sy'n cael effaith ar goed larwydd a rhywogaethau eraill.

Os yw eich uned rheoli coedwig yn cynnwys llarwydd, byddwn yn cyhoeddi Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol (symud ar gais) (SPHN[mr]) yn ddiofyn ynghyd â'ch cynllun rheoli coedwig cymeradwy. Bydd yr hysbysiad hwn yn cynnwys rhestr o gamau i'w cymryd.

I symud deunydd heintiedig wedi'i gwympo o'r safle, bydd angen trwydded symud gan Dîm Iechyd Planhigion y Comisiwn Coedwigaeth arnoch chi, eich cludwr, neu'r masnachwr pren sy'n prynu'ch pren.

Byddwch yn gallu gofyn am archwiliad P. ramorum gennym ni ar ôl i chi gael eich trwydded cwympo coed. Bydd gwybodaeth am sut i ofyn am archwiliad wedi'i chynnwys yn eich cytundeb rheoli tir.

Adrodd am achosion a amheuir o haint P. ramorum drwy TreeAlert

Dysgu mwy am P. ramorum

Cwblhau’r ffurflen elfennau sensitif

Lawrlwytho’r ffurflen elfennau sensitif

Adrannau neu is-adrannau yr effeithir arnynt

Mae angen i chi restru’r canlynol:

  • pob adran neu is-adran sydd o fewn yr elfen sensitif neu wrth ei hymyl
  • pob adran neu is-adran sydd wedi'i chysylltu'n swyddogaethol â'r elfen sensitif
  • safleoedd gyda gweithrediadau wedi'u cynllunio a allai gael effeithiau oddi ar y safle ar yr elfen sensitif

Enw'r safle / disgrifiad o’r elfen sensitif

Nodwch enw'r safle. Gallwch wneud hyn drwy lwytho'r haen ddata ar wefan MapDataCymru a chlicio o fewn ffin yr elfen sensitif i ddatgelu'r enw.

Ar gyfer safleoedd heb enw penodol, ysgrifennwch ddisgrifiad byr o'r elfen sensitif.

Sut allai eich cynlluniau effeithio ar yr elfen sensitif? Beth yw'r risgiau?

Nodwch y risgiau sy'n gysylltiedig â'ch gweithgareddau arfaethedig a beth allai'r effeithiau fod heb eu lliniaru.

Sut fyddwch chi'n lleihau'r effeithiau a'r risgiau?

Ar gyfer pob elfen sensitif lle rydych chi wedi nodi effaith a risg ar ei chyfer, amlinellwch pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i leihau eu maint a'u tebygolrwydd.

A oes angen ymgynghori?

Os oes angen ymgynghoriad statudol, dewiswch ‘oes’. Os na, dewiswch ‘nac oes’.

Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd y gallwn eu cynnal

Rhaid asesu gweithgareddau a allai effeithio ar SoDdGAau, ACAau, AGAau neu Safleoedd Ramsar er mwyn deall eu heffeithiau posibl. Gelwir hyn yn Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ac fe'i cynhelir gennym ni.

Byddwn yn penderfynu a oes angen Asesiad Rheoliadau Coedwigaeth yn seiliedig ar effaith bosibl eich gwaith coedwigaeth ar amcanion cadwraeth y nodweddion cymwys y dosbarthwyd y safle ar eu cyfer.

Os byddwn yn penderfynu bod angen Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, bydd yn ystyried elfennau sensitif y safle, tebygolrwydd a maint yr effeithiau a achosir gan waith coedwigaeth arfaethedig ar nodweddion y safle, a sut y bydd y risgiau'n cael eu lliniaru.

Bydd yr wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn y ffurflen elfennau sensitif yn llywio ein penderfyniad ar yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf