Mae hawliau tramwy cyhoeddus yn darparu un o’r ffyrdd o gael mynediad i gefn gwlad yng Nghymru ac i’w fwynhau. Mae yna tua 33,000km (20,750 milltir) o hawliau tramwy cyhoeddus yng Nghymru. Maen nhw i gyd yn briffyrdd cyhoeddus ac mae gan y cyhoedd hawl i’w defnyddio.

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am reolaeth gyffredinol hawliau tramwy cyhoeddus. Fodd bynnag, mae gan dirfeddianwyr hefyd rwymedigaethau cyfreithiol pwysig a chyfrifoldebau rheoli dros hawliau tramwy cyhoeddus.

Mae yna bedwar categori penodol o hawliau tramwy cyhoeddus:

  • Llwybrau troed cyhoeddus, ar gyfer cerddwyr yn unig. Mae’r mwyafrif o hawliau tramwy cyhoeddus yng Nghymru yn llwybrau troed
  • Llwybrau ceffyl cyhoeddus, ar gyfer cerddwyr, beicwyr a marchogion
  • Cilffyrdd cyfyngedig, ar gyfer yr un grwpiau â’r rhai sy’n defnyddio llwybrau ceffyl, ond gall car a cheffyl a cherbydau di-fodur deithio arnynt hefyd
  • Cilffyrdd sy’n agored i bob traffig, ar gyfer pawb, yn cynnwys teithwyr mewn cerbydau modur

Gall pobl sy’n defnyddio cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn deithio ar yr holl lwybrau uchod os ydyn nhw’n addas. Ni fydd unrhyw gyfyngiadau a all fod yn berthnasol i ardaloedd o dir mynediad sydd â mynediad cyhoeddus o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn berthnasol ar gyfer hawliau tramwy cyhoeddus sy’n croesi’r tir.

Gall pobl fynd â’u cŵn gyda hwy wrth ddefnyddio hawliau tramwy cyhoeddus, er nad oes unrhyw ddyletswydd ar awdurdodau priffyrdd a pherchnogion tir i ddarparu camfeydd sy’n addas ar gyfer cŵn.  

Mae’r Côd Cefn Gwlad, y Côd Defnyddwyr Llwybrau a’r Côd Cerdded Cŵn yn rhoi gwybodaeth a chyngor ynghylch hawliau tramwy cyhoeddus a chrwydro yn yr awyr agored.   

Mapiau diffiniol o hawliau tramwy cyhoeddus

Bydd y mwyafrif o hawliau tramwy cyhoeddus yn cael eu cofnodi ar fap diffiniol a datganiad ar gyfer yr ardal.

Ein rôl

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i helpu sicrhau bod hawliau tramwy cyhoeddus:

  • Mewn cyflwr ardderchog ac yn hawdd eu defnyddio
  • Yn cael cyhoeddusrwydd da ac yn hawdd cael gwybodaeth amdanynt
  • Mor hygyrch i bob defnyddiwr cyfreithlon â phosibl

Mae enghreifftiau o'n gwaith yn cynnwys:

  • Darparu cyngor arbenigol ac ymateb i ymgynghoriadau ar ddeddfwriaeth a pholisi Hawliau Tramwy
  • Darparu cyngor ar ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyhoeddi ar gyfer y cyhoedd ac eraill
  • Cydlynu’r gwaith o ddarparu’r tri Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru a Llwybr Arfordir Cymru
  • Ymateb fel ymgynghorai statudol i Gynlluniau Gwella Hawliau Tramwy yng Nghymru

Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy a chyllid 

Mae’n ofynnol o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 i awdurdodau priffyrdd lleol gynhyrchu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy ar gyfer eu hardal; mae rhan fwyaf o'r cynlluniau cyfredol yn parhau hyd at tua 2027. 

Mae’r cynlluniau strategol hyn yn nodi blaenoriaethau allweddol yr awdurdod ar gyfer gwella hawliau tramwy gydol oes y Cynllun.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu hwb sylweddol i weithredu’r Cynlluniau hyn trwy’r Rhaglen Ariannu Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy (ROWIP). Cafodd y rhaglen hon ei gweinyddu a’i rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru am sawl mlynedd.

Yn fwy diweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cefnogaeth uniongyrchol i waith awdurdodau wrth iddynt wella hawliau tramwy cyhoeddus a mynediad cyhoeddus arall drwy'r Grant Gwella Mynediad, er enghraifft, drwy ddarparu £5.6 miliwn dros y 3 blynedd o 2022/23 i 2024/25. Bydd grantiau yn y dyfodol ar gyfer gwelliannau i fynediad, ar ôl 2026/27, yn ddarostyngedig i benderfyniadau cyllid Llywodraeth Cymru.

Mwy o wybodaeth am y Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy a chanlyniadau’r Rhaglen Ariannu.

Llwybrau Cenedlaethol, Llwybr Arfordir Cymru, a llwybrau eraill a hyrwyddir

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydlynu’r gwaith o ddarparu’r tri Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru a Llwybr Arfordir Cymru. Y rhain yw llwybrau blaenllaw y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus yng Nghymru. 

Rydym hefyd yn edrych i gefnogi partneriaid i ddarparu cyhoeddusrwydd cenedlaethol ar gyfer llwybrau rhanbarthol a lleol pellter hirach gyda sicrwydd ansawdd.

Cyfleoedd eraill ar gyfer mynediad yng Nghymru

Roedd Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn darparu hawliau mynediad cyhoeddus newydd i lawer o ardaloedd ar fynyddoedd, rhostiroedd a thiroedd comin ledled Cymru. Mae’r rhan fwyaf o’r ystad goedwig sy’n cael ei rheoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi’i neilltuo fel Tir Mynediad.

Mae traciau beicio wedi’u dynodi’n arbennig ar gyfer beicio, ond gallwch yn aml gerdded neu farchogaeth arnynt hefyd. Mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn cynnwys llawer o’r llwybrau hyn ac yn cael ei hysbysebu gan Sustrans.

Mae’n bosibl y gellir mwynhau mynediad caniataol mewn rhai ardaloedd. Nid yw mynediad caniataol yn hawl cyhoeddus. Yn hytrach, mae’n golygu tir, neu lwybrau, y mae’r perchennog yn caniatáu i bobl eu defnyddio. Ni fydd y rhain yn cael eu dangos ar fapiau fel arfer gan nad ydyn nhw’n barhaol.

Mae nifer o sefydliadau tirfeddiannol cyhoeddus neu elusennol fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Coed Cadw ac Ymddiriedolaethau Natur, ynghyd ag awdurdodau lleol, yn darparu mynediad ar safleoedd y maen nhw’n berchen arnynt neu’n eu rheoli.

Gwiriwch eu gwefannau i weld beth sy’n cael ei gynnig yn eich ardal chi. Efallai y bydd cyfle hyd yn oed i fod yn rhan o’r gwaith cynnal a chadw ar y safleoedd hynny.

Beth yw Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy?

Mae Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CRoW) 2000 yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod priffyrdd yng Nghymru a Lloegr i gyhoeddi Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (RoWIP).

Mae'r rhain yn gynlluniau blaenoriaethol 10 mlynedd ar gyfer gwella'r rhwydwaith hawliau tramwy lleol ac maent wedi'u bwriadu i fod o fudd i'r cyhoedd.  Sicrhau rhwydwaith gwell, ar gyfer cerdded, beicio, marchogaeth a defnyddwyr oddi ar y ffordd.

Mae pobl â phroblemau golwg a symudedd yn cael eu crybwyll yn benodol gan Ddeddf CRoW ac mae gofynion ychwanegol Deddf Cydraddoldeb 2010 hefyd yn berthnasol.

Mae'r cynlluniau yn pennu'r prif ddulliau y bydd awdurdodau priffyrdd lleol yn nodi, blaenoriaethu a chynllunio ar gyfer gwelliannau i'w rhwydwaith hawliau tramwy lleol.

Adolygiad Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy

Rhaid i awdurdodau lleol adolygu eu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy o fewn 10 mlynedd ar ôl cynhyrchu eu cynllun diwethaf. Cynhyrchwyd y cynlluniau cyntaf yn 2007/8. Er bod yr union amseroedd yn amrywio fesul awdurdod lleol, golyga hyn y dylai rownd nesaf Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy gael ei hadolygu o tua 2027.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau statudol sy’n nodi sut y dylid adolygu Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy a'r camau allweddol sy'n gysylltiedig.

Rhaid i awdurdodau wneud y canlynol:

  • Cynllunio ar gyfer yr Adolygiad: cyhoeddi ac amlinellu a llunio amserlen ac ymgynghoriad cychwynnol
  • Cynnal asesiadau newydd
  • Adolygu’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy blaenorol a phenderfynu a oes angen iddynt ei ddiwygio
  • Cyhoeddi Cynllun Gwella Hawliau Tramwy drafft. Mae hyn yn amodol ar 12 wythnos o leiaf o ymgynghoriad cyhoeddus
  • Adolygu'r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy drafft
  • Cyhoeddi eu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Terfynol

Dylai’r Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy a gyhoeddwyd gynnwys adrannau gwahanol sy'n nodi'r cyd-destun strategol ac asesiad o hawliau tramwy lleol awdurdod. Bydd yr adrannau hyn yn arwain at Ddatganiad Gweithredu ar gyfer rheoli a gwella hawliau tramwy lleol dros oes y Cynllun. Rhaid i Gynlluniau Gwella Hawliau Tramwy hefyd gynnwys 'cynllun cyflawni' sy'n nodi blaenoriaethau uniongyrchol awdurdod ar gyfer eu hawliau tramwy, gan gynnwys cynlluniau gwaith 1 i 3 blynedd. Disgwylir i'r cynlluniau cyflawni gael eu hadolygu'n flynyddol a'u diweddaru yn ôl yr angen.

Dylai'r Datganiad Gweithredu gynnwys nodau a blaenoriaethau allweddol, ymrwymiadau strategol hirdymor, a manylion yr hyn a fydd yn cael ei adael i gynlluniau cyflawni.

Dweud eich dweud ar hawliau tramwy

Ceir cyfleoedd cyfnodol fel rhan o'r broses adolygu Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy i'r cyhoedd a rhanddeiliaid sydd â diddordeb helpu'r awdurdod i ddatblygu eu cynllun nesaf trwy ddarparu gwybodaeth am eu hanghenion a'u blaenoriaethau.

Er mwyn cael manylion am Gynlluniau Gwella Hawliau Tramwy cyfredol awdurdod lleol ac i wybod erbyn pryd y bydd angen eu hadolygiad nesaf o’r cynllun, ewch i wefan yr awdurdod neu cysylltwch â nhw'n uniongyrchol.

Mae gan Fforymau Mynediad Lleol rôl allweddol i gefnogi datblygiad y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy.

Mae CNC yn ymgynghorai statudol ar gyfer pob Cynllun Gwella Hawliau Tramwy ac mae'n edrych ar sut y gall tir a reolir gan CNC helpu i ddiwallu anghenion y cyhoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf