Ple y’u cynhyrchir nhw?

Cynhyrchwn Gynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd ar gyfer Cymru gyfan, gan gynnwys llifogydd o brif afonydd, y môr a chronfeydd. Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn gwneud yr un gwaith â ni ar gyfer Lloegr, a chydweithiwn fel partneriaid.

O dan y Rheoliadau Perygl Llifogydd, mae Prif Awdurdodau Llifogydd Lleol (PALlLl) yn gyfrifol am gynhyrchu Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd yn Ardaloedd Perygl Llifogydd.

Sut y’u cynhyrchir?

Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried sut mae cynhyrchu Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd. Fe’u seilir, i raddau helaeth, ar wybodaeth sydd ar gael mewn cynlluniau blaenorol, gan gynnwys:

  • Cynlluniau Rheoli Llifogydd Dalgylchol
  • Cynlluniau Rheoli’r Morlin
  • Strategaethau Rheoli Perygl Llifogydd Lleol

Ymgynghorodd Asiantaeth yr Amgylchedd ynghylch sut mae llunio Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd ar ran Cymru a Lloegr o Awst hyd Hydref 2012. Derbyniodd yr ymgynghoriad rhagor na 80 ymateb gan gyrff cenedlaethol, Awdurdodau Rheoli Perygl, cwmnïau preifat ac unigolion. Cyhoeddir yr ymatebion ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd (Ymgynghoriad ynghylch llunio Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd yng Nghymru a Lloegr).

Gan weithio â Llywodraeth Cymru, Defra ac Asiantaeth yr Amgylchedd, rydym wedi ystyried adborth yr ymgynghoriad, a gosod trywydd ar gyfer datblygu Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd. Rydym wedi ystyried adborth yr ymgynghoriad ynghylch cydweithio er mwyn rheoli basnau afonydd, hefyd.

Cyhoeddwyd crynodeb o ymatebion y ddau ymgynghoriad, ynghyd â dull arfaethedig datblygu Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd yng Nghymru a Lloegr.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig