Ymgynghoriad ynghylch newidiadau i Drwyddedau Rheolau Safonol

Mae Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 yn caniatáu inni gynnig trwyddedau safonol, er mwyn lleihau’r baich gweinyddol ar fusnesau tra’n cynnal safonau amgylcheddol. Maent yn seiliedig ar gyfres o reolau safonol y gallwn eu rhoi ar waith yn eang yng Nghymru a Lloegr. Caiff y rheolau eu datblygu trwy ddefnyddio asesiadau o’r risgiau amgylcheddol a ddaw yn sgil y gweithgaredd dan sylw.

Mae’r rheolau’n cymryd amser, adnoddau ac ymgynghori sylweddol i’w datblygu, ond ar ôl iddynt gael eu rhoi ar waith maent yn gwneud y dasg o weithredu a gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r ceisiadau’n un gymharol rwydd, a hynny gan nad oes angen cynnal asesiad risg penodol ar gyfer y safle.

Rydym yn ymgynghori ynghylch nifer o newidiadau’n ymwneud â nifer o reolau presennol a bennwyd am resymau gwahanol, gan gynnwys cyflwyno gofynion atal tân newydd, a newidiadau i amodau trwyddedau fel y gellir cynnwys amrywiaeth ehangach o ddeunyddiau a gweithgareddau dan un drwydded. Ymhellach, rydym wedi adolygu ein casgliad o drwyddedau Gwaredu ar gyfer Adfer fel y gellir lleihau’r risg llygredd yn sgil y gweithgareddau hyn.

Os cytunir ar y newidiadau arfaethedig, fe fyddant yn berthnasol i drwyddedau presennol a thrwyddedau newydd fel ei gilydd.

Caiff y cynnig ei nodi’n fanwl yn y dogfennau ymgynghori isod.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal rhwng 1af Awst a 14eg Hydref 2016.