Adnewyddu Cored Resolfen

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu gwneud gwaith i wella cored ar Afon Nedd (NGR 281538, 201680). Bydd y gwaith gwella yn cynnwys y canlynol: atgyweirio strwythur y gored, tirlunio’r lan, gosod ysgol bysgod, gosod deunyddiau i atal erydu ar y lan.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried nad yw’r gwaith gwella yn debygol o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw’n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol ar ei gyfer. Er nad yw datganiad amgylcheddol yn cael ei fwriadu, mae’r cynllun wedi ystyried ffactorau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’r safle ac wedi ymgorffori gwelliannau amgylcheddol pan fo’n ddichonadwy.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno cael rhagor o wybodaeth, neu wneud sylwadau mewn perthynas ag effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith gwella arfaethedig, wneud hynny yn ysgrifenedig, a’u hanfon i’r cyfeiriad a nodir isod, o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn.

Euan Hampton

Cynnal Prosiectau, Cyfoeth Naturiol Cymru, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF240TP