Beth rydym yn ei wneud?

Hysbysa Cyfoeth Naturiol Cymru y bwriada wella’r amddiffynfeydd llifogydd ar Afon Rhymni yn Ystâd Ddiwydiannol Pont Rhymni, Caerdydd rhwng safle Homebase (NGR ST 21175 78411) a Phont y Rheilffordd (Llundain i Abertawe) (NGR ST 21219 78286).

Bydd y gwaith gwella arfaethedig yn cynnwys gosod wal bolion dur dalennog, drwy’r clawdd llanw sydd eisoes yn bodoli. Bydd y wal newydd yn 148m o hyd, a tua 0.66m uwchben lefel bresennol y ddaear.

Asesiad ecologol

Barn Cyfoeth Naturiol Cymru yw na fydd y gwaith gwella yn debyg o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd, ac ni fwriada baratoi datganiad amgylcheddol ynghylch y cyfryw. Fodd bynnag, yn unol ag ymarfer da, mae Taflen Gofnodi Asesiad Effeithiau Amgylcheddol wedi cael ei llunio i asesu effeithiau amgylcheddol posibl y gwaith gwella arfaethedig. Gellir cael hon o’r Rheolwr Prosiect sydd wedi cael ei nodi ar waelod yr hysbysiad hwn, ar ddyddiau’r wythnos rhwng 9am a 5pm.

Dylai’r sawl a ddymuno gyflwyno sylwadau ynghylch effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith gwella arfaethedig eu gyrru, mewn ysgrifen, i’r cyfeiriad isod o fewn 28 niwrnod i ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn.

Tim Hopkins (Rheolwr Prosiect)
Cyfoeth Naturiol Cymru
Llawr 1af, Ty Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP

Os oes gennych unrhyw sylwadau, gyrrwch hwy erbyn 24 Medi 2014.