Ymgynghoriad ynghylch Newidiadau Arfaethedig i Dair Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) Bresennol

Mae'r ymgynghoriad wedi cau erbyn hyn:

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn y broses o ystyried ac ymateb i'r sylwadau a gawsom. Byddwn yn casglu'r ymatebion i'r ymgynghoriad ac yn cyflwyno'r rhain i Lywodraeth Cymru. Bydd crynodeb o'r ymatebion a wnaed i Gyfoeth Naturiol Cymru ar gael i'r cyhoedd ar y wefan maes o law.

Sut y byddaf yn cael gwybod am y penderfyniad?

Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y Gweinidog Cymreig dros Gyfoeth Naturiol a Bwyd ar p'un ai i wneud y newidiadau i'r AGA. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ysgrifennu at randdeiliaid, gan gynnwys y rhai sydd wedi gwneud sylwadau, i roi gwybod iddynt am benderfyniad y Gweinidog a diweddaru'r wybodaeth ar ein gwefan.

Mae AGA yn ddynodiad Ewropeaidd ac fe’u dosberthir o dan Gyfarwyddeb Adar Gwyllt Ewrop, sy’n rhoi lefel uwch o amddiffyniad iddynt.

Mae Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) yn ardal o dir, dŵr neu fôr sydd wedi cael ei nodi fel ardal o bwys rhyngwladol i rywogaethau prin, dan fygythiad, o adar a geir o fewn yr Undeb Ewropeaidd, o safbwynt bridio, bwydo, gaeafu neu fudo.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru ymgymryd â’r ymgynghoriad hwn ar ei rhan. Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Cymru fydd yn penderfynu’n derfynol pa un i fwrw ymlaen â’r cynigion hyn, a hynny’n llwyr ar sail yr achosion gwyddonol a gyflwynir iddo ac unrhyw wybodaeth wyddonol ychwanegol a ddatgelir yn ystod y broses ymgynghori.

Mae Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Cymru hefyd am gael gwybodaeth a barn am weithgareddau sy’n digwydd yn yr ardaloedd hyn neu’n agos atynt, y gallai’r cynigion hyn effeithio arnynt.

Mae’r wybodaeth hon yn werthfawr o ran helpu i ystyried effaith gymdeithasol ac economaidd y newidiadau posibl i'r Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig hyn, a bydd hefyd yn help i lunio cynigion rheoli ar gyfer yr ardaloedd hyn. Bydd Llywodraeth Cymru felly yn cyhoeddi adroddiad Asesiad Effaith ar ei gwefan yn ystod ymgynghoriad a gynhelir ar wahân gan Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â’r dystiolaeth wyddonol o blaid y newidiadau arfaethedig.

Rydym yn ymgynghori ynghylch cynigion i:

  • ddiweddaru’r rhestrau o rywogaethau o adar sy’n cael eu hystyried o bwys rhyngwladol ar ddau o’r tri safle, AGA Glannau Aberdaron ac Ynys Enlli / Aberdaron Coast and Bardsey Island, ac AGA Skokholm and Skomer
  • diweddaru’r nifer o adar ar AGA Grassholm
  • ymestyn ffiniau presennol y tri AGA tua’r môr o rhwng 2km a 9km

Sesiynau Galw i Mewn

Rydym yn sylweddoli y gallai fod gennych ragor o gwestiynau ac mae croeso ichi ddod i sesiynau galw heibio i drafod unrhyw gwestiynau sydd gennych wyneb yn wyneb.

Glannau Aberdaron ac Ynys Enlli / Aberdaron Coast and Bardsey Island SPA
Awdurdod lleol: Gwynedd
Dyddiad ac Amser: Dydd Llun, 17 Chwefror 2014 - O 13:30 hyd at 20:00
Lleoliad: Clwb Hwylio Aberdaron, Aberdaron, Pwllheli, Gwynedd LL53 8BD
Cyswllt Rhanbarthol: Lucy Kay /Charlotte Williams - Ffon. 0300 065 3000
swyddfa rhanbarthol: Cyfoeth Naturiol Cymru, Plas Penrhos, Ffordd Penrhos, Bangor, Gwynedd, LL57 2BX

 

AGA Grassholm
Awdurdod lleol: Sir Benfro
Dyddiad ac Amser: Dydd Mercher, 19 Chwefror 2014 - O 13:30 hyd at 20:00
Lleoliad: Neuadd Dinas Tŷ Ddewi, Stryd Fawr, Tŷ Ddewi, Sir Benfro, SA62 6SD
Cyswllt Rhanbarthol: Andrea Winterton /Alex Harding - Ffon. 0300 065 3000
swyddfa rhanbarthol: Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Llanion, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro SA72 6DY

 

AGA Skokholm and Skomer
Awdurdod lleol: Sir Benfro
Dyddiad ac Amser: Dydd Iau, 20 Chwefror 2014 - O 13:30 hyd at 20:00
Lleoliad: Neuadd Bentref Marloes, Marloes, Hwlffordd, Sir Benfro SA62 3AZ
Cyswllt Rhanbarthol: Andrea Winterton /Alex Harding - Ffon. 0300 065 3000
swyddfa rhanbarthol: Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Llanion, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro SA72 6DY

Sut i ymateb

Anfonwch y Ffurflen Ymateb i Ymgynghoriad trwy:

Ebost:

ymgynghoriadaga@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Gallwch ymateb dros yr ebost erbyn hanner nos 25 Ebrill 2014, gydag atodiadau, os oes angen, hyd at uchafswm o 20mb.

Post:

Tîm Safleoedd Rhyngwladol
Cyfoeth Naturiol Cymru
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW

Bydd crynodeb o’r ymatebion a gyflwynir i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gael i’r cyhoedd ar y wefan at ddiwedd y cyfnod ymgynghori.

Dylech fod yn ymwybodol y gallem gael ceisiadau, o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, am wybodaeth sy’n cynnwys ymatebion unigol ac enwau a chyfeiriadau pobl neu sefydliadau. Mewn achosion felly rhaid inni benderfynu pa un i ryddhau’r wybodaeth ai peidio, ac os oes rhywun wedi gofyn am i’w enw a’i gyfeiriad neu’i sylwadau unigol beidio â chael eu datgelu, byddwn yn ystyried hynny wrth benderfynu pa un i ryddhau’r wybodaeth honno.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Llythyr ymgynghoriad AGA PDF [53.0 KB]