Cefndir y tri ymgynghoriad ar Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig

Cyfarwyddebau Cynefinoedd ac Adar yng Nghymru

Mae rhai wedi’u dynodi’n Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA), o dan Gyfarwyddeb Adar Gwyllt y CE, ar gyfer poblogaethau adar sydd o bwys rhyngwladol.

Caiff eraill eu dynodi’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) o dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd a Rhywogaethau’r CE, ar gyfer cynefinoedd, planhigion ac anifeiliaid.

Bwriad AGA ac ACA yw diogelu ac adfer y cyfoeth o fywyd gwyllt a chynefinoedd sydd gennym yn Ewrop.

Yng Nghymru

Mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru o dan y Gyfarwyddeb Adar a’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd a Rhywogaethau i ddynodi AGA ac ACA. Mae’r cyfrifoldeb yn ymestyn i’r amgylchedd morol hyd at 12 milltir forol o’r lan.

Ym mis Ionawr 2014, mae 20 AGA a 92 ACA. Mae ffiniau rhai o’r rhain yn gorgyffwrdd, naill ai’n rhannol neu’n gyfan gwbl. Gellir cael rhagor o wybodaeth am AGA ac ACA drwy ddefnyddio map rhyngweithiol Cyfoeth Naturiol Cymru o Safleoedd a Thirweddau Gwarchodedig a gwefan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC).

Newidiadau i’r rhywogaethau adar sy’n cael eu gwarchod gan AGA

Cafodd yr Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig cyntaf yn y DU eu nodi a’u dosbarthu ddechrau 1980au. Maent yn cael eu rheoli’n unswydd i warchod y nodweddion a oedd yn eu gwneud yn gymwys i gael dynodiad yn y lle cyntaf.

Yn 2001, cynhaliwyd adolygiad o AGA y DU gan y JNCC, English Nature (Natural England erbyn hyn), Scottish Natural Heritage (SNH) a Chyngor Cefn Gwlad Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru erbyn hyn). Nod y cyhoeddiad, (Stroud et al., 2001), oedd pennu meini prawf cyson ar gyfer nodi AGA tir y DU.

Roedd y rhan fwyaf o’r safleoedd yn yr adolygiad wedi’u dynodi’n AGA eisoes. Roedd yr adolygiad yn argymell sawl newid i rai safleoedd, ar sail y data adaregol gorau a oedd ar gael ar y pryd ac yn unol â chanllawiau dethol AGA 1999. Mewn sawl achos, mae’r argymhellion yn nodi rhywogaethau gwahanol i’r rhai ar y dynodiadau AGA cyfredol. Mae’r newidiadau arfaethedig hyn yn rhan o’r ymgynghoriad hwn.

Ymestyn AGA adar môr sy’n magu yng Nghymru

Mae rhai o’r AGA tirol yng Nghymru yn cynnwys rhywogaethau o adar môr. Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o’r AGA wedi’u cyfyngu i dir uwchlaw’r marc distyll cymedrig, ac eithrio AGA Bae Caerfyrddin / Carmarthen Bay ac AGA Liverpool Bay / Bae Lerpwl.

Mae ymchwil y JNCC wedi dangos bod rhannau o’r môr gerllaw nythfeydd bridio adar môr yn bwysig i adar môr ar gyfer gweithgareddau hanfodol fel gorffwys, trwsio’u plu ac arddangos eu hunain. Ardaloedd gorffwys (neu ‘loafing areas’) yw’r enw ar y rhain.

Mae’r JNCC wedi argymell estyniadau addas tua’r môr i ffiniau AGA presennol ar gyfer nythfeydd bridio adar môr. Mae’r pellter yn dibynnu ar ba rywogaethau o adar sy’n bridio yno. Er enghraifft, argymhellir estyniad o 1km tua’r môr ar gyfer nythfeydd bridio palod, llursod neu wylogod, a 2km tua’r môr ar gyfer nythfeydd bridio huganod neu adar drycin y graig.

Mae’r JNCC yn argymell hefyd y dylid ymestyn AGA sy’n cynnal adar drycin Manaw o leiaf 4km oddi ar y lan, a hyd yn oed ymhellach lle mae gwybodaeth am y safle dan sylw yn awgrymu bod hyn yn briodol (ar sail tystiolaeth olrhain adar sy’n gorffwys â radio).

O ganlyniad, gyda chefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, mae Gweinidogion Cymru’n cynnig ambell newid i dri safle presennol:

  • AGA Glannau Aberdaron ac Ynys Enlli / Aberdaron Coast and Bardsey Island
  • AGA Grassholm
  • AGA Skokholm and Skomer