Beth rydym yn ei wneud?

Cyhoedda Cyfoeth Naturiol Cymru y bwriada wneud gwaith gwella amddiffynfeydd llifogydd Aber Hafren ger Magwyr a Gwndy rhwng CGO ST438848 a ST453858, pellter o 1.95 cilomedr. Golyga’r gwaith gwella arfaethedig godi’r rhan 1.95km o’r arglawdd pridd presennol hyd uchder o 9.41m USO er mwyn gwella amddiffyn y glannau rhag llifogydd.

Effaith ecolegol

Barn Cyfoeth Naturiol Cymru yw y bydd y gwaith gwella’n debyg o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd, a bwriada baratoi Datganiad Amgylcheddol yn ei gylch. Cynhyrchir a hysbysebir hwn, a pherir ei fod ar gael i’w weld, ymhen amser.

Cynhyrchwyd Adroddiad Ymchwil Amgylcheddol, Asesiad Ecolegol Dechreuol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, sy’n manylu effeithiau amgylcheddol dichonol y cynllun.

Gellir cael y dogfennau hyn trwy ysgrifennu at:

Alexander Scorey
Rheolwr Cynllun Amgylcheddol
Cyfoeth Naturiol Cymru
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd CF24 0TP

neu yrru neges e-bost at alex.scorey@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diben yr hysbysiad hwn yw rhoi gwybod i’r cyhoedd bod angen penderfynu a ddylai’r gwaith gwella fynd rhagddo.

Os oes gennych unrhyw sylwadau, gyrrwch hwy erbyn 19 Mawrth.