Y Gyfarwyddeb Effeithlonrwydd Ynni – canllawiau arfaethedig ar ddadansoddi cost a budd

Un Erthygl yn y Gyfarwyddeb yw Erthygl 14, sy'n annog nodi botensial cost-effeithiol ar gyfer sicrhau effeithlonrwydd ynni

Mae’r ymgynghoriad yma ar Erthyglau 14(5)–(8) (Hyrwyddo effeithlonrwydd wrth wresogi ac oeri), o’r Gyfarwyddeb Effeithlonrwydd Ynni yn benodol. Amcan y cymal yma yw hyrwyddo effeithlonrwydd wrth wresogi ac oeri drwy roi gofynion ar ddatblygwyr rhai gosodiadau.

Uwchlaw mewnbwn thermol o 20MW, bydd angen i’r gosodiadau hyn ystyried y cyfleoedd i ddatblygu cydgynhyrchu, gan adfer gwres gwastraff a chyflenwi gwres i rwydweithiau gwresogi ac oeri lleol. Mae hyn yn cynnwys gofynion yn ymwneud â dadansoddi cost a budd gosodiadau o’r fath.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyd-weithio ac Asiantaeth yr Amgylchedd er mwyn ymgynghori ynglŷn â’r canllawiau arfaethedig, ynghyd â thaenlen, ar sut i fynd ati i wneud dadansoddiad cost a budd o’r fath. Diben yr ymgynghoriad hwn yw rhannu a chasglu adborth ar y canllawiau drafft a’r daenlen, a byddem yn croesawu eich barn ar hyn.

Bydd canlyniad yr ymgynghoriad yn cyfrannu at newidiadau i ganllawiau ar effeithlonrwydd ynni o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn edrych ar y sylwadau ar y canllawiau a’r daenlen fel sail i ganllawiau dilynol CNC, gan geisio sicrhau bod y dull gweithredu yn gyson yng Nghymru a Lloegr.

Sut i ymateb:

Cyflwynwch eich sylwadau’n uniongyrchol drwy’r dolenni ymgynghori sydd ar gael ar wefan Environment Agency, neu os yw’n well gennych anfonwch nhw at:

Ebost:

energyefficiencydirective@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Post:

Diwydiant a Reoleiddir (y Gyfarwyddeb Effeithlonrwydd Ynni)
Busnes, Rheoleiddio ac Economeg
Llawr 2
Cyfoeth Naturiol Cymru
Ty Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 11eg Ebrill 2014.