Ymgynghoriad ynghylch Newidiadau Arfaethedig i Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) Glannau Aberdaron ac Ynys Enlli

Mae'r ymgynghoriad wedi cau erbyn hyn:

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn y broses o ystyried ac ymateb i'r sylwadau a gawsom. Byddwn yn casglu'r ymatebion i'r ymgynghoriad ac yn cyflwyno'r rhain i Lywodraeth Cymru. Bydd crynodeb o'r ymatebion a wnaed i Gyfoeth Naturiol Cymru ar gael i'r cyhoedd ar y wefan maes o law.

Sut y byddaf yn cael gwybod am y penderfyniad?

Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y Gweinidog Cymreig dros Gyfoeth Naturiol a Bwyd ar p'un ai i wneud y newidiadau i'r AGA. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ysgrifennu at randdeiliaid, gan gynnwys y rhai sydd wedi gwneud sylwadau, i roi gwybod iddynt am benderfyniad y Gweinidog a diweddaru'r wybodaeth ar ein gwefan.

Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) bresennol

Mae’r safle’n cynnwys Ynys Enlli a darn o’r morlin cyfagos ynghyd â dwy ynys fach; Ynysoedd Gwylanod.

Mae’r safle presennol yn cynnal poblogaeth o frain coesgoch sy’n bridio, a nythfa fawr o adar drycin Manaw sy’n bridio.

Newidiadau Arfaethedig i’r Safle

Mae argymhelliad sy’n rhan o gyngor ffurfiol i lywodraeth y Deyrnas Unedig mewn adroddiad sy’n dwyn yr enw ‘2001 SPA review’ (Stroud et al. 2001) yn awgrymu newidiadau i’r rhestr o rywogaethau cymwys. Y rhywogaeth gymwys ychwanegol a awgrymir yw poblogaeth o frain coesgoch nad ydynt yn bridio.

Nid yw adolygiad safleoedd AGA 2001 ei hun yn argymell unrhyw newidiadau ffiniau ar gyfer y nodwedd ychwanegol hon. Fodd bynnag, newid pellach sy’n cael ei gynnig, er mwyn cyflawni rhwymedigaethau o dan Gyfarwyddeb Adar y Cyngor Ewropeaidd i nodi’r tiriogaethau mwyaf addas ar y môr, yw ymestyn ffin yr AGA i gynnwys ardaloedd cyfagos sy’n cael eu defnyddio gan adar drycin Manaw o’r AGA bresennol.

Yr estyniad sy’n cael ei argymell i safleoedd gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur yw ‘o leiaf 4 km, a mwy na hynny lle mae data penodol am safle yn cefnogi hynny’. Yng nghyd-destun AGA Glannau Aberdaron ac Ynys Enlli / Aberdaron Coast and Bardsey Island mae’r estyniad sy’n cael ei awgrymu i’r ffiniau yn 9km o Ynys Enlli, gan fod arolygon wedi dangos pa mor bell y mae adar drycin Manaw yn ymgynnull.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y safle, cysylltwch â’r swyddog lleol, Charlotte Williams, yn Cyfoeth Naturiol Cymru, neu cysylltwch â’r Ganolfan Gofal Cwsmeriaid yn Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000.

Sesiwn Galw i Mewn

Rydym yn sylweddoli y gallai fod gennych ragor o gwestiynau ac mae croeso ichi ddod i sesiwn galw i mewn i drafod unrhyw gwestiynau sydd gennych wyneb yn wyneb.

Glannau Aberdaron ac Ynys Enlli / Aberdaron Coast and Bardsey Island SPA
Awdurdod lleol: Gwynedd
Dyddiad ac Amser: Dydd Llun, 17 Chwefror 2014 - O 13:30 hyd at 20:00
Lleoliad: Clwb Hwylio Aberdaron, Aberdaron, Pwllheli, Gwynedd LL53 8BD
Cyswllt Rhanbarthol: Lucy Kay /Charlotte Williams - Ffon. 0300 065 3000
swyddfa rhanbarthol: Cyfoeth Naturiol Cymru, Plas Penrhos, Ffordd Penrhos, Bangor, Gwynedd, LL57 2BX

Sut i ymateb

Bydd crynodeb o'r ymatebion a dderbyniwyd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori. Ni fydd yn cynnwys enwau ymatebwyr.

Dylech wybod y gallem gael cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol am gopi o’r adroddiad llawn ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad, ac mae’n bosibl y gofynnir i ni ddarparu copïau o ymatebion unigol, yn cynnwys enwau a chyfeiriadau’r unigolion neu’r sefydliadau a’u hanfonodd. Mewn achosion o’r fath, rhaid i ni benderfynu a ddylid rhyddhau’r wybodaeth honno ai peidio, ac os yw rhywun wedi gofyn i ni beidio â datgelu ei enw a’i gyfeiriad, gallwn ystyried hynny wrth benderfynu a ydym am ryddhau’r wybodaeth honno ai peidio.

Mae rhagor o wybodaeth ym mholisi Rhyddid Gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.

Anfonwch y Ffurflen Ymateb i Ymgynghoriad trwy:

Ebost:

ymgynghoriadaga@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Gallwch ymateb dros yr ebost erbyn hanner nos 25 Ebrill 2014, gydag atodiadau, os oes angen, hyd at uchafswm o 20mb.

Post:

Tîm Safleoedd Rhyngwladol
Cyfoeth Naturiol Cymru
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW

Newidiadau posibl i safleoedd AGA eraill yng Nghymru

  • Grassholm
  • Skokholm and Skomer

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig