Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru bwerau i adennill costau am rai o’i wasanaethau, yn unol â deddfwriaeth. Dan y pwerau hyn, mae pobl a sefydliadau sydd angen trwydded amgylcheddol neu wasanaethau penodol yn talu am gost y gwasanaeth yn lle bod trethiant cyffredinol yn ysgwyddo’r gost.

Mae’r rheoliadau hyn yn ymwneud â gweithredwyr sy’n didoli 1000 tunnell neu fwy y flwyddyn o ddeunydd gwastraff sych cymysg o gartrefi neu wastraff tebyg, er mwyn cynhyrchu deunyddiau eildro o wydr, metel, papur neu blastig. Mae’r rheoliadau yn effeithio ar tua 30 o ddeiliaid trwyddedau gwastraff cyfredol yng Nghymru.

Diben y taliad arfaethedig a drafodir yn yr ymgynghoriad hwn - £2,065 y flwyddyn - yw talu am gostau disgwyliedig sy’n deillio o reoleiddio gweithrediadau cymwys.

Sut i ymateb

A wnewch chi gyflwyno eich sylwadau erbyn 4pm Dydd Mawrth 3 Mehefin 2014 yn un o’r ffyrdd a ganlyn:

Ebost:

enquiries@naturalresourceswales.gov.uk gan deipio “Ymateb i Ymghynghoriad Cyfleusterau Deunyddiau” yn glir yn llinell pwnc y neges e-bost

neu

Post:

Tim Gwastraff
Cyfoeth Naturiol Cymru
Llwyn Brain
Ffordd Penlan
Parc Menai
Bangor
Gwynedd, LL57 4DE

Cyhoeddi canlyniadau’r ymgynghhoriad

Byddwn yn cyhoeddi ein hymateb llawn i’r ymgynghoriad ym mis Gorffennaf 2014. Bydd yn cynnwys crynodeb, sylwadau ac ymholiadau a gafwyd yn yr ymatebion, ac yn amlinellu ein hargymhellion. Bydd yr adroddiad i’w weld ar ein gwefan ac yn cael ei ddosbarthu i’n hymgyngoreion.