Cyflwyniad

Ardal Gwarchodaeth Dyfrdwy yw’r enw ffurfiol a roddir ar ardal harbwr ddiffiniedig y mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn awdurdod gwarchodaeth, harbwr a goleudy lleol ar ei chyfer. Mae’r ardal harbwr hon yn cynnwys afon Dyfrdwy a’i haber, sy’n ymestyn o Wilcox Point i lawr yr afon o’r gored yng Nghaer, tua’r môr at linell ddychmygol sy’n cysylltu’r Parlwr Du ar arfordir Cymru â Hilbre Point ar benrhyn Cilgwri.

Mae’r Cod Diogelwch Morol ar gyfer Porthladdoedd, a gyhoeddwyd ddiwethaf gan yr Adran Drafnidiaeth ym mis Rhagfyr 2012 ac a gafodd ei ddiwygio a’i ailgyhoeddi yn 2017, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau porthladdoedd gyhoeddi cynllun diogelwch ar gyfer gweithrediadau morol. Dylai’r cynllun ddangos sut y bydd y polisïau a’r gweithdrefnau’n cael eu datblygu gan yr awdurdod i fodloni gofynion y Cod.

Datganiad polisi 

Mae Polisi CNC fel mae’n ymwneud â diogelwch morol a defnyddwyr Ardal Gwarchodaeth Dyfrdwy wedi’i atgynhyrchu isod.

Mae CNC yn ymrwymedig i hyrwyddo rheolaeth dda o'r adnoddau sydd ar gael iddo er mwyn gwneud y canlynol:

  • Cynnal a rheoleiddio gweithrediadau morol mewn ffordd sy'n diogelu Ardal Gwarchodaeth Dyfrdwy, ei defnyddwyr, y cyhoedd a'r amgylchedd i gyflawni'r safon diogelwch morol sy'n ofynnol gan y Cod.
  • Hyrwyddo'r defnydd o Ardal Gwarchodaeth Dyfrdwy a sicrhau bod ei datblygiad economaidd yn ystyried ac yn cydbwyso barn ac anghenion yr holl randdeiliaid, o safbwynt y defnydd o adnoddau naturiol.

Amcanion y cynllun

Er mwyn bodloni gofynion y Cod a'i Ddatganiad Polisi, bydd CNC yn datblygu ac yn gweithredu’r amcanion canlynol:

  • Bydd y dyletswyddau a'r pwerau perthnasol yn cael eu hadolygu’n barhaus i sicrhau bod CNC yn gallu rheoleiddio a gwarchod mordwyo diogel yn effeithiol o fewn ei ardal harbwr statudol a'i ddynesfeydd.
  • Caiff System Rheoli Diogelwch Ardal Gwarchodaeth Afon Dyfrdwy ei chynnal yn seiliedig ar asesu risg yn drylwyr.
  • Bydd asesiadau risg ar gyfer gweithrediadau morol yn cael eu hadolygu’n barhaus er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ddilys a bod y rheolaethau a nodir i liniaru risgiau yn briodol ac yn effeithiol o ran lleihau'r risgiau i lefel sydd mor isel ag sy'n rhesymol ymarferol.
  • Bydd y gofynion monitro, archwilio ac adolygu sydd wedi'u dogfennu o fewn System Rheoli Diogelwch Ardal Gwarchodaeth Afon Dyfrdwy yn cael eu gweithredu fel sy'n briodol gan Feistr Harbwr Ardal Gwarchodaeth Dyfrdwy, dirprwy enwebedig, neu gontractwr awdurdodedig.
  • Bydd CNC yn darparu cymhorthion mordwyo er mwyn gwella diogelwch mordwyo ac i fodloni gofynion yr Awdurdod Goleudai Cyffredinol (Trinity House).
  • Bydd CNC yn monitro a chynnal ei gymhorthion mordwyo er mwyn sicrhau bod ei safonau perfformiad yn bodloni'r gofynion targed a osodwyd gan y Gymdeithas Ryngwladol Cymhorthion Morol ar gyfer Awdurdodau Mordwyo a Goleudai.
  • Bydd archwiliadau annibynnol o System Rheoli Diogelwch Ardal Gwarchodaeth Afon Dyfrdwy yn cael eu cynnal bob blwyddyn i fonitro perfformiad yn erbyn y safonau gofynnol.
  • Bydd canlyniadau’r archwiliadau’n cael eu cyflwyno drwy adroddiad Person Dynodedig Ardal Gwarchodaeth Dyfrdwy i Gyfarwyddwr Gweithredol CNC ar gyfer Gweithrediadau, fel Deiliad Dyletswydd.
  • Bydd CNC yn sicrhau y bydd unrhyw ddiffygion o ran archwilio neu welliannau diogelwch a nodir drwy’r broses archwilio’n cael eu cwblhau’n amserol.
  • Bydd canfyddiadau’r archwiliad, ynghyd â pherfformiad CNC yn erbyn y Cynllun Diogelwch hwn ar gyfer Gweithrediadau Morol yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn gan y Deiliad Dyletswydd.
  • Bydd y Cynllun Diogelwch hwn ar gyfer Gweithrediadau Morol yn cael ei gyhoeddi ar wefan CNC. Bydd y cynllun yn cael ei adolygu bob blwyddyn ac, os oes angen, bydd newidiadau’n cael eu gwneud a bydd y cynllun diwygiedig yn cael ei gyhoeddi.
Diweddarwyd ddiwethaf